Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhjf. 145.] AWST, 1847. [Cyf. XII. Y BYD PAGANAIDD, GAN Y PAROH. J. WILLIAMS, LLANGADOG. Rhenib. y byd Paganaidd, yn gyffredin, i ddau ddosbarth, sef gwareiddiedìg ac an- wareiddiedig. Wrth genedl wareiddiedig y deallwn y genedl hono sydd yn " ys- gogi yn mlaen mewn gwybodaeth, cel- fyddyd, moesau, a pherthjmasau cymdti- thasol;" y fath ag yw China yn bresenol. Wrth genedl anwaraidd y golygwn y genedl hono sydd yn hollol ddigynydd yn y pethau a nodwyd; gogleddbarth Ame- rica, a deheubarth Affrica, syddenghreifft- iau o'r cyfryw. Yn awr, rhoddaf gerbron darllenyddion y Diwygiwr ychydig hanesion a ffeithiau a ddangosaut dru- enus gyflwr y byd Paganaidd. 1. Cawn edrych ar y Paganiaid yn eu cysylltiad ú'r byd hwn. Mae'n dra thebyg íòd llawer o honynt yn anadnabyddus; nis gwyddom faint o fân ynysoedd sydd yn llechu yn mynwes y môroedd mawr- ion hyd yn hyn yn anadnabyddus i'r byd Cristionogol, heb forwr wedi hwylio i'w traeth, na theithiwr dyeithriol wedi sangu cŵys o'u tir erioed, Nid oedd llong wedi taluymweliad i ynysoedd Mauke, Mitiaro, a llarotonga, cyn i Wüliams y cenadwr fyned yno. Wrth ddarllen hanes y draul a'r drafferth mae cenedlaethau wedi myned iddi er mwyn gwneyd eu henwau yn adnabyddus, a'u hunain yn enwog, gallem gasglu fod bod yn y golwg yn gysur, bod yn adnabyddus yn fraint; tebygol yw fod amryw o'n cyd-ddynion yn amddifaid o'r rhagorfraint hom Mae cenedlaethau fel hyn yn byw mewn ys- tafell fach yn nghŵr y teulu dynoî, a gorchwylion pwysig y teulu yn pasio heb yn wybod iddynt—nid ydynt yn clywed trwst cynhwrf teyrnasoedd—yn gwybod am gyfnewidìadau deddfau seneddol— doethineb yn traethu ei gwersi—dysgeid- iaeth yn gwasgar ei chyfrolau—masnach yn gỳru ei sypynau—a'r efengyl yn cy- hoeddi ei goludoedd, ond nis gwyddant hwy oddiwrthynt; maent, i raddau, yn byw arnynt eu hunain—rhoi dim a chael dim. Mae sefyllfa gymdeithasol amryw ranau o^r byd Paganaidd* yn resynol iawn: nid oes ganddynt fwtrhau tlysion a threfhus i fyw ynddynt^ ceir índiaid gogleddbaith America mewn bwthau gwaelaeh ac aflanach nag eiddo cŵn Cymru. Y Greenlander yn gwneyd ei ddâr yn yr eira; a'r Bottentot bac'h ya gorwedd ar y llawT dan y llwyn, yn agored i gael ei guro gan yr ystormydd, a'i larpio gan y llewod. Nid ydynt yn arosol yn eu trigfanau gwael fel y maent, crwydriaid parhaus ydynt, pererinion gwastadol, heb artref yn y byd, ond newid eu gwâl bob nos. Y fendith gyntaf mae y Genadiaeth yn weinyddu iddynt yw eu lleoli. Pan mae y gwenyn yn crwydro, y gorchwyl cyntaf y w cael ganddynt aros— yn sain seiniad yr efydd ymgrynhoant wrth y pren, juia ceir adeg i ddarpar tỳ, a'u gosod ynddo, i ffurfio eu hunain yn fath o gymundeb trefnus; yn ganlyiiol caiff pob un ei le a'i waith. Pan aeth Williams i Polynesia, Eliott i'r India, a Moffat i Affrica, y peth cyntaf a ddy- wedent wrth y gwylltiaid oedd, Saficchî Codai y cenadwr ei babell yn fuan, deuent hwythau o'i gwmpas, ac wedi caeí gan ddyn aros i gael 3rmres3rmu ag ef, mae gobaith am dano, Mae eu dull o fy w yn wael dros ben. Byddai yn sỳn genj'm ni eu gweled jTn gwnejrd eu boreu-fwyd o wreddillion ysglyfaeth nosawd y llew a'r arth ; neu ganfod y Tartars, ar gyfandir Asia, yn disgyn oddiar eu hanifeiliaid a'u lladd, bwyta eu cig yn raio. Eu dewisol fan yw odditan y cyfrwy, lle y teyrnasai llygredigaeth er ys dyddiau, Mae anifail yn "nhir Emanuel" yn ddeiliad mwy o dosturi, ac yn wrthddrych mwy o syber- wyd, nà dyn yn y byd Paganaidd. Pe na baem yn credu fod ganddo enaid i fyw yn y bj-d dyfodol, gallem feddwl fod ei adfyd, yn ceisio myned trwy y byd hwn, 30