Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR CYMREIG Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y Genedl, Rhif. 45.—Cyf. II. TACHWEDD 1, 1864. Pris 2g.~gydaw post^c. ©nnníDttsíaîf. CERDDOMAETH TN Y EHTETN HWN, Canig.—" O GYMRTJ ANWYLAF." Gan John Thomas, Blaenanerch. Tu DAI. Cyfansoddiant...................,, ... 161 Geiriadur y Cerddor .................. 162 Congly "TonicSoIfa" .............., ... 164 Tri Ch'yngherdd i Miss Watts ... ......... 166 Cronicl Cerddorol ..................... 167 CgfansoöDíant, 29. Y peth eyntaf oll sydd gan y cyfansoddwr i'w wneyd ydyw, ystyried yn fanwl pa deimladau sydd ganddo i'w gosod alìän, a pha deimladau, trwy hyuy, y mae yn bwriadu eu cynyrchu. Oblegyd swyddogaeth arbenig y gelíýddyd gerddorol yw rhoddi allan, a throsglwyddo i ereill deimladau, trwy ofTerynoliaeth seiniau. Tn ein gwersi. blaenorol, ni a agorasom y pyrth i'r efrydydd ieuanc i fyned i fewn i drysorfeydd sain, neu, a defnyddio ffigyr arall, y gwythenau, o ba rai y gall efe gloddio ffurfiau seiniol yn ddirifedi at ei wasanaeth. Ond cofied, nad ydyw seiniau, yn mhob ífurfìau ag y mae yn bosibl eu dychymygu, yn ddim amgen na moddion, neu gyfryngau, trwy ba rai y mae efe i amlygu a throsglwyddo teimlad* 30. Ar ol iddo ddychymygu y teimlad neill- duol sydd i gael ei osod allan yn y cyfansoddiad (gwaith y darfelydd ydyw hyn), ei orchwyl nesaf ydyw gweithio y teimlad hwnw allan; a thuag at hyny y mae ganddo i ddefnyddio holl adnoddau ei gelfyddyd. Cofied mai Uafur oíer, os nad gwaeth,*|p,g ofer, ydyw pob peth a roddir yn y cyfansoddiad, os na fydd yn gwneyd ei ran, * Gwelir ein bod yma yn cymeryd y nod uchaf, a'r unig nod, yn wir, ag sydd yn deilwng o gerddoriaeth, heb son dim am yr holl gerddoriaeth a arferir i ddifyru clustiau, i borthi nwydau anifeilaidd, ac i wasanaethu Uygredigaeth y galon; nac ychwaith am y gerddoriaeth (os teilwng yr enw) a arferir gan gerddorion a chantor- ion, yn unig er mwyn arddangos eu medr hwy i chwareu, neu allu eu Ueisiau i gynyrchu rhyw nodau neillduol, neu i ehedeg o'r naill nôd i'r llall, fel yr aderyn bach o un gangen i gangen arall. mewn rhyw fodd, i ddwyn allan y prif deimlad. Nid yn unig bydd pob brawddeg yn ofer os na fydd ynddi deimlad; ond bydd yn ofer hefyd os na fydd y teimlad cynwysedig ynddi yn cyfranogi o nodwedd prif deimlad y cyfansoddiad, ac yn gwasanaethu i'w ddwyn allan. Nid pob rhestr o seiniau sydd yn deilwng o'r enw adran, neu frawddeg gerddorol. Mae y eyfansoddiad yn adeiladaeth. öalì fod yr un defhyddiau yn hollol—coed o'r un goedwig, a llawn cystal coed hefyd, cerig o'r un gloddfa, calch o'r un graig, a llechau o'r un chwarel, yn y pentwr ag sydd yn yr adeilad; ond y prif bethau sydd yn gwahan- iaethu yr adeilad oddiwrth y pentwr ydynt—fod yr adeilad at wasanaeth neillduol—fod iddo gynllun, ífurf, a nodwedd neillduol—a bod ei holl ranau yn cydwasanaethu i amcan arbenig ei adeiladaeth. Nid ydyw llawer o gyfansoddiadau cerddorol yn ddim amgen na phentyrau o sein- iau; oblegyd eu diífyg o gynllun, ffurf, a nod- wedd, ac felly nid oes dim unoliaeth, o ran amcan na gwasanaeth, yn eu gwahanol ranau. Y mae cyíansoddiadau ereill, o herwydd eu hanghydweddiad â'u tesfcynau, yn llwyr aneff- eithiol. Cyffelyb yw y rhai hyn i adeiladydd a aeth i adeiladu ysgoldŷ; ond erbyn ei orphen, y mae pawb yn gweled mai nid ysgoldŷ ydyw, ond masnachdŷ. 31. Y mae lluaws mawr o wahanol bethau yn effeithio er rhoddi cymeriad neiliduol i gyfres o seiniau; megys ffurf y symudiad—pa un ai yn esmwyth neu yn neidiadol y bydd yn ymsymud; amser—pa un ai cyfiym ai araf, a pha un ai yn gyson a gwastad, ynte yn anghyson a chrych- neidiol; graddeg—pa un ai yn uchel ai yn isel y bydd y seiniau a darewir; ac yn enwedig acen a mydr. 32. Cyn manylu ar y gwahanol bethau hyn, ni a roddwn yma engraifft, allan o Logier, yn dangos y modd y gall gwahaniaethu y mydr, er cadw yn hollol yr un nodau, effeithio i gynyrchu gwahanol deimladau. Oherwydd fod y gyí'res o nodau a arferir mor fyr, nis gellir ond agor y ddôr i'r ystorfa hon eto:— #-«- EF^^gÊ^B