Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DOR CYMREIG AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF GERDDOÍtlON, CORAU, AC UNDEBAU CEEDDOROL Y GENEDL. Rhif. 54.—Cyf. III. AWST 1, 1865. Pris 2g.—gyädr post, 3c CEEDDOEIAETH YE HEBEEAID. Ar ol chwilio y gwahanol offerynau cerddorol a arferid gan yr Hebreaid, ni a edrychwn, yn y lle nesaf, ar y defnyddiad a wneid ganddynt o gerdd- oriaeth. Ac wrth edrych ar y pwnc hwn, y peth cyntaf sydd yn ein taro ydyw,—Eu bod yn r'hoddi y lls blaenaf i gerddoriaetli grefyddol. Pa faint bynag o ganiadaeth oedd yn arferedig ar hyd y wlad, mewn gwahanol amgylchiadau, mae yn eglur mai yn y gwasanaeth crefyddol, yn y deml yn Jerusalem, yr oedd cerddoriaeth y genedl i'w chael yn ei gogoniant. Yn hyn, fel llawer o beth- au ereill, yr oedd cenedl yr ílebreaid yn esiampl, neu gyn-nelw, i'r holl genhedloedd i'w hefelychu. Pa ìe bynag a roddir i gerddoriaeth yn gyffredin- ol, nid oes un genedl yn gweithredu yn briodol yn y pwnc hwn os nad yw y lle blaenaf a'r ymdrechion penaf yn cael eu cysegru ganddi i gerddoriaeth cysegr Duw. Effaith anwybodaeth, culni meddwl, a rhagfarn yw haeru yn benboeth na ddylid canu dim ond sydd grefyddol, yn ystyr gyfyng y gair ; o'r ochr arall, ffrwyth annuwiaeth, ysgafnder, a llygredigaeth meddwl ydyw peidio canu dim ag sydd grefyddol. Y mae cerddoriaeth yn llaw- forwyn bur i wasanaethu i holl deimladau calon dyn ; ond yn gymaint ag mai gogoneddu Duw ydyw dyben uchaf ei greadigaeth a'i gynaliaeth, y mae yn canlyn mai y gerddoriaeth hono ag sydd yn gyfrwng arbenig ac uniongyrchol i wasanaethu ei Greawdwr a'i Waredwr ddylai gael mwyaf o'i sylw. Felly yr ydoedd yn mysg yr Hebreaid, pan y byddent yn eu lle. Y cyfnod mwyaf go- goneddus a llewyrchus, ar amryw ystyriaethau, yn hanes y genedl Iuddewig oedd amser teyrn- asiad Dafydd a Solomon ; a diau mai dyna yr adeg y bu cerddoriaeth grefyddol yn fwyaf blodeuog yn eu plith. Ychydig cyn ei farwolaeth, ac ar ol pennodi Solomon yn olynydd iddo ar y deyrngadair, yr ydym yn cael Dafydd yn gwneud dosbarthiad ar y Lefiaid gyda golwg ar wahanol ranau gwasan- aeth y cysegr. Yn amgylchiadau neillduol y genedl yn yr anialwch ac yn ngwlad Canaan, yr oedd yn angenrheidiol i un adran o honi gael eì gosod o'r neilldu at wasanaeth yr Arglwydd mewn modd uniongyrchol; a'r rhan a neillduwyd felly oedd llwyth Lefi. Mae yn amlwg nad yw y trefn- iad hwnw i gael ei efelychu gan genhedloedd ereill, oblegyd yr hyn a alwai am dano oedd am- gylchiadau neillduol, a chymeriad cysgodol, y genedl. Ond, yn gymaint a bod Uwyth Lefi felly, wedi cael ei ryddhau oddiwrth drafîerthion daear- ol y genedl, fel nad oedd raid iddynt drin y ddaear, na dysgu trin arfau i ymladd a'r gelynion, yr oedd ganddynt fanteision neillduol i ddiwyllio a meithrin barddoniaeth a cherddoriaeth, ac felly i ddwyn goreuon cynyrch y naill a'r llall i was- anaeth eu Duw. Yn y dosbarthiad a wnáed gan Dafydd, yr oedd pob un o feibion Lefi i gael ei gynrychioli. Cyniychiolydd Gershon oedd Asaph ; cynrychiolydd Cohath oedd Heman ; a chynrych- iolydd Merari oedd Ethan neu Jeduthun. O nifer llwyth Lefi y pryd hwnw, dywedir fod " pedair mil yn molianu yr Arglwydd," ar offer a wnelsai Dafydd (1 Chron. xxiii. 5). O'r rhai hyn, pa fodd bynag, ymddengys mai nifer y rhai "dysg- edig," neu gyfarwydd mewn cerddoriaeth, oedd " dau cant pedwar ugain ac wyth " (1 Cron. xxv. 7.) ; a gwasanaethai y rhai hyn fel athrawon i ddysgu y rhai ereill (ad. 8.). Rhanwyd y nifer drachefn i bedwar ar hugain o ddosbarthiadau, pob dosbarth yn cynwys deuddeg o "rai dysgedig," ynghyd a'u dysgyblion. Yr oedd pob dosbarth felly yn cynwys tua chant a haner o gerddorion, yn cael eu llywyddu gan ddeuddeg o athrawon, o ba rai yr oedd un yn neillduol yn brif arwein- ydd. Yr oedd cyfanrif yr holl ddosbarth felly, tua 166. Yn hanes dygiad yr arch o dŷ Obed- Edom, a'i gosodiad yn y babeil a wnelsai Dafydd iddi yn Jerusalem, dywedir fod Asaph, y prif arweinydd ar yr amgylchiad hwnw, yn "lleisio a symbalau " (1 Cron. xvi. 5.) ; a gwelir yn 1 Cron. xv. 19, mai dyna yr offerynau a chwareuid gan bob un o'r prif arweinyddion. Math o offerynau i'w curo oedd y symbalau (Gwel y Cerddor, Rhif. 51.) ; a byddai y prif arweinydd yn chwareu y rhai hyn er cadw amser priodol, tra byddai y gweddill o'r offerynwyr yn chwareu nablau, a thelynau, ac offerynau ereill. Nid yw yn an- nhebyg hefyd fod y prif arweinydd yn canu a'i