Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Äjlfííraftm ggtiMi AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN IYSG CENEDL Y CÍYMEY, CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 68. IIYDREP 1, 1866. Pbis 2g.—gyddr post, 3c YE EISTEDDFODAÜ. Un o hynodion y mis diweddaf oedd amlder ei Eistedd- fodau. Cynaliwyd dwy yn Nghymru, neu o leiaí gan y Cymry—un yn Nghaerlleon, a'r lîaíl yn Nghastell- nedd ; ac un yn Nghäerwrangon, gan y Tri Chor—Caer- wrangon, Caerloyw, a Henffordd. Ac er nad ydym yn cymeradwyo llawer o arferion gweigion yr Eisteddfodau Cymreig, nác yn cydsynio a llawer o'r hyn a draethir ynddynt fel athrawiaethau na ffeithiau, yr ydym yn teimlo y dylai y Ceuddob. Cymreig gymeryd rhyw sylw o'ti gweithrediadau, ar gyfrif y peth daioni cerdd- orol sydd ynddynt. ElSTEBDEOD CaERLLEON. Hon ydoedd y gyntaf o'r gyfres. Cynaliwyd hi yn ninas heaafol Caerlleon, mewn pabell eang a chyfleus, mewn maes prydferth ar lan yr afon Dyfrdwy, ddydd- iau Mawrth, Mercher, Iau, a Gwener, yn yr wythnos gyntaf yn mis Medi. Prif weithrediadau cerddorol yr Eisteddfod hon oeddynt fel y canlyn:— I. Cystadlettaeth. 1. Gyfansoddiadau.—Cantata ar "Y Mab Afrad- lon "—y geiriau buddugol yn Eisteddf od Aberystwyth, gan Eos Bradwen. Gwobr £20 a thlws. Y goreu oedd Mr. Joseph Parry, America. Beirniaid, Mr. J. Thomas, Mr. B. Richards, a'rParch. E. Stephen. Ni chafwyd dim beirniadaeth ar y cyfansoddiadau, yr hyn sydd yn ddiffyg pwysig yn ngweithrediadau yr adran hon ; ond sylwai y beirniaid gyda golwg ar y cyfansoddiad budd- ugol:—Fod ganddynt hyfrydwch mawr mewn galw sylw at y ffaith, fod cynydd mawr wedi ei wneyd yn neillduol mewn dau o'r cyfansoddiadau a anfonwyd i'r gystadleuaeth hon. Yngymaint ag ma\amcan y Cyngor ydyw amaethu gwybodaeth gerddorol mor bell ag y mae yn ddichonadwy yn mysg ein cydgenedl, a dyrchafu cymeriad cyfansoddiadau cerddorol Cymreig, eu bod yn dymuno dweyd yn eglur nas gallai neb ond Cymro enili y wobr hon ; o ganlyniad, os, ar ol i'r dyfarniad hwn gael ei gyhoeddi y ceid fod y gwaith yn eiddo un nad ydoedd yn Gymro, y byddai i'r wobr gael ei hatal neu ei rhoddi i'r ail oreu, fel y gwelai y beirniaid yn oreu, a gobeithient y dylynid yr un drefn ar bob achos o hyn allan. Dymunent gyhoeddi fod y gwaith i ba un y dyfarnent y wobr y cyfansoddiad goreu o lawer a an- fonwyd i unrhyw Eisteddfod yn eu cof hwynt. Canig i leisiau gwrrywaidd. Gwobr, 5 gini. Goreu, Gwilym Gwent. Y Beirniaid oeddynt, Owain Alaw, J. Thomas, Blaenanerch, a3 Eos Llechid. Ni chafwyd dim beirniadaeth. Traethawd ar Ganu Pennillion. Un ddaefch i law, sef yr eiddo Idrys Fychan; a dyfarnwyd iddo y wobr. 2. Canu. —Canu The Deep repose of Night (Mendel- ssohn) a Lady rise (Smart), gan gor. Gwobr, £20 a thlws. Daeth pedwar o gorau i ymgystadlu. Y goreu oedd Cor Merthyr, dan arweiniad Mr. David Erancis. Beirniad, Mr. H. Leslie, Llundain. Rhoddwyd ail wobr o £4 i gor Bwcle. Cami Y Tylwyth Teg (J. Thomas) neu Ye little birds (B. Richards), gan gor. 4 o gorau yn cystadlu yma eto; a'r goreu y waith hon hefyd oedd Cor Merthyr. Rhodd- ai Mr. Leslie ganmoliaeth uchel iawn i'r cor. Canu Through the day thy love hath spared us. Gwobr, 4gini, ganMri. Cocks & Co., Llundain. Goreu, Cor Merthyr. Canu What bells are those. Goreu, Cor Merthyr. Canu Llwyn On neu Dafydd y Gareg wen, gan ferch- ed. Gwobr, Casgliad Pencerdd Gwalia. Goreu, Miss Forey, Merthyr. Cami Y Fwyalchen neu Clychau Aberdyfi, ganferch- ed. Miss Forey, Merthyr, yn unig a ganodd, a dyfarn- W.vd iddi y webr. Canu Serch Hudol neix Y Gadlys. Gwobr, Casgliad Pencerdd Gwalia. 4 yn cystadlu. Goreii, Mr. Moses H. Davies, Penycae, yr hwn hefyd oedd yn un o Gor Merthyr. Canu Y Gwenith Gwyn neu Morfa Rhuddlan, gan feibion. Goreu, Mr. J. Reynolds, Brymbo. 3. Ghwareu ar y Delyn.—Chwareu Alaw Gymreig gydag amrywiadau ar y üelyn Bedawl, gan feibion dan 25 oed. Gwobr o Delyn Bedawl ardderchog, rhodd Mrs. Wells, Aberystwyth. Goreu, Mr. H. J. Frost, Merthyr. Casglwyd y swm o £11 7s. ar y pryd, er rhoddi ail-wobr i Mr. J. Elias Davies, Bethesda. Chwareu Glan Meddwdod Mwyn, o Gasgliad Aptomas Gwobr o Waith Aptomas, gan yr awdwr. Goreu, Mr. Frost, Merthyr. Chwareu ar y Delyn deir-rhes. Un ymgeisydd jm unig a ddaeth yn mlaen, sef Mr. Lewis Williams, Dow- lais, a dyfarnwyd iddo ỳ wobr, sef Telyn deir-rhes newydd. 4. Chwareu ar y Piano.—Chwareu Difyrwch Arg- lwyddes Owen, o Gasgliad Mr. B. Richards, gan ferch- ed dan 18 oed. Ymgastadleuodd pedair. Yr oreu oedd Miss Mary Ellen Davies, Flint; yr ail, Miss Eliza Jane Roberts, Caer. Beirniad, Mr. B. Richards. Chwareu ar y Piano gan feibion dan 18 oed. Goreu, Mr. J. A. Owen, mab i Owain Alaw. 5. Tsgoloriaeth Leisiol.—Swrn yr Ysgoloriaeth hon ydyw £50, yr hyn a roddir tuag at roddi addysg gerdd- orol, yn ol cyfarwyddyd y Cyngor, i'r ferch rhwng 16 a 21 oed, a fernir yn fwyaf gobeithiol gyda golwg ar allu a thalent gerddorol. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth yn Eisteddfod Abertawe. Enillwyd hi yno, gydag uchel gymeradwyaeth, gan Miss Watts; ond ni chafodd y gantores dalentog hono ffyrling byth o'r arian. Enill- wyd hi y Uynedd gan Miss Edmonds. Eleni yr oedd pedair o ferched yn ymgystadlu am dani. Dyfarnwyd | yr ysgoloriaeth i Miss Annie Francìs, Merthyr (merch