Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rtt ilÌSÛÍ AT WASANAETH CERBDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMËY. CYHOEDDEDIG DAN JNAWDD PRÌF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 69. TAOHWEDD 1, 1866. Pjris 2g.—gyddr post, Sc. ADOLYGIAD Y WASG. Un o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd ar gerddor- iaeth yn ystod y misoedd diweddaf, er nad ydyw ond bychan, ydyw " Transactions ofthe Tonic Solfa School, Fifth Session" (Gweithrediadau Ysgol y "Tonic Solfa," y Pummed Eisteddiad). Cynaliwyd yr Eisteddiad hwn wythnos y Nadolig diweddaf; ac erbyn hyn y mae y papyrau a ddarllenwyd, a sylwedd yr ymddiddanion a fu yn y gwananol gyfarfodydd, wedi eu hargraffu yn gyfrol fechan. Cyfarwyddwr yr Ysgol ydyw y Parch. John Curwen, cyfaddasydd a pherffeithydd cyfundrefn y Tonic Solfa—cyfundrefn ag sydd wedi gwneyd mwy tuag at ddwyn cerddoriaeth i afael y miliynau nag un gyfundrefn arall. Darllenwyd papyrau tra dyddorol ar wahanol bynciau. Y cyntaf oedd bapyr gan Mr. Joseph Proudman, Llundain, ar " Arwyddnodau cyfí'redin Mynegiant" (The Gominon Marlcs of Expression) Dywedai fod yr arwyddnodau cyffredin hyn yr un peth i'r Cerddor ag ydyw rheolau pwyslais, tonyddiaeth, a hyawdledd i'r llefarwr. Y mae talu sylw iddynt yn hynod o fanteisiol, er fod eisiau rhywbeth mwy i wneyd siaradwr neu gerddor effeithiol. Y peth cyntaf y sylwai arno oedd Acen. Tuedd cantorion yn y cyffredin ydyw, naill ai esgeuluso acen yn hollol, neu ynte rhoddi gormod o bwys ar y sillau acenedig. Yr anhawsder ydyw taro ar y tir canol a phriodol, gan roddi pwyslais priodol y frawddeg a rhoddi eglurdeb i bob gair. Peth arall ydyw gradd gymedrol o lais. Gwall cyffredin ydyw canu yn rhy gryf— pob peth a phob amser mor gryf fel na fydd yn bosibl cael crescendo riaforte. Pan fyddo un yn canu eisioes a'i holl nerth, y mae canu jngryfach neu yn gryfiawn yn eiriau ofer i hwnw. Y mae lleisiau cyrnedrol dynion yn wahanol; y mae llais cymedrol un mor gryf a chryfiawn un arall; neu gall piano un fod mor nerthol aforte y llall. Ond fel rheol gyffredin, dylai pob un arfer canu, yn gyffredin, fel y byddo ganddo ystor o nerth ychwanegol wrth gefn pa bryd bynag y byddo galwad am dano. Piano a forte hefyd. Cryn gamp ydyw rheoleiddio y rhai hyn yn briodol, gan ganu y ff. (cryf iawn) heb floeddio, a'r pp. (gwan iawn) gyda llais clir a sylweddol, ac nid yn llesg ac egwan. Ychydig o ddefnydd o wnelid o'r crescendo, diminuendo, a'r swell mewn cerddoriaeth glasurol hyd amser Mozart, ac y mae efe wedi cynyrchu effeithiau tra hynod trwyddynt. (Gweler ei \2th Mass.) " Anaml iawn y defnyddia Handel y rhai hyn yn ei Oratorios. Dylid cymeryd gofal na byddo gwasgnod -= yn cael ei ganu yn lle cynyddnod -<dl 5 ac Tia byddo agornod > yn cael ei roddi yn lle lleinod ^^=*-. Y mae uno y crescendoaìrdiminnendo, a'u gwneydyn chwyddnod -^C^^^^5" yn cynyrchu eff ith tra rhagorol; ond dylaipob cerddor ofalau na byddo ei lun na'i effaith yn cael ei ddinystrio, trwy ganu yn debyg i hyn <ZI ">■, nac yn debyg i ddim arall ond efe ei hun". Chwydder o hydyn raddol, a gwahaner yn raddol drachefn. " Y mae eisiau cadw llywodraeth berffaith ar yr anadl hefyd. Dywedir fod y canwr mawr Farinelli yn feddianol ar allu tra rhyfedd yn nefnyddiad y chwyddnod, a'i fod yn llywodraethu ei anadl yn hynod iawrn. Aeth i gystadlu unwaith a chwareuwr udgorn. Buant am amser maith yn siglo ac yn chwyddo gyda'u gilydd, a'r gynulleidfa bob moment yn disgwyl i un o honynt golli ei wynt; o'r diwedd rhoddodd yr udganwr heibio, gan ddisgwyl i Farinelli wneyd yr un peth, ond ni wnai hwnw ond myned yn mlaen, gan chwyddo asiglo, ohydcür un anadl, nes oeddeigydymgeisydd wedi synu. Adroddir hefyd iddo, y noswaith gyntaf yr ymddangosodd yn gyhoeddusyn Lloegr, raddoli y chwyddnod ar y nod cyntaf, gyda'r fath brydferthwch a nerth, fel y torodd y bobl allan i guro, a hyny a wnaethant am bum mynyd, am ddim ond y nod cyntaf." " Arferir byr-nodau yn lled fynych ; ond y mae gofal mawr yn angenrheidiol gyda hwynt, yn enwedig mewn cysylltiad a piano, neu y seiniau chwerthin, oherwydd eu bod yn gofyn gweithred- iad cyd-darawiadbl y peiriant lleisiol. Y gamp ydyw peidio gwastraffu anadl. Y mae cantorion ieuainc yn gyffredin yn defnyddio gormoil o awyr wrth gynyrch eu seiniau. Ymae chwerthin-donau yn gofyn gofal a chynildeb neillduol gyda'r anadJ