Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cglitóŵèiô 9u ffofobfr |ní êtùìiötiim, €mut m Wûẁm taìtitml i êmùl ÁT WASANAETfí CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. Rhif. 85. MAWRTH 1, 1868. Pris 2g.—gyäoír post, 3e. CYNYGIAD O BERTHYNAS I'R 'CERDDOR. Wrth weled fod darllenwyr cerddoriaeth yn ol cyfun- drefn y Tonic Solfa yn lluosogi yn gyflym yn ein gwlad, a ninau yn teimlo yn awyddus am eu gwasanaethu hyd eithaf ein gallu, yr ydym yn gosod y cynygiad canlynol ger eu bron. Os bydd i ni gael 2,500 o dderbynwyr i'r Cerddor yn y Tonic Solfa, ni a argrafìwn y gerddoriaeth yn y nod- iant hwnw, yn gystal ag yn yr hen nodiant; ac felly bydd pob darn a gyhoeddir yn yr hen nodiant i'w gael yn y nodiant newydd hefyd. Cyn y gallwn anturio i wneyd hyn, rhaid i ni gael sicr- wydd am 2,500 o dderbynwyr yn mhob un o'r ddau nod- iant, a byddwn ddiolchgar iawn i bob athraw dosbarth, arweinydd cor, a phawb eraill ag ydynt yn awyddus am ledaenu dylanwad cerddoriaeth, am ddwyn y cynygiad hwn gerbron eu cydnabod. Anfoner hefyd gyda phob brys y nifer a gymerir yn mhob un o'r ddaú nodiant. Goreu pa gyntaf. Da iawn os gellir eu hanfon cyn di- wedd y mis hwn (Mawrth). Anfoner y gohebiaethau hyn oll at y Golygydd—Rev. J. Roberts, Llanberis, Carnawon. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ERYRI. Ymgyfarfu Pwyllgor yr Undeb hwn yn Nghaernarfon, Chwef. 12 ; a phenderfynwyd ar amrywiol bethau gyda golwg ar y gymanfa ddyfodol. Nid ydyw y penderfyniadau mewn modd íFurfiol ger ein bron ; ond yr ydym yn meddwl fod y trefniadau ar y pryd presenol yn aros yn debyg i hyn. Y mae y Gylchwyl flynyddol i gael ei chynal eleni yn Mhorthmadog. Y mae pabell i gael ei gwneyd, yn ddigon eang i gynwys tua 4,000 o ddynion, ac esgynloriau i gy- Hwys tua 700 o gantorion. Y dydd pennodedig ydyw dydd Mercher, Meh. 17. Yr ydys wedi rhoddi ar yr Ysgrifenydd i ymohebu â Chwmnion Rfceilfiyrdd y Cambrian, Welsh Coast, Ffes- tiniog, a Chaernarfon, gyda golwg argael Trains arbenig a rhad ar y dydd hwnw. Y darnau a genir gan y Corau yn nghyd, dan lywydd- iaeth y Parch. J. Roberts, ydyw y rhai hyn :— Cyfarfod y boreu:—Rotterdam, ar y pennillion, " Mae'n Uön'd y hefoedd, Uon'd y byd " ac "Un hunan- fodol ydyw ef," a'r gydgan, " A gogoniant yr Ior." Am 2 o'r gloch : —Bethesda, ar y pennillion, " O tyn, y gorchudd yn y mynydd hyn" a " Golch fi, oddiwrth fy mëiau aml ri," a'r Anthem Gymreig, " Par i mi wybod dy ẅyrdd " (fel y mae yn y Cerddor). Am 6 : —Tiberias, ar y pennillion, " Myn'd a wnaf dan godi'm llef," a "Blinais, blinais ar y wlad," a'r gydgaa " Halelwia." Dysgwylir y bydd y cantorion canlynol yn cymeryd rhan yn y gyngherdd yn yr hwyr:—Miss Evans (Eos Gwynedd); Mr. John Owen (Glan Marchlyn) a Miss Jane Owen ei ferch, Mr. Owen Griffith, Waenfawr, Mr. R. C Williams, Caernarfon ; a chwareuir y piano gan Mr. R. Roberts, Caernarfon. Gobeithir y ceir hin gysurus ; ac yna, yr ydys yn sicr o gael cyfarfodydd tra dyddorol a phoblogaidd. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ARDUDWY. Ctnaliwyd Pwyllgor yr Undeb uchod yn Harlech ddydd Sadwrn, Chwef. 1, 1868, pryd y cytunwyd ar y pender- fyniadau canlynol :•— I. Fod y corau sydd eto heb orphen dewis darnau i'w canu ar eu penau eu hunain, i wneyd hyny cyn diwedd y mis hwn (Chwefror.) II. Fod y cop'iau sydd ar law yr Ysgrifenydd o'r " Gor- hoíFedd Gwyr Harlech " i fod yn feddiant i'r Pwyllgor. III. Gwnaed ymholiad pa fodd yr oedd y corau yn dyfod ymlaen, a phenderfynwyd fod anogaeth yn cael ei roddi i'r corau wneyd pob ymdrech ag sydd yn bosibl i gadw at yr adran ddirwestol. IV. Derbyniwyd adroddiad Mri. O. Roberts a L. F. Edwards gyda golwg ar y Castell, a threfnwyd mesurau i fyned ymlaen eto gyda golwg ar hyny. V. CymeradWywyd y geiriau a ddewiswyd ar y tonau cynulleidfaol, a phenderfynwyd fod iddynt gael eu har- graflfu yn y fath fodd ag y gallo'r corau ddeall pa ranau fydd i'w canu yn gryf ac yn wan. VI. Penderfynwyd fod y gylchwyl i gael ei chynal ar ddydd Iau, Mehefin 25ain, 1868; ac fod cais i gael ei roddi am wasanaeth y personau canlynol:—.