Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

C#ŵWig lan Sŵbìr $rií toìŵûŵw, to, w Sntohw ŵŵWrt êtól €$UtPäẃtt iîteffl AT WASANAETfí CERDDÖRIAETH. YN MYSG CENEDL Y CYMEY. Ehif. 89. GOSPHENAF 1, 1868. Piîis 2g.—gyddr post, Sc. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ERYRI. Dydd Mercher, Meh. 17, 1868, oedd dydd mawr tryd- edd Gylchwyl Gerddorol yr Undeb pwysig hwn. Ar ddydd y Gylchwyl hon yr oedd Corau yr Undeb yn sefyll fel y canlyn : — JEnw. Arweinydd. Rliif. CorPenmachno ... ■ C. A. Vauqhan ... ... 25 „ Porthmadoc ... .. .Tohn Jones ... 60 ,, Salem (eto) .. . J ,)hn Williams ... 62 ,, Talsarn . jríugh Owen ... 33 ,, Rhostryfan ... . Jobn Thomas ... 40 ,, Waenfgwr . 0 Griffiths, (Bryr î îryri) 54 „ Engedi,Csierriarvofi . . B. Jones ..... ... 50 ., Llanrug . John Morris ... 45 ,, Disgwylfa ..... . John Ro'oerts ... 45 „ Cefnywaen ... . Owen Hnghes ... 53 ,, Dinorwic . EüisJones ... G6 „ Nant Padarn . Thonifis Phillips .. ... 50 „ YWyddfa ... . v iiliam Owen ... 55 „ Rehoboth ..... . Isobert J. Grifiìths .. 28 666 Ar rai cyfrifon pwysig, mwy manteisiol fuasai cynal y cyfarfod eleni, fel y gwnaed y ddwy flynedd o'r blaea, yn nes i ganol yr undeb ; ond yn gymaint ag mai un o amcanion y seíÿdliad ydyw cynhyrfu talent gerddorol yr holl wlad i weithrediad, barna y pwyllgor, yn ddoeth fel y tybir, mai dymunol ydyw cymeryd y gymanfa i bob lle o fewn cylch yr undeb, hyd y gellir. Y flwyddyn hon, gan hyny, cymerwyd hi i Borthmadoc. Ymgymerodd Mri. J. a W. Williams, o'r lle hwnw, ag adeiladu pabell eang ac esgynloriau cryfion i'r Corau a rhan luosog o'r gynulleidfa, yr hyn a gostiodd í80, heblaw a dalwyd i Mr. John Jones am dynu y cynllun. Yn ngwyneb y draul hon, a'r treuliadau ychwanegol am hysbysiadau, &c, naturiol ydyw tybied fod aelodau yr undeb yn teimlo yn bryderus ynghylch y dydd, ac yn gobeithio yn í'awr y byddai yr hin yn íFafriol. Yr òedd Mr. Wm. Jones a'r Parch. R. Lewis, Ysgrifenydd a Thrysorydd ffyddlawn ac ymroddgar yr Undeb wedi gwneyd tref'niadau gydag awäurdodau y rheilflyrdd am gerbydresi rhad o Gaer- narfon a Phwllheli yn y naill gyfeiriad, ac o Pfestiniog, Machynlleth, Aberystwyth, a glanau y mor, yn y cyfeir- iadau eraill. Y dydd a ddaeth; ac er ei fod braidd yn tygythiol rhwng mynyddoedd Eryri tua i o'r gloch y boreu, pryd yr oedd y corau yn cychwyn ; ond enillodd yr haul oruchafiaeth hyfryd ar y tarth, a chyfododd yn ddiwrnod o'r fath fwyaf dymunol. Cychwynodd y ger- bydres lwythog o Gaernarfon ychydig cyn wyth o'r gloch; ond oherwydd diflyg trefn ni chyrhaeddodd i Borthmadog ond ychydig cyn deg o'r gloch. Erbyn hyny, yr oedd yn bryd dechreu y cyfarfod cyntaf; ond yr oedd y corau heb ddim ymborth, a'u lle yn y babell heb gael ei benderfynu a'i nodi allan; ac nid oeddynt wedi cael dim ymarferiad gyda'u gilydd ar y darnau nndebol. Methwyd a chael pethau i drefn i ddechreu ond ychydig cyn 11 o'r gloch, ac achlysurodd byny fesur o anhwyl- usdod trwy y dydd. Dechreu a wnaed, pa fodd bynag. Cymerwyd y gadair yn y cyfarfod hwn gan y Parch. Thomas Owen. Yn gyntaf, canwyd y Don Gynulleid- faol Rotterdam, Rhif 102 yn y Llyfr Tonau Cynulleidfaol, ary geiriaumawreddog, "Mae'nllon'd y nef'oedd, llon'd y býd," &c, gan y corau yngbyd, dan arweiniad y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). Canwyd hon yn llawn ac yn efl'eithiol. Cafwyd ar ol hyny anerchiad rhagorol gan y cadeirydd. Yna aed ymlaen trwy y program yn y drefn ganlynol:—Y Drum March (Krugh) gan gor Porthmadoc, yn fywiog a da. Yr hon sydd gan rhydd- ed (O. Alaw} gan gor Penmachno, gyda llawer o íýwyd. Yr oedd yn amlwg fod gan y gwr ieuanc a ganai yr unawd lais tenor uchelda, a chydag ymdrech i ddiwyllio ei lais a choethi ei arddull, gall wneyd canwr dymunol. Cafodd y cor ailalwad, ond nid oedd yr amser yn can- iatau iddynt ganu drachef'n. Hwn ydoedd y tro cyntaf i'r cor hwn wneyd ei ymddangosiad ar esgynlawr yr un- deb, a dymunem iddo bob llwyddiant. fcẅn Rhyfelgyrch (Adams) gan gor Cef'nywaen, yn dda ; ond nid oeddynt wedi llwyr feistroli y darn hwn. Hunting Song.(Ben- edict) gan gor y Wyddfa, gyda llawer o f'ywiogrwydd. Tan ddirfawr ormes (Bishop) gan gor Waenfawr. Cor o leisiau gwrrywaidd oedd hwn ; ac yr oedd eu datgan- iad o'r dernyn bywiog hwn yn fedrus a tharawiadol. Gwyn ei fyd a ystyrio (O. Alaw) gan gor Llanrug, yn dda. Yr oedd y Soprano a'r Bass yn y bedrawd yn yr anthem hon yn rhagorol. Halehvià i'r Goruchaf (Bee- thoven) gan gor Dinorwig, yn gywir iawn; ond nid oeddynt yn ddigon nerthol at y gydgan dra gorfoleddus hon. Hunting Song (Mendelssohn) gan gor Engedi, yn chwaethus a choethedig iawn. Awake ^Eolian lyre (Danby) gan gor Rhostryfan, nid yn dda iawn y tro hwn, ac eto nid yn wael. Datod mae rhwymau (J. Thomas) gan gor Talsarn, yn fywiog, ond yn rhy gyflym, yn enw- edig yn y symudiad, "Lluchio'r gefynau." Ar don o