Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T CEEDDOE CYMEEIG: f,$îtìlit*ton gpigjrl AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWOD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 105. TACHWEDD 1, 1869. Pjris 2g.—gyddr post, Bc. HYSBYSIAD. tfi argreffir oW Cerddor ond nifer digonól i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog end i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EII QOHEBWYR. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohobiaeth i'r Oepddoe gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20/ed o'r mis, yn sysil fel byn:—Rev. J. Roberts, Fron, Garnarvon. CANIADAETH GREFYDDOL YN ARFON. Yît, ydym yn cyhoeddi y gweithrediadau canlynoì o eiddo y Methodistiaid Calfinaidd yn Arfon, gan dybied y gallant fod yn symbyliad ac yii gyfarwyddyd i ereill i wneyd yn gyffelyb. AT BGLWYSI X METIIODISTIAID CALFINAIDD TN " Anwyl Frodyr,—Mewn canlyniad i'r anogaethau a roddwyd yn y Gymdeithasfa yn Ninbych, ac a adnewydd- wyd yn y Gymdeithasfa yn Nghaernarfon, o berthynas i sefyllfa Caniadaeth Grefyddol yn mysg Corph y Method- istiaid Cajfinaidd yn Ngoofledd Cymru, cymerwyd y pwngc dan ystyriaeth gan Gyfarfod Misol Arfon; ac yn y cyfarfod a gynaliwyd yn Jerusalem, Bethesda, ar y 15fed o'r mis hwn, pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— " Fod yr holl eglwysi perthynol i'r Cyfarfod Misol hwn yn ymffurfio yn undeb, er mwyn dysgu yr unTonau; a bod Cyfarfod i 'anu Cyhoeddus i'w gynal ganyr undeb unwaith yn y flwyddyn. " Fod mân ddosbarthiadau i'w ffurfio gyda'r un amcan, yn ol cyfleusderau y gwahanol ardaloedd ; a bod Cyfarfod Canu Cynulleidfaol i'w gynal ar gylch yn y Capeli o fewn y dosbarth unwaith yn y mis. " Fod Cyfeisteddfod cyffredinol i gael ei gynal yn Engedi, Caernarfon, Dydd Sadwrn, Hydref 2, am 1 o'r gloch; a bod i bob eglwys anfon o leiaf un cynrychiolydd i'r cyf- eisteddfod hwnw. "Yn unol a'r penderfyniadau uchod, dymunir arnoch gymeryd y mater dan sylw, ac anfon o leiaf un o honoch i'r Cyfeisteddfod a nodwyd. Yn y cyfarfod hwnw, bwriedir çymeryd yr achos yn ei wahanol gysylltìadau dan ystyr- iaeth; ac yno ffurfir y mân ddosbarthiadau, ac y dewiser Tonau a Hymnau i'w dysgu a'u harfer gan yr undeb. , " Gyda mesur o ddeffroad adnewyddol yn yr achos pwys- ig a theilwng hwn, hyderir yn fawr y gellir, dan fendith Jr Arglwydd, ddwyn ein Caniadaeth Grefyddol i sefyllfa *awer mwy effeithiol nag y mae yn ein mysg ar hyn o bryd. " Yr eiddoch yn garedig, "Fron, Caemarfon, JOHN EOBíJETS." \Medi 17, 1869. Yn unol â'r hyn a hysbysir yn y Cylchlythyr uchod, cynaliwyd cyfeisteddfod yn Engedi, Caernaríbn, Hyd. 2, am 1 o'r gloch. Dewiswyd y Parch. J. Roberts, Fron, yn Llywydd y cyíeisfeddfod, a Mr. E. Jones, Llanllechid, yn Ýsgrif- enydd. Galwyd enwau yr eglwysi o fewn cylch y Cyfarfod Misol, a chafwyd fod pob eglwys. gydag ychydig iawn o eithriadau, wedi anfon un neu ychwaneg i'w chynrych- ioli yn y cyfeisteddfod ; a theimlai y cyfarfod yn llawen wrth ganfod fod yr achos wedi cael ei gymeryd i fyny mor gyffredinol. Tuag at gario amcanion y symudiad yn fwy effeithiol, rhanwyd yr Undeb yn fân-ddosbarthiadau, fel y canlyn : Dos. 1.—Dwygyfylchi, Llanfairfechan, Aber, Gate- house, Tabernacl, Upper Bangor, Hirael, Glanadda, Caerhun. Os gwel cynrychiolwyr y lleoedd hyn, ar oí cyd-ymgynghoriad priodol, mai mwy cyfleus fyddai rhanu y dosbarth yn ddau, y mae iddynt ryddid i wneyd hynÿ. Dos. 2—Llanllechid, Carneddi, Jerusalem, Brynteg, Gerlan, Ty'nymaes. Dos. 3 —Pentir, Rhiwlas, Penygroes, Hermon. Dos. i—Bettwsycoed, Rhiwddolion, Capel Curig. Dos. 5— Graig. Bethania, Brynmenai, Cysegr. Dos. 6—Moriah, Engedi, Siloh, Nazareth, Bont- newydd, Penygraig. Dos. 7—Waenfawr, Cae athro, Ceunant, Salem. Dos. 8—Llanrug, Cwmyglo, Glasgoed, Bryn'refail. Dos. 9— Ysgoldy, Disgwylfa, Cefnywaen, Dinorwig, Fachwen. Dos. 10— Rehoboth, Hebron, Capel coch, Gorphwys- fa, Clegyr. Dos. 11—Rhostryfan, Bryn'rodyn, Carmel, Cesarea, Bwlan. Dos. 12—Bala'rddeulyn, Talsarn, Hyfrydlc, Peny- groes, Llanllyfni, Mynydd Llanllyfni. Dos. 13—Bryneurau Capel uchaf, Ebenezer, Seion. Dos. 14—Beddgelert. Peniel, Bethania, Rhyd-ddu. Penderfynwyd yn mhellach— 1. Fod pwyllgor i gael ei ffurfio yn mhob dosbarth, yn gynwysedig o'r gweinidogion, y pregethwjr, a'r dia- coniaid, ynghyd a nifer o gantorion perthynol i bob eglwys, i gario allan amcan yr undeb. Nodwyd person yn mhob dosbarth i alw y pwyllgor ynghyd, ac i ddwyn adroddiad o weithrediadau y dosbarth hwnw i gyfarfod cyffredinol yr Undeb. 2. Fod y gwaith o ddewis Tonau a Hymnau at was- anaeth yr Undeb am y flwyddyn ddyfodol yn cael ei ymddiried i'r Parchn. J. Roberts, Fron; R. Roberts, Carneddi; R. Lewis, Caernarfon, a Mr. M. Davies, Bangor. 3. Yn gymaint ag nad yw pob eglwys o fewn yr Un- deb, hyd yn hyn, wedi mabwysiadu Llyfr Hymnau y Cyfundeb, fod y detholwyr, ar hyn o bryd, i nodi rhif yr Hymnau yn y gwahanol lyfrau sydd mcwn arferiad. i. Fod y cyfarfod yn taer ddymuno ar i bob eglwya