Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T CEEDDOE CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMÈŶ; CYHOEDDEDIG DÀN NAWDD PRIF CERDDORION, CORÂU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 109. MAWRTH 1, 1870. Pris 2g.—gyda'r post, Sc. HYSBYSIAD. N"î argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog md i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EIN GOHEBWYR. Byddwn ddiolçhgar os bydd i bob gohebiaetb i'r Cerddor gael eihanfon i ni, i fod mewn Uaw ar neu eyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel byn:—Bev. J. Roberts, Fron, Carnawon. Y OYjWYSIAD. TUDAL. LlyTHYR o Lundain—Ygwahanol Gyngherddau ... 17 J. S. Bach............ ...... .........19 Beirniadaeth Eisteddfod Ceínoribwr ......20 Beirniadaeth Cystadleuaeth Adwy'r Clawdd 20 AWDURIAETH YR ANTHEM Ps. CXXXIX ... ,. ... 21 AwDURIAETH T DON ALEXANDER ............21 Y Wasg Gerddorol.....................21 Geiriadür y Cerddor ..................22 BwRDD Y GOLYGYDD .....................22 Cronicl Cerddorol—Talysarn ; Bangor ; Tanycel- yn, Llanrwst; Beaumaris ; Mountaìn Ash ; Undeb Canu Cynulleidfaol Aberdar ; Brychcoed ; Castell- nedd; Abertawe ; Wyddgrug ; Undeb Lleyn ac Eifionydd ........................22 LLYTHYE 0 LUNDALN. Peth digon anhawdd yw gwybod yn mba le i ddechreu gyda rhyw sylwadau fel hyn. Ond i ddechreu yn rhywle, yr wyf yn dechreu heddyw gyda chyngheradau— Mr. Barnby a'i Gor. Yn y drydedd o gyngherddau y cor hwn eafwyd un o brif weithiau Haydn, sef y Seasons. Rhy anaml o lawer y cenir y gwaith prydferth hwn yn Llundain ; ac nid yw odid byth i'w glywed mewn un ran o'r wlad allan o Lundain. Ac eto, y mae yn un o weithiau goreu yr hen feistr. O'm rhan fy hun, yr wyf yn ei ystyried yn rhag- ori ar y Creation. O ran tlysni, nid oes dim yn yr holl fyd cerddorol yn rhagori ar y ddau waith; ac y mae hyny yn hynod pan ystyrier eu bod yn gynyrchion hen wr yn hwyr ei dâyddiau, ac nid dyn ieuanc yn llawnder ei fywyd a'i ysbrydoedd. Yr oedd Haydn yn 66 pan gyfansoddodd y Creation ac yn 70 pan gyfansoddodd y Seasons. Baron von Sweeten a ddarparodd y geiriau i'r naill a'r llall; a chymerodd yn lled helaeth at y gyntaf o waith Milton, ac at yr olaf o waith Thomson. Wrth ddweyd fod y Seasons yn rhagori ar y Creation, nid wyf yn meddwl darostwng dim ar yr olaf; ond y mae yn amlwg iawn i mi mai bugeiliol oedd awen Haydn. î Pastoral Symphony yw ei brif waith offerynol; ac nid oes neb eto wedi rhagori arno yn y dosbarth hwnw. Er ei fod ef ei hun yn dweyd fod y Çreation yn well na'r Seasons, ac mai yr achos o hyny ydoedd mai angylion sydd yn canu yn y gyntaf, ac mai gwerin-bobl y ddaear oedd yn yr olaf; eto, credu yr wyf fi mai y Seasoas yw yr oreu; ac mai yr achos o hyny ydyw, fod Haydn yn nes at y werin-bobl, ac yn medru ymwthio yn well i'w teimladau hwy na'r angylion. Addefwn fod y Creation yn fwy poblogaidd. Y mae y Messiah yn fwy poblogaidd nag Israel in Egypt, o waith Handel; ac y mae yr Elijah, o waith Mendelssohn, yn fwy poblogaidd na St. Paul; ond barn y beirniaid goreu yw mai y rhai olaf sydd yn ar- ddangos mwyaf o allu, Nid wyf yn cofio engraifft o'r fath fywiogrwydd, newydd-deb a bywiogrwydd mewn cyfansoddwr mor hen. Y tebycaf iddo ydyw Auber, yr hwn a gyfansoddodd Rene d' Atnour pan yn 88 oed. Canwyd y Seasons yn rhagorol. Y prif gantorion oedd Madam Lemens-Sherington, llais ac ysbryd bywiog yr hon sydd yn hynod gyfaddas i gerddoriaeth Haydn; Mr. Byron (yn lle Mr. Veínon Rigby, yr hwn oedd yn glaf) ; a Mr. Lewis Thomas. Cyngherddatt Prydnawn Sadwrn. Prydnawn Sadwrn, Ion. 29, yn St. James' Hall, y sugn- dyniad mawr oedd Herr Joachim, y chwareuwr enwog ar y violin. Dyma ei ymddangosiad cyntaf yn Llun- dain er ys rhai blynyddoedd ; ac yr oedd yn rhaid cael ei glywed. Yr wyf yn meddwl y rhoddir y blaen iddo ar bawb fel chwareuydd ar y violin yn bresenol; ac yr oedd yn dda genyf weled a theimlo ei fod yn llawn mor alluog ag y bu erioed, os nad yn fwy felly. Bhaid i mi addef nad ydwyf yn ddigon hyddysg i feirniadu celfyddydwr o'r fath yma; ond yr oeddwn yn teimlo fod clywed un darn ganddo ef a'r offeryuwyr galluog oedd gydag ef, sef Pumawd (Quintett) o waith Beethoven, yn llawer mwy na chyflawn werth yr arian a roddaswn am fy nhocyn. Dichon mai nid anyddorol gan eich darllenwyr fyddai cael program y gyngherdd hon. Dyma fe:— Quintett, yn C fwyaf, Op. 29....... Beethoven. [Chwareuwyr—Herr Joachim, Mv. L. Ries, violin, Herr Strauss, viola, Mr. Zerbini, ail viòlin, Signor Piatti, violoncello.J Can ... "AveMaria" ...... Schubert. [Gan Miss Blanche Cole.] Sonata, yn A fwyaf, i'r piano .... ... Momart. [Gan Herr Pauer.] Can, gan Miss Cole Trio, yn B leddf............... Schulert. [Herr Joacbim, violin, Sig. Piatti, violoncello, Herr Pauer, piano.J Program rhyfedd yw hwna, onide? Beth feddyliai Uanciau a genethod Cymru yna am brogram yn cynwys