Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

î OERDDOE CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY: CYHÛEDDEDIC DAN NÄWDD PRIF CERDD0R10N, GORÀU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 116. HYDEEF 1, 1870. Pris 2g.—gydcír post, 3c. HYSBYSIAD. Ni argreffir oW Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allanyn «#«/»» ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EDT GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu eyn yr 20/ed o'r mis, yn syml fel hỳn:—Rev. J. Roberts, Fron, Gamarvon. Y OYNWYSIAD. TUDAL. Cylchwyliau Henffordd a Birmingham ......... 78 Ctlchwyliau y Tri Chor ............................. 75 ElSTEDDFOD EHYL ................................... ..... 75 Eisteddfod Drill Hall, Merthyr, Nadolig 1869 76 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ceredigion ... 76 Cyngherddau Miss Watts a Mr. Joseph Parry 77 Llundain........,........................................... 77 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy ...... 77 bwrdd y golygydd..................................... 78 Amrywion................................................ 78 Marwolaeth Mr. J. D. Jones, Rhuthyn ......... 78 Y Cronicl Cerddorol.................................... 79 CYLCHWYLIAU HENFFOEDD A BIB- MINGHAM. Nid llawer o wahaniaeth oedd rhwng y cylchwyliau hyn eleni a'r blynyddoedd o'r blaen. Yn Henffordd, nid oedd ond ychydig o newydd-deb yn y gerddoriaeth. Y Mes- siah y dydd cyntaf a'r Elijah y dỳdd diweddaf, fel y mae yn arferol yn nghyfarfodydd y tri chor er ys blynyddau. Rhwng y rhai hyn, cafwyd Last Judgment (Spohr), Twelfth Mass (Moaart), rhan o'r Creation (Haydn), As pants the hart a'r rhanau a dawyd o Ghristus (Mendel- ssohn), Prodigal Son (Sullivan), Praise ye the Lord (Henry Holrnes) a Rebehah (Barnby). Y ddwy ddiw- eddaf yn unig oedd yn newydd ar gyfer y gylchwyl hon. Nid oedd yno neb newydd yn canu nac yn chwareu ychwaith. Y peth newydd pwysicaf oedd yno ydoedd y cyngherddau o gerddoriaeth amrywiol yn yr eglwys gadeiriol yn yr hwyr. Tra yr ydys yn dadleu yn Wor- cester yn erbyn cynal y cyfarfodydd yn y boreu, yn y rhai ni chenir dim ond oratorios, yn yr eglwys gadeiriol, dyma Henffordd yn dwyn i fewn bob math o gerddor- iaeth, leisiol ac offerynol, i'r addoldy cysegredig. Ym- ddengys fel pe byddai y cyfarwyddwyr yn penderfynu mynu gweled pa mor bell yn y cyfeiriad hwn y gallent anturio. Yn Birmingham, newydd-deb oedd un o'r prif attyn- iadau. Rhaid ydoedd cael llawer o'r hen yno hefyd, Cafwyd y Messiah a'r Elijah, Sarnson, JReguiem (Mozart) a Naaman (Costa); ond cafwyd amryw o weithiau newyddion gyda hwynt. Y prif gyfansoddiadau new- yddíon oedd, Paradise and ihe Peri (Mr. Barnett); Ode to Shaícespeare (Dr. Stewart); Nala and Damayanti (Dr. P. Hiller); St. Peter (Mr. Benedict), ynghyd ac Overture o nodwedd ysgafn gan Mr. Sulliran. Cafodd Paradise and the Peri dderbyniad a chymeradwyaeth gwresog iawn ; ac nid heb eu teilyngu; ac yr ydym yn camgymeryd os na cheir clywed y gwaith hwn eto. Oeraidd iawn y derbyniwyd yr Ode gan Proffeswr Stewart; a dichon mai goreu pa leiaf a ddywedir am y gwaith. Cafodd Dr. Hiller a'i Nala dderbyniad cynes iawn. Yr oedd llawer o hyn, mae yn ddiau, yn cyfodi oddiar barch i'r Doctor, yr hwn syäd wedi cymeryd ei le bellach fel un o brif gerddorion Germani, ac oddiwrth y ffaith mai dyma y cyntaf o'i waith a ganwyd erioed yn Nghylchwyl Birmingham. Ond am ei waith hwn, o ran ei destyn a'i gyfansoddiad, y mae yn amheus genym a gaiff efe ei ganu byth eto yn Lloegr. Gwnaeth Miss Edith Wynne, fel cynrychiolydd Damayanti yn dra rhagorol. Yv ydym yn cydolygu ag un o feirniaid Llundain mai nid hawdd fuasai cael neb a ragorai arni yn y rhan hon. Canai Mr. Cummings, yr hwn a gynrychiolai Nala, yn gywir a gofalus iawn; ond nid oedd ond ychydig o wres i'w gael ynddo ef nac yn y gerddoriaeth. Yr oedd y cor dan fesur o anfantais o herwydd y dull yr oedd Dr. Hiller yn cadw amser. Am St. Peter y mae yn arddangos Uafur mawr a dysgeidiaeth uchel; ac y mae yn debyg y clywir hi eto yn Llundain, os na cheir ail-adroddiad o honi yn Birmingham. Ceir ynddi rai rhanau tarawiadol; onä nid ydyw yn dyfod i fyny i ddosbarth y Messiáh a'r Elijah. Nid oedd neb newydd yn mysg yr offerynwyr y fiwyddyn hon. Yn rhestr y cantorion, yr oedd tri enw newydd, hyny yw, newydd i gylchwyl Birmingham, sef Miss Edith Wynne, Mr. V. Rigby, a Sig. Foli; ac yr ydym yn lled sicr, os caniateir iddynt fywyd ac iechyd, mai nid dyma y tro diweddaf i'r naill na'r llall o honynt. Cafodd Miss Wynne y derbyniad mwyaf ffafriol; canodd Mr. Vernon Righy yn rhagorol; ac yr oedd llais bas ardderchog Sig. Poli yn cael ei ganmol gan bawb. Canai yr hen gan- torion—Mddle. Titiens, Mdlle. Sema, di Murska, Madam Lemens-Sherrington, Mddle. Drasdil, Madam Patey, Mr. Sims Reeves, Mr. Cummings, a Mr. Santley, fel arferol. Yr ydym yn meddwl na chanodd Titiens erioed yn well, a bod Patey yn parhau i wella; ond yr oedd yn ymddangos i ni nad oedd Santley i fyny a rhai o'i farciau blaenorol. Nid ydoedd y cor wedi gwella dim ychwaith. Yr oedd y canu corawl yn y ddwy gylchwyl ddiweddaf yn well na'r tro hwn. Clywsom lais Costa fwy nag unwaith yn ceisio cadw rhai o'r rhanau yn eu íle.