Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T CERDDOB CYMEEIGr: CYLCHGRAWN MISOL AT WASAMETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 127. MEDI 1, 1871. Pris 2g.- ■ r post, 2^c. AT BIN GOH'EB'WY'R.-Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cehddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr 2Qfed o'r mis, yn syml fel hyn : —Bev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CTNNWYc-IAD. TÜDAL. Mr. Joseph Parry, Mus. Bac........... 65 Dylanwadau Cerddorol yn Lloegr ........ 67 Oraddan Caergalnt.............. 68 Yr Organ yn Neuadd Albert .......... 69 Ystafell yr Hen Alawon............. 69 Mr. John H. Roberts ............ 69 Cronicl Cerddorol.............. 70 ME. JOSEPH PAEEY, Mus. Bac Mab yn debyg y bydd ein cydwladwr talentog wedi hwylio am America, gyda'i briod ofalus a'i ddau bientyn bychan, cyn y daw y Úinellau hyn o flaen y darllenydd. Dydd Sadwrn, Gor. 22, ydoedd dydd pen y tymor, a dydd ymadawiad Mr. Parry o'r Brif Athrofa Gerddorol, ar ol bod ynddi am ranau helaeth o dair blynedd. Cyn- haliwyd cyngherdd ar doriad i fyny y tymor, fel arferol, yn yr hon y cymerid rhan gan yr efrydwyr, acy cenid ac y chwareuid darnaù o gyfansoddiad yr efrydwyr. Yn mysg y cyfansoddiadau, yr oedd tri neu bedwar o'r rhai oedd yno eleni yn sefyll yn uwch na dim a gafwyd er ys blynyddoedd; a'r blaenaf, yn ddiau, ydoedd Choral Fugue yn B leddf, gan Mr. Parry; Rhanau o Symphoni yn C leiaf, gan Mr. Shakespeare; a Rhanau o Symphoni yn B leddf, gan Mr. Wingham. Rhag i neb gael achlysur i'n beio y tro hwn am ddaugos ffafr i Mr. Parry (o'r hyn y mae rhai pobl eiddigus yn rhy hoff) ni a ymíoddlonwn ar ddifynu ychydig o sylw- adau y prif bapyrau Saesoneg ar y pwnc. I ddechreu, dyma y Times:— "O'r darnau gwreiddiol eraill a gafwyd yn y gyngherdd hon, y cyntaf oedd rhagarweiniad corawl yn B leddf— " Cyfyd goleuni i'r rhai cyflawn"—gan Mr. Joseph Parry, Cjmro ieuanc Canadiaidd [Americanaidd yn hytrach], a disgybl i Syr Sterndale Bennett—rhan o gantata a ysgrifenwyd ganddo gogyfer a chymeryd y gradd o Mus. Bac. yn Mhrif Ysgol Caergrawnt, anrhyd- edd os ydym i farnu wrth y dernyn hwn, ag yr oedd Mr. Parry yn ei gyflawn deilyngu, ac anrhydedd, gallwn ychwanegu, a gafodd. Mae y gydgan yn agor yn aw- durdodol, ac mae yr Ehediant, yn gyfosodedig ar ddau destyn, y rhai yn y goda a weithir gyda'u gilydd, yn gywrain, wedi ei dadblygu yn dda ac yn effeithiol." Y Telearaph a ddywed :— . " Yr ydym yn myned heibio i -------- gyda'r ganmol- iaeth sydd yn ddyledus i ymarferion addawol, ond gallwn roddi clod mwy calonog i Ehediant Gorawl yn B leddf gan Mr. Parry, Mus. Bac, boneddwr ag y mae ei gwrs athrofaol wedi bod yn dra llwyddianus. Mae yr Ehed- iant—cyfansoddiad ag sydd wedi ei gynllunio yn dda a'i weithio allan yn gelfyddydol—yn rhoddi prawf digonol fod Mr. Parry wedi ei seilio yn dda yn hanfodion ei gelfyddyd." Barn y London Standard ydyw :— " Canmolwyd Mr. Parry o'r blaen am ei fedr a'i dalent fel ysgrifenydd lleisiol. Bydd i'w Ehediant yn B leddf ychwanegu at yr argraff ffafriol a wnaed gan ei weitbiau blaenorol. Y mae yn gyfansoddiad o gynlluniad da ac o wneuthuriad gwrthbwyntiol llafurfawr, a dengys fod ei awdwr wedi elwa yn rhagorol aryr addysg a weinyddir yn y sefydliad." Ysgrifena yr Orchestra:— " Yn mysg y cyntaf gallwn nodi Ehediant Gorawl yn B leddf gan Mr. Parry, boneddwr ag y mae ei allu mewn cyfansoddiant yn peru cael ei deimlo. ^ # Y mae Mr. Parry yn awr yn dychwelyd i America yn gyflawn o anrhydedd." Gallwn yma ychwanegu hefyd y llythyr a anfonwyd gan Syr Sterndale Bennett, ei athraw, gydag eglurhad paham nas gallai fod yn bresenol yn ei Gyfarfod Ym- adawol:— " Yr wyf yn gofidio yn fawr am nas gallaf fod yn "nghyfarfod ymadawol" Mr. Joseph Parry heno. Y mae genyf ymrwymiad gartref. Mae Mr. Parry yn teilyngu yn y modd mwyaf trwyadl y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth a roddir iddo. Bydd iddo ddychwelyd i Amerìca yn gerddor gorphenedig ac yn gelfyddydwr brwdfrydig. Y mae wedi bod dan fy meirniadaeth yn y Royal Academy ac yn Mhrif Athrofa Caergrawnt." Síi a hyderwn fod y tystiolaethau hyn yn fwy na thâl i'w gyfeillion am bob ymdrech a wnaethant yn ei achos. Dylem ychwanegu iddo dderbyn gwobr uchaf yr Acad- emy o law Mis. Gladstone, sef y Bathodyn Arian, ar gyfrif ei deilyngdod fel cyfansoddwr. Y CrPAiiroD Ymadawol. Cynhaliwyd hwn yn Neuadd Sefydliad y Gwyr íeuainc yn Aldersgate Street, Llundain, danlywyddiaeth Robert Jones, Ysw., Sirydd Llundaitt a Miädlesex, yr hwn a ddaeth yno yn ei gerbyd swyddol, a chadwen aur ei swyddogaeth am ei wddf, a Mrs. Jones gydag ef, yn llawn ysbryd a brwdfrydedd at waith y cyfarfod. Ar ol darllen nifer fawr o lythyrau oddiwrth Aelodau Seneddol ac eraill, yn datgan eu gofid am nas gallasent fod yn bresenol, ac yn cynwys arian at yr anrheg, aed yn mlaen fel y canlyn :—