Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEOia DAH NAWDD m CERDDORION, GORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 133. MAWRTH 1, 1872. Pnis 2g.—gydcHr post, 2%c. AT ~EYN GOHEBWYB. -Byddwn ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ameu cyn yr 20/eci o'r mis, yn syml fel hyn:~Rev. J. Roberts, Fron, Carnawon. OYNHWYÍIAD. TUDAL. Cystadleuaeth Gerddorol y Palas Gwydr ....... 17 Cystadleuaeth Cefn Mawr, Nadolig, 1871 ...... 18 Cystadleuaeth Portmadoc............. 19 Y diweddar Mr. Henry F. Chorley ......... 20 Marwolaeth Mr. Thomas Evans, Dowlais ........ 20 Marwolaeth Mr. Llewelyn Williams ........ 21 Y Diolchgarwch Cenedlaethol yn Eglwys St. Paul .. .. 21 Congl yr Efrydydd Ieuanc.......... 22 Hanesion Cerddorol...... ...... .. 22 CYSTADLEUAETH GEEDDOEOL Y PALAS GWYDE. Y mae Cyfarwyddwyr y Palas Gwydr yn Sydenham wedi penderfynu cymeryd dalen o lyfr y Cyfarfodydd Cystadl- euol Cymreig, ac wedi cyhoeddi ar led y byd i gystadl- euaeth gerddorol gael ei chynal yn y Palas yn yr haf nesaf', yr hon, raewn ystyr arbenig, a fydd yn agored i'r byd. A dywedant yn mhellach eu bod yn bwriadu i'r gystadleuaeth gymeryd lle tua chanol yr haf o hyn allan bob blwyddyn. Cynhelir y gyntaf, Meh. 27 a 29, a Gor. 2, 4, 6. Yn y cyfarfodydd hyn, gwahoddir cystadl- euaeth yn mhob ffurf o gerddoriaeth o'r braidd—gan Gymdeithasau Corawl Cartrefol a Thramor, Canwyr Canigion, Madrigalau, Rhan-ganau, Corau Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi cyffredin, Bands Milwrol ac eraill, a Chantorion Unodau heb fod yn broffeswyr cerddoriaeth. GoCelir am i'r gystadleuaeth Gorawl a'r OrTerynol fod rhwng cyrph o gyffelyb nerth yn eu gwahanol ddosbarth- iadau; a chaiff y cantorion unodau gystadlu yn ol natur eu lleisiau. Ni chaniateir ond i nif'er penodol gystadlu am yr un wobr; a rhoddir y flaenoriaeth, hyd y gellir, i'r rhai a anfonant eu henwau yn gyntaf i mewn. Y prif Reolau gyda golwg ar gymeryd rhan yn y gystadleuaeth yw y rhai canlynoi:— Rhaid i bawb fydd yn bwriadu ymgeisio lanw papyr a geir oddiwrth Mr. W. Beale, Crystal Palace, a'i anfon yn ol ar neu cyn Ebrill löfed. Yn dilyn y papyr hwn rhaid anfon swm o arian—£10 am bob corph o gerdd- orion, a £5 am bob canwr neu gantores unawd. Dy- chweíir yr arian hyn yn llawn ar ddiwedd y gystadleu- aeth, i bawb ond i'r rhai fyddant wedi enill gwobrau o fwy na £25. Ond os na ddaw yr ymgeisydd yn mlaen, i gystadlu yn y lle ac ar y pryd penodedig, neu os bydd iddo dori y rheolau mewn rhyw fodd, bydd yr arian yn cael eu fforffetio. Cyfyngir y gystadleuaeth ar Unodau i rai heb fod yn proffesu cerddoriaeth, neu na fyddont wedi bod yn canu yn gyhoeddus am fwy na deuddeg mis o flaen y gystadl- euaeth. A rhaid i bob ymgeisydd mewn canu Ünodau anfon tystysgrif oddiwrth broffeswr cerddoriaeth ei fod ef neu hi yn gyfaddas i ymgymeryd a'r gwaith; a rhaid i'r ymgeisydd ganu yn nglywedigaeth y Beirniaid, os gofynir am hyny, cyn cystadlu am y wobr. Penodir dyddiau neillduol at hyny. Telir cludiad y cystadleuwyr i'r Palas Gwydr ac oddi- yno gan Gwmpeini y Palas Gwydr. [Nid ydym yn gweled o ba le. A ydyw hyn yn cynwys y cludiad o Gymry, Scotland, y Werddon, neu y Cyf'andir; neu ynte o Lundain yn unig, ni ddywedir dim.] Darperir y gerddoriaeth fydd i'w chanu ar yr olwg gyntaf, a.rhanau i offerynau y bands, can Gwmpeini y Palas Gwydr. Rhaid i'r ymgeiswyr ddarparu pob cerddoriaeth arall. Caiff paWb ddewis eu Harweinyddion eu hunain. Bhaid i'r Unodau gael eu canu gyda'r cyfeiliant sydd wedi ei ysgrifenu iddynt yn wreiddiol, os na fydd y Barnwyr yn caniatau cyfeiliant arall. Gelwir ar yr ym- geiswyr i ganu yn nhrefn llythyrenau y wyddor, yn ol yr enwau a roddant. Caniateir gwasanaeth band y Palas Gwydr i'r ymgeiswyr os byddant yn dewis hyny. Hhaid i'r ymgeiswyr brodorol neu dramor fyddont wedi enill gwobrau yn y Dosbarthiadau I., II., III., Ví„ a VII. ymrwymo na fydd iddynt ganu yn Llundain na'i chymydogaeth o fewn mis ar ol y gystadleuaeth, oddi- gerth iddynt gael caniatad ysgrifenedig cyfarwyddwyr y Palas Gwydr i wneyd hyny. Y Baknwtk. Yr ydys wedi nodi nifer fawr o brif gerddorion y deyrnas yn Gyngor o Gerddorion. Cynwysa y Cyngor y Parch. Syr. F. A. G. Ouseley, Mus. Uoc, Ehydychain. Syr W. S. Bennett, Mus. Doc, Caergrawnt. Syr Julius Benedict; Syr G, Elvey; Dr. Stewart, Dublin; Mr. J. Barnby, Mr. J. Hullah, Mr. H. S. Oalceley; Mr. W. Cusins, Mr. H. Leslie, Mr. G. A. Macfarren, Dr. Monk, Dr. Wesley, Dr. Spark, Mr. Arthur Sullivan, Mr. B. Richards, &c, &c O'r Cyngor hwn, bydd yr ymgeiswyr i ddewis nifer o farnwyr, heb fod dros bump, yn ddirgelaidd, i feirniadu yn mhob dosbarth. Rhaid i enw y neb a nodir gan bob cor, band, ac ymgeisydd unigol i wneyd y dewisiad hwn gael ei anfon i Mr, W. Beale erbyn ŷ laf o Eai; a gwneir y dewisiad ar neu cyn y laf ó Eehefin. Bydd y gystadleuaeth yu gyhoeddus, ac yn mhresenoldeb y Barnwyr fyddont felly wedi eu dewis. Bydd dygiad yn mlaen y gystadleuaeth yn ngofal y Barnwyr, a bydd eu barn hwynt yn derfynol yn mhob achos. Éhaid i bob cor, parti, neu band nodi rhyw un person i'w gynrychioli,