Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AG UNDEBÂU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 145. MAWETH 1, 1873. Pris 2g.—gyddr post, 2^c. AT BIW GOHBBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cebddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu eyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Rcv. J. Roberts, Fron, Carnawon. CYNNWYSIAD. TUDAL. I. Handel ................ 17 Y diweddar Henry Hugh'Piersoû.......... 18 Madam Arabella Goddard............ 18 Cystadleuaeth Lenyddol Llanberis a Dinorwic...... 19 Eisteddfod Ystradgynlais............. 19 Undeb Cerddorol y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Ddinbych 20 Cylchwyl Gerddorol Edinbnrgh............ 20 Crythen (Violin) ............... .,20 Llundain.................. 21 Hanesion Cerddorol.............. 81 Congl yr Efrydydd Ieuanc............ 22 Bwrdd y Golygydd .............. 22 Cronicl Cerddorol .. ........ ..... 22 I.-HANDEL. (Parhad.) Gweithio yn galed iawn a wnai Handel yn 1720; ond yr ydoedd, fel pob gwir weithiwr, yn ymddifyru raewn cael digon o waith. Heblaw gofalu am ei waith fel organydd y capel yn Cannons, yr oedd yn rhoddi gwersi ar yr harpsichord i ferched Tywysog Cymru, ac ar agoriad y Royal Academy of Music efe a ddygodd allan opera Radamisto, cyfansoddodd yr oratorio Esther yn Cannons, a chyhoeddodd nifer o ddarnau i'r harpsichord, y rhai a gyfansoddwyd ganddo, meddir, at wasanaeth ei hoff ddisgybles y Dywysoges Anne. Yn mysg y rhai hyn y mae un a fydd yn anfarwol. Un traddodiad am dani ydyw i gawod drom b wlaw oddiweddyd Handel un diwrnod yn Edgeware, ar ei ffordd i Cannons. Trodd yntau i lechu i efail gof o'r enw Powell, yr hwn oedd hefyd yn glochydd Whitchurch. Canai y gof wrth fyned yn mlaen gyda 'i waith. Sylwodd Handel ar y gan, ac ar y gynghanedd a gynyrchid iddi trwy daraẁiad y morthwyl ac yr eingion. Ymadawodd, a dygodd y gerddoriaeth gydag ef yn ei gof; a phan ddychwelodd adref, efe a'i trefnodd i'r harpsichord. Y dernyn hwnw ydyw yr un a alwyd wedi hyny, ac a adwaenir wrth yr enw The Harmonious Blacìcsmith. Yn 1721, cyfansoddwyd yr opera Muzio Scozvola yn dair rhan—rhan gan bob un o'r tri chyfansoddwr; a'r tmig opera a gynyrchwyd gan Handel ei hun oedd Flori- danie. Yn 1723, efe a ddygodd allan Otto. Dygwyd yr enwog Cuzzoni drosodd o Itali i ganu yn hon, a thalwyd iddi £2,000 am ei gwasanaeth trwy y tymor, yr hyn a ystyrid yn swm mawr iawn y pryd hwnw. Yr ail noswaith yr oedd yn canu yn Otto, pa fodd bynag, gwerthid y tocynau am bedair gini bob un. Daeth alawon yr opera hon yn dra phohlogaidd trwy yr holl deyrnas. Wedi hyny, yn yrun flwyddyn, efe a ddygodd allan Flavio a Julius Cesar. Yn 1725, yr unig un a ddaeth allan o'i eiddo oedd Rodelinda. Yn y blynydd- oedd 1726—28, efe a ddygodd allan liaws o operas, sef Scipo, AIexander, Cyrus, Admetus, a Ptolemi. Yn Alexa*r der ymddangosodd cantores dra phohlogaidd o'r enw Faustina, a rhedodd y teimlad yn uchel iawn rhwng ei phleidwyr hi a'r eiddo Cuzzoni. Yn 1727 hefyd efe a gyfansoddodd y Coronation Anthems, gogyfer a choroniad George II. a'r Frenhines Caroline, yn Westminster ar yr lleg o Hydref. Heblaw yr operas a nodwyd o eiddo Handel, yr oedd amryw gyfansoddiadau o waith Bononcini ac Attalio wedi eudatgan hefyd gan y Royál Academy o/Music yn ystod y blynyddoedd hyn. Aeth pob peth y'n mlaen yn llwyddianus y blynyddoedd cyntaf; ond cyn hir teimlal rhai o bëndefigion yr Academi fod y cerddor yn rhy ffroen-uchel ac annibynol, ac nad ydoedd yn arfer tuag atynt hwy y gostyngeiddrwydd a'r parchedigaeth a ddylásai. Yr oedd yr arian yn cael eu gwario yn gyflym, ond araf yr oeddynt yn dyfod i fewn; ae yr oedd llawer a'u holl egni yn arfer pob moddion a fedrent i ddrygu Handel, ac i ddwyn y sefydliad i'r llwch. O'r diwedd, yn 1728, yr oedd yr arian wedi darfod yn hollol, cyfeill- ion y sefydliad yn cilio, a phob drygair yn -cael ei roddi i Handel, ei gyfansoddiadau a'r Academi oedd dan ei lywyddiaeth ; a thorwyd y sefydliad i fyny. Yn y cyfamser clytiwyd i fyny opera gan Dr. Pepusch, o wahanol faledi isel a phoblogaidd, dan yr enw Beggar's Opera, a dygwyd hi allan yn Chwareudy Lincoln's Inn Fields. Gwelir archwaeth yr oes hono pan ddywedom fod pendefigion Llundain yn llenwi y tŷ i wrando y cyfansoddiad llygredig hwnw, a Handel a'i weithiau yn cael ei adael i newynu. Daeth lliaws o weithiau o'r un cymeriad allan yn yr un lle. Yr ail oedd Polly, yn yr hon yr oedd tri o ddarnau wedi ei lladrata allan o gyfan- soddiadau Handel. Ond yn ddi-ildio fel y graig, ac yn teimlo fod ei allu i gyfansoddi yn ddihysbydd, cymerodd Handel yr Hay- market ei hun, ac aeth drosodd i'r cyfandir i chwilio am gantorion. Dychwelodd y flwyddyn ganlynol, gyda mintau o'r goreuon a fedrai gael yn Itali a Germani; a dygwyd allan yr opera gyntaf Lothario, ar yr 2il o Ragfyr, 1729. Nid yn wresog iawn y derbyniwyd hon na'r Parthenope, yr hon a ddygwyd allan yn 1730. Cafwyd- Sig. Sesino yn ol yn 1731, am 1,400 gini y tymor, a llwyddodd i wneyd Porus yn lled boblogaidd. Yn JEtius, y flwyddyn ganlynol, cwynai y bobl oherwydd yr hen ddillad, ac ni fedrent archwaethu y gerddoriaeth newydd. Yn y mis canlynol daeth Sosarme allan; ond nid llwydd- iant mawr a gafodd hon ychwaith. Yn 1732, pa fodd bynag, digwyddodd un amgylchiad ag y rhaid ei gofnodi. Yr oedd ei oratorio gyntaf Esther yn gorwedd yn farw yn Cannons; ond digwyddodd i