Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CER CYLCHGRAWN MÎSOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 146. EBEILL 1, 1873. Pris %g.-*-gyddr post, 2£c. AT EHST GOHBBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw arneucyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnanon. OraHWYSIAD. TUDAD. I. Handel ............ .. .. 25 Gregoriaeth ................ 26 Undeb Llenyddol a Cherddorol Bhostryfan a Rhoscadfan .. 27 Mdlle. Nita Gaetano.............. 27 Ystafell yr Hen Alawon ............ 28 Llundain........ .......... 28 Cronicl Cerddorol .............., 30 I.-HANDEL. (Parhad.) Erbyn fod tymor 1733 wedi terfynu (ar y 9fed o Fe- hefin) yr oedd y teimlad wedi myned yn gryf, yn chwerw a phenderfynol iawn yn erbyn Handel, a phob peth oedd yn perthyn iddo. Cyhoeddid pob math o luniau a dis- grifìadau dirmygus o'i berson; a thaenid am dano ei fod yn iwth, yn feddw, yn bob peth croes i foesol a bonedd- igaidd; ac am ei gerddoriaeth, yr oedd i'w gwaradwyddo a'i gwrthod gyda'r amharch mwyaf. Yr oedd y fath nerth o swn yn ddigon i rwygo penau, i ddryllio tai; ac yr oedd yn debycach i ruthriadau y mor mewn tymhestl nag i gcrddoriaeth. Dyledus ydyw sylwi yn y lle hwn í'od Handel yn defnyddio llawer iawn mwy o offerynau nag a dybir gan lawer. Yn wir, yr oedd pob oíFeryn ag sydd yn y gerddorfa y dyddiau hyn mewn arferiad gan- ddo, oddigerth y clarinet, y cornet-a-piston, a'r ophe- clcid, heblaw amryw eraill ag sydd erbyn hyn wedi myned allan o arferiad. Gwnaed iddo un bassoon yn 16 troedfedd o uehder; a chwynai yn fynych ei fod yn methu cael offerynau i osod allan ei feddylddrychau. Yr oedd y nerth hwn, amlder y cydganau yn ei oratorion, ynghyd a'i waith yn gwneyd yn hyf ar eiriau a chymer- iadau ysgrythyrol, wedi troi corph mawr y beirniaid a'r bobl yn ei eibyn, tra yr oedd ei annibyniaeth a'i dymer nchel wedi peru i'r pendefigion, dan arweiniad Duc Marlborough, ymfyddino i'w roddi i lawr. Er fod ei wrthymgeisydd Bononcini wedi troi ei gefn ar y wlad am byth, oherwydd ei brofì yn euog gan yr Âcademy of Music o hòni iddo ei hun awduriaeth Ma- drigal o waith Lotti, darfu i'r cweryl rhyngddo a'r eunuch Senesino, yr hwn oedd mewn bri mawr gan y pendefigion, ac a ystyrid y canwr blaenaf yn Ewrop ar y pryd, ber- ffeithio y rhwygiad. Er pob eiriolaeth ar ran Senesino, dal yn ystyfnig a wnai Handel; a dywedodd yn bender- fynol na chai Senesino ganu byth mwyach gydag ef. Ffrwyth y rhwygiad hwn oedd i'r pendefigion i gyd adael Handel, a sefydlu ty cerddorol arall yn ei erbyn, a chyflogi Senesiuo, ynghyd a'r prif gantorion eraill i gyd ond Signora Strada, yr hon a arosodd yn fí'yddlon i Handel trwy y cwbl. Cyflogwyd hefyd yr Italiad Por- pora ("Old Borbora" fel y gelwid ef gan Handel) yn gy- fansoddwr. Nid oedd y teimlad goreu yn cael ei fynwesu gan gyfansoddwyr Brydain ychwaith tuag ato. Gwelsom ddarfod i Dr. Pepusch ddwyn allan ei Beggar's Opera yn ei erbyn; ceisiai Dr. Gfeen fod ar delerau da gyda Handel, pryd yr oedd mewn gwirionedd yn gwneyd yr oll a allai yn ei erbyn; ac nid oedd Dr. Boyce (y mwyaf o gyfansoddwyr Brydain ar y pryd) na Dr. Arne, mewn un modd yn ffafriol iddo. A rhaid. addef mai ychydig o feddẃl fyddai ganddo yntau o honynt hwy, ac y dy- wedai ei farn am danynt yn lled ddifloesgni. Pan glywodd fod Dr. Green yn rhoddi cyngherddau yn y Devil Tavern, ebai efe, "Ah, mein por friend Toctor Green !—so he is gone to de Tefil!" Yn haf y flwyddyn dan sylw, efe a gyfansoddodd Oratorio arall, Athalia; ac aeth efe a'i fintai gerddorol i lawr i Bydychain i'w chanu. Yr oedd pob math o farnau amdano yn Rhydychain drachefn; ond llwydd- ianus ar y cyfan a fu yr ymgyrch hon. Dywed yr hanesydd ddarfod i'r oratorio gael ei datgan " gyda cbymeradwyaeth ddirfawr, o flaen cynulleidfa o 3,700 o bersonau." Cynygiodd awdurdodau Rhydychain yr hyn a ystyrient hwy yr anrhydedd uchaf a fedrent iddo, sef y gradd o Ddoctor Cerddoriaeth; ond gwrthododd ei dderbyn, a hyny nid yn y geiriau mwyaf parchus. Edrychaiefe ar y gradd hwnw fel rhywbeth i "bloclcheads" "I no vant." O deulu y dderwen, fel yr ydoedd—yn fwy parod i dori nac i blygu, yn analluog i sylweddoli y teimlad a'r dylanwad cryf oedd yn gweithio yn ei erbyn, ac yn methu credu nad oedd efe eto i fod yn llwydd- ianus yn yr opera, efe a benderfynodd ail agor yr Hay- raarket, ac aeth drosodd i'r cyfandir i ymofyn mintai o gantorion. Clywodd yno Farinelli a Carestini; ac mewn rhyw fodd nas gellir ei esbonio, efe a ddewisodd yr olaf. Dychwelodd yn Hydref. Yn y cyfamser cyf- logwyd Farinelli (y soprano gwrywaidd goreu yn Itali), gan ei elynion, ynghyd a Senesino a Signora Cuzzona. Dechreuodd Handel yn yr Haymarket ar Hyd. 30, a dechreuodd ei wrthwynebwyr yn Lincoln's Inn, Rhag. 29. Gyda holl ddylanwad y bendefigaeth a Thywysog Oymru yn ei erbyn, a Handel heb neb o bwys ond y Brenin George II., ati eto i gyfansoddi operas yr aeth Handel. Dygwyd aílan Semiramis, Caajus Fabricìus, ac Arbaces, i ddechreu. Tri dernyn o glytwaith, ac nid eyfansodd- iadau gwreiddiol o eiddo Handel oedd y rhai hyn. Ond yn nechreu y fl. 1734, efe a ddygodd allan opera new- ydd, Ariadne, ar yr un testyn ag y cyfansoddasai Por- pora i'r ty arall. Wedi hyny, daeth Parnasso in Festa, serenata ar briodas y Dywysoges Anne. Clytiwyd j