Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIC: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIÀETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIÖ DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 152. HYDREF 1, 1873. Pjris 2j.—gydoír post, 2%c. AT E31N GOHEBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bcv. J. Roberts, Fron, Carnarvon. CÎNNWYSIAD. TUDAL. Oratorio newydd Mr. Sullivan .......... 71 Adroddiad Mr. Hullah .............. 72 Cylchẃyl Goffawdwriaethol Schumann....... .. 72 Cylchwyl Gerddorol Birmingham.......... 73 Cylchwyl Gerddorol Henffordd ........., 73 Undeb Corawl Gogledd Cymru .......... 74 Cystadleuaeth Cerygydruidion .......... 75 Ystafell yr Hen Alawon .. .. ........ 76 Athraw Cerddorol yn Athrofa Aberystwyth ...... 76 Mademoiselle Albani ........ .. .. 77 Congl yr Efrydydd Ieuanc............ 77 Cronicl Cerddorol ............... 77 Amrywion ................ 78 Cerddoriaeth :-Canwn ynghyd—Gwilym Gwent. ORATORIO NEWYDD MR. SULLIYAN Y mab llygad y byd cerddorol wedi bod ar Arthur S. Sulliyan byth er pan y dychwelodd o Leipsic, wedi gorphen ei dymor yno fel deiliad ysgoloriaeth Mendel- ssohn, gyda cherddoriaeth y Tempest yn ei law. Ar ol hyny efe a ysgrifenodd y Prodigal Son, ac wedi hyny y Te Deum ar adferiad Tywysog Cymru, pa un a ddatgan- wyd yn y Palas Grisiaì. Ond ei waith diweddaf, a'r pwysicaf o lawer a gynyrchwyd ganddo hyd yn hyn, yw yr oratorio hon " The light of the world." Er mai Iesu Grist i'w testyn y cyfansoddiad, nidydyw yn cymeryd yr un llwybr a'r Msssiah; dilyna ef yn hytrach yn ei fywyd ar y ddaear, gan ddwyn ger ein bron, yn y rhan gyntaf, ei briodoliaethau neillduol a'i waith fel Pregethwr, Iachawdwr, a Phrophwyd; ynyrail ran ei ymadroddion yn mha rai y mae yn datgan ei hun yn Fab y Dyn, acyn cynhyrfu ei elynion i'w ladd, ei ddi- oddefiadau, ei adgyfodiad, a diddanwch ei ddisgyblion mewn cysylltiad a'r ffaith fawr hono. Rhenir golyg- feydd y rhan gyntaf i bedair—Bethlehem, Nazareth, Lazarus, Y ffordd i Jerusalem; a gosodir golygfeydd yr olaf i gyd yn Jerusalem. I ddechreu, ceir Rhagarweiniad prophwydol o Esaiah —y prophwyd Efengylaidd. Yna daw cydgan ragar- weiniol, " Yna y daw allan wialen," yn E leddf. Ar ol andante pastorale dyner a hyfryd, ond yn cynwys rhai rhagfudiadau dieithr, daw adroddgan, " Yr oedd yno fugeiliaid," ac alaw contralto, "Mac ofnwch," yr hon a arweinia i gydgan yr angylion " Gogoniant yn y Goruchaf," i ddau soprano a dau alto. Dilynir hon gan gydgan y bugeiliaid, i ddau denor a dau fas. Ar ol adrodd-gan bas yn dwyn i fewn Gan Mair, ceir cydgan eto gan y bugeiliaid, " The whole earth is at rest." Cyd- gan dra effeithiol yw bon. Ar ol rhai adroddganan ac alawon, daw cydgan olaf yr olygfa gyntaf, " I will pour my spirit," mewn arddull ffoal, ac wedi ei gweithio gyda llawer iawn o fedr. Cynwysa yr olygfa nesaf unodau gan yr Arglwydd, gyda chydganau byrion gan bobl Nazareth. Mae unodau yr Iesu yn syml, yn cyfranogi 0 nodwedd cerddoriaeth Gregoraidd, a gofyna lawer o ddeall a theimlad ar ran y canwyr, ynghyd a chwaeth a barn ar ran y chwareuwyr i gadw y rhai hyn rhag myned yn ddifywyd. Yn llaw Mr. Santley yr oeddynt yn ddi- ogël; ond nid yn aml y mae ei fath ef i'w gael. Y mae cydgan pobl Nazareth, " Ymaith ag ef " yn ddramayddol iawn; a thra gwrthgyferbyniol ydyw effaith y darnau sydd yn dilyn—Pumawd y disgyblion, " Diau ti yw ein Tad," yr unawd hyfryd. " Gwynfyd y rhai a eriidir o achos cy fiawnder," a'r gydgan ardderchog sydd yn terfynu y rhan hon, "Y mae efe yn gwneyd i'w haul godi." Ar 01 rhâi rhanan o uno'iau, bas a thenor, rhwng yr Ar- glwydd a disgybl a roddasai y newydd iddo am gystudd Lazarus, mae yr ail ran o'r drydedd olygfa " yn Beth- ania," yn agor gyda chan (contralto) a chydgan, "Nac wylwch am y marw." Ar ol ymddiddan (unodau soprano a bas) rhwug Iesu a Martha, daw cydgan felodus a hyfryd, " Wele, fel yr oedd yn ei garu." Ar ol hyn, yn dilyn alaw bas, ceir cydgan ardderchog. yn yr arddull ffoalaidd, " The grave cannot praise thee." Yr olygfa nesaf, " Y ffordd i Jerusalem," y w y rhan bwysicaf a mwyaf effeithiol yn yr holl waith. Ceir yn ngweithiad hon allan allu llawer iawn uwch na'r cy- ffredin. Ar ol ychydig o ymddiddan, y mae cydgan y plant, "Hosanna i Fab Dafydd," yn ymdori arnom, gyda chyfeiliant hynod o siriol. Gweithir hon yn llawn ac yn ffoalaidd bob yn ail; ac ar ol darnau bychain o unodau, a chydgan i leisiau gwrrywaidd, Bendigedig fyddo'r deyrnas," ac unawd bas fer drachefn, cymerir i fyny destyn yr "Hosanna" drachefn, a chanfyddir gallu anarferol yn y modd y gweithir hwn gyda thestyn " Bendigedig fyddo'r deyrnas," ac yr adeiiadir un o'r cydganau mwyaf ardderchog mewn cerddoriaeth ddi- weddar. Dechreuir yr ail ran gydag overture yn B leiaf. Ceir yn nesaf alaw ddisgrifiadol, "Pan ddelo Mab y Dyn." Dilynir hon gydag amryw o unodau ym- ddiddanol, y rhai a arweiniant i gydgau ddwys llawn o deimlad gan fenywaid, "Daeth yr awr." Yn nes yn mlaenj ceir pedrawd o'r fath fwyaf hyfrýd a defosiynol, " Ie, pe rhodiwn," yr hon a ganwyd yn effeithiol; ac ar ol hyny cydgan ragorol yn E leddf, yr hon sydd yn ter- fynu yr olygfa hon. . Gwelir fod y cyfansoddwr yn ym- gadw rhag sathru y tir a gymerwyd gan Handel mewn un ddosran o'r Messiah, gan Bach yn ei Passion-music, a chan Beethoven yn ei Fynydd yr Olewydd. Mae yn myned heibio y Dioddefaint heb wneyd nemawr yn ychwaneg naJi awgrymu. Terfyna gyda golygfa " Glan y Bedd." Mae yr alaw " Yr Arglwydd a gyfododd " ya