Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR CYMREIG. <%Ii%nMm JRiurl at traaattarih %ẅriaŵ jm mpjg j (Ejmrj. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol, y Genedl. Ehif. 7. MEDI 13 1861. Pris Ig.—gyddrpost, 3ö ©nnntonsíao". CEftDDORIAETH YN Y BHIFYN HWN", Anthem — "MOLWCH YR ARGLWYDD," gan Gwilym Gweìît. (I'to gorphen yn y nesaf.J Tu dal. Mvnegiant Cerddorol (Musical IExpressionJ ... ... 49 Cyfundrefn y " Tonio Sol-Fa " ............ 50 Llythyrau Arthur Llwyd.................. 51 Llythyr Gohebydd Llundain............... 53 Cronicl Cerddorol ..................... 53 Amrywiaeth ..........„............. 55 Hysbysiadau ........................ 56 afjpnegíant Certtòorol. (Musical Erpression.J Odid nad dyma yr adeg ddisgleiriaf a welwyd ar Gymru, gyda golwg ar ei cherddoriaeth. Nid oes cwm, nant,llan, na phentref, nad oesynddynt ryw golofn yn dwyn tystiolaeth i'r gwirionedd uchod. Ddeg-ar-hugain, neu ddeugain mlynedd yn ol, gallesid cerdded y rhan fwyaf o'r dywys- ogaeth cyn cyfarfod ag" un a fuasai yn alíuog i ddarllen y gerddoriaeth fwyaf syml, ar yr olwg gyntaf; oDd gellir cyfarfod yn awr, ym mhob cyfeiriad, ddigonedd yn alluog i ddarlíen cerdd- oriaeth o bob desgrifiad; ië, yn ddigon galluog i ymgymmeryd â gorchestion prif gerddorion y byd. Pa sawl gwaith y clywsom am rai o brif Oratorios Handel, &c, yn cael eu cyflawni yn an- rhydeddus gan fechgyn Cymru Ÿ Dichon fod rhai o'n darllenwyr yn cofi'o yr hanesyn hwnw am Handel, pan ar ei daith tuag Iwerddon gyda threithgan odidog y Messiah, iddo ymholi yn JNghaerlleon am un a allai ddarllen cerddoriaeth wrth olwg. Ar ol dwyu ato ddyn a broffesai ei íod yn alluog i wneyd hyny, ac iddo fethu, gofynodd Handel iddo yn lìed ddigofus, paham yr oedd yn proffesu yr hyn ni allai ei wneyd ? a'i ateb yntau oedd, Ei fod yn alluog i ddarllen cerddoiiaeth wrth olwg, ond nid ar yr olwg gyntaf Ond pa nifer o fechgyn Cymru a allant wneyd hyny yn awr ? Ac md yn unig darllen, omd yw'r Cymry yn gyfansoddwyr cerddoriaeth or dosbarth blaenaf? Yr ydys yn tybio na «hamgymmerwn pe dywedwn, fod mwy o enwog- ion cerddorol yn Nghymru, yn ol rhif y boblog- aeth, nag sydd yn Lloegr yn ol rhif y boblogaeth. Ond y mae gyda ni yn Nghymru, íel mewn gwledydd ereill, ddosbarth o gerddorion ag sydd yn llwyr ddibrisio iawn d<?ybenion cerddoriaeth. A chyda golwg ar hynyna yr ydys yn bwriadu ysgriíenu ychydig o lythyrau ar fynegiant mewn cerddoriaeth, h.y., yr iawn drefn o iawn ystyried ansawdd a dyben cerddoriaeth. Dywedir, gyda gradd ehelaeth o gywirdeb, fod gallu 'r dychymyg yn dal y lle canol, rhwng peirianau y synhwyrau corfforol, a galluoedd y eyneddfau meddyliol. Y gwrthddrychau ar ba rai y gweithredant ydynt yn perthyn yr un modd i'r synwyr o iceled a chlywed, swyddogaeth y rhai yn unig yw caníyddiad. Feìly, mae pob hyírydwch neu bleser a ddeillia drwyddynt yn gyfeiriedig i'r dychymyg. Y cel- fyddydau sydd yn gweini mwyaf o hyfrydwch i'r gallu dychymygol yrdynt Barddoìiiaeth, Arhw~ iaeth, a Cherddoriaeth.. Y ddau flaenaf a ar- ddengys i'r meddwl, drwy eu cyfryngau priodol, ddelweddau o'r hyn a ellir ei ddirnad yn ngweith- redoedd natur. Ỳr olaf a weithreda ar y meddwl drwy gyfrwng a grym cynghanedd, yr hon sydd yn deilíiaw o gyfuniant gwahanol seiniau, ac a gynyrcha yn y meddwi y drychfeddyliau hyny sy 'n cyfatteb i'r teimladau mwyaf tyner a hyfrydlawn. Y mae pob un o'r celfyddydau uchod, i raddau mwy neu lai, yn cynorthwyo y naill y llall, yn enwedig, y rhai sydd yn gosod y gwrthddrych megis o flaen ein llygaid. Er engraifft, mewn barddoniaeth, wrth gydmaru j disgrifiad â'r hyn a ddisgrifir,—mewn arliwiaetít y tirluniad a'r hyn a lunir ganddo, neu 'r darìun a'r person agynrychiolir,—mewn cerddoriaeth, yn efelychu ceinciau y côr asgellog, goslefau ac an- wydau y llais dynol, megis wylo, cbwerthin, ac ereill o'r teimladau a ellir eu hefelyohu â seiniau cerddoriaeth. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd uchod, gwelir yn amlwg fod yr hyfrydwch, a ddisgrifiwyd o ddwy natur wahanol: un yn gyn- henid, neu hanfodol, a'r llall yn berthynasoL Am y naill, nis gellir rhoddi un cyfrif amgen na'i bod o ewyllys Duw, yr Hwn, yn ffurfiad cyfun- drefn beirianoly corft'dynol, aosododd berthynaa anghanfyddadwy rhwng dyn a'i weithredoedd. Yr unig gyfrifiad a ellir ei roddi am y llall, yw y cariadhwnw sydd blanedig yny meddwl dynol at y gwirionedd o bobpeth. I fod yn fwy deall-