Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

d^Irhjgraum Jftisûl at nrasanaeth CwMoríaŵ gm mgaj g %mrg. Gyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac U'ndebau Cerddorol, y Genedl. Ehif. 11. IONAWR 1, 1862. Pris 2g.—gydarpost, Sc. CijnntDüstaíf. CEEDDOEIAETH TX T IiniFTÎÍ HWÎT, Can.—"TELYNAU MWYN CYMRU," ganGwrcTM GWEKT. Y Geiriau gan Ttdpilyît. Emtn Fobeüol.—" AK DORI MAE Y BWFN DDYSTAWRWYDD," gan Mexdelssohn. Tu dal. Caniadaeth Grefyddol .................. 81 Cynghanedd (Èarmony) ............... 82 Cyfundrefhy " Toriic Sol-Fa " ............ 84 Cyfansoddiadau Eisteddlod Aberdâr ...... 85 Bwrdd y Golygydd..................... 86 Amrywiaeth .;............. ... ...... „ Cronicl Cerddorol .................. „ Hysbysiadau ... •..................... 88 Caníaîiacíö ŵcfptJöoL Yîí misGrorphenaf diweddaf, gwahoddwyd ni i roddi taith trwy Arfon, i weled agwedd Cerddor- iaeth *Grefyddol, a gweithrediadau yr Undeb Cauu Cynulleidfaol a sefydlwyd 'yn ddiweddar yn y rhan hono o'r wlad. Yn y mis diweddaf, drachefn, aethom trwy y rhan ddwyreiniol o Feirionydd, ar neges gyffelyb. Yn y daith gyntaf, ymwelsom ag ardaloedd Llanberis, Din- orwig, Llanddeiniolen, Bethesda, Bangor,..Felm- heli, Caernarfon,Beddgelert, Bhostryfan,Talsarn, Penygroes, Clynnog Fawr, ynghyd a'rgwahauol îeoedd rhyngddynfc. Yn yr ail daith ymwelsom â Ffestiniog, y Bala, a'r ardaloedd cymydog- aethol, Llanuwchlyn, Corwen, Cerrig-y-druidion, Llandrillo, a Llangollen. Cawsom " Gymanfa- oedd Canu " yn y daith gyntaf yn Macpela, (Llanddeiniolen) a Phenygroes; ac yn yr ail, yn y Bala, Corwen, a Cherrig-y-druidion., Ac erbyu hyn, yr ydym yn teimlo fod gair yn ddy- îedus oddiwrthym mewn modd arbenig ar y pwnc. Yn y lle cyntaf, cawsom ein lloni yn ddirfawr wrth weled y í'ath ddyddordeb yn cael ei gy- nieryd yn y gwaith. Yr oedd y cynulliadau yn dra lluosog yn y Ueoedd hyn oll; ac yn y prif leoedd, yn gyfryw ag yr oedd yr addoldai yn Ilawer iawn rhy fychain i gynwys y cynulleidìa- oedd 'yii gysurus. Y mae y rl'aith hon yn un bwysig, ac yn llefaru yn dra gobeithiol. Nid ^chydig o beth ydyw gweled cannoedd o ddyn- ion ieuainc yn ymgynull i ganu yr hen Emynau Cymreig ardderchog a ysgydwent ein gwlad yn amser ein tadau, ar Donau symìion o'r fath ag a gynhyrfent enaid Luther, a wefreiddient holl galon Milton, ac a enynent ysbrydoedd goreuon y tìdaear yn fflam o fawl. Nid ydym yn credu y gall un genedl arallar wyneb y ddaear ddangos cyfarfodydd cyífelyb, nac y byddai yn bosibl eu sefydlu mewn un wlad, ar y pryd presenol, ond gwlad y Cymry. Ac nis gall cyfarfodydd o'r fath hyn lai na gadael argraffiadau dwys yn uniongyrchol, heblaw y diwygiad anrhaethol a ddygir yn mlaen trwyddynt, o angenrheidrwydd, yn nghaniadaeth greíÿddol y cysegr. Peth arall a barodd lawer iawn o hyfrydwch i ni ydoedd, yr hunan-ymwadiad, a'r ymdrech di- íiino ac amyneddgar, gyda pha rai y mae prif gerddorion'yr ardaloedd crybwylledig yn llafurio | gýda 'r gwaith hwn, a hyny heb na thal na | gwobr mewn ffurf arianol. Ẁrth wrando y canu I soniarus, astud, meddylgar, teimladwy,a gawsom j yn y gwahanol leoedd, nis gallem lai na meddwl .yn 'fynych am y drafferth, yr amynedd, yr hyn- awsedd, yr hir ymaros, a'r pryder a gostiodd i rywrai er cael hyn oddiamgylch. Cyfarfod mawr a chynhyrfus—amryw ganoedd yn canu— yn canu rai prydiau nes gwelid y dagrau yn ìleithio y llygaid, os nad yn gwneud eu ffordd dros y gruddiau—brydiau ereill nes dirgrynu llinynau y galon a gorlanw y fron, fel yr oedd lleisio yn gryf a chroew yn annichonadwy— brydiau ereill nes oedd iasau trydanawl yn rhed- eg trwy yr holl gyfansoddiad—brydiau ereill nes byddai y galon yn ymddyrchafu ac yn gadael bröydd y cymylau, ac yn ymfwynhau yn yr an- weledig, y dwyfol, a'r tragwyddol;—cyfarfodydd o'r fath hyn, meddwn, nid ydynt i'w cael ond fel ffrwyth a gwobr llawer iawn o lafur corph, enaid, a chalon. Ac y mae y dosbarth ymroddgar hwn yn haeddianol o lawer o barch, cydymdeimlad, a chefnogaeth. Dylem grybwyll hefyd y cysur a gawsom wrth weled y rhan a gymerid yn y gwaith, a'r gefnog- aeth a roddid iddo, gan ein harweiuyddiou cref- yddol, ac yn enwedig y dosbarthiadau oedranus o honynt. Yn awr, y mae genym ychydig bethau ì'w crybwyll fel cyfarwyddiadau, gocheliadau, ac an-