Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR CYMREIG. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y Genedl. Rhie. 15. MAI 1, 1862. Pris 2g.~gydár post, 3c. ©nnnírwstalr. CEKDDOEIAETH TK T BHIPYN HWX, Can Bedair Ehan.—CWYMP LLEWELYN: Ben Álaw Gymreig, " Y Bkytho:n~." Y geiriau a'r Cynghaneddiad gan y Golygydd. Alaw a Chydgan.— Y DDERWEN, gan D. Lewis, Llanrhystyd. Ttx DAL. Caniadaeth Grefyddol .................. 113 Myneg.ant Cerddorol .................. 114 Bwrdd y Golypydd .................. 115 Cyfundrefn y Tonic Sol-Fa ............... 116 Cronicl Cerddorol ................., 118 Hysbysiadau ........................ 120 Caníaîsaetí) ŵcftötJûL Au ol nodi rhai o'r cymbwysderau angheurheid- iol mewn arweinyddiou canu cynulleidfaol, yr ydym yn awr yn myned i sylwi ar rai o'u dyled- swyddau. 1.—Dylai yr arweinydd ofalu, hyd y bydd yn ddichonadwy, i íod yn y cyfarfod mewn pryd. fel na byddo y gwasauaeth yn cael ei ddiflasu yn Y dechreu trwy ganu swael a difvwvd. Grwelì ydyw bod yn yr addoldy bum' niunyd o flaen yr ainser penodedig i ddechreuy cyfarfod na phum' munyd ar ei ol. 2.—Edrych allan am dôn a fyddo o ran b\d yn cyfateb i'r mesur. Digon o orchwyl i lawer o'r hen dadau a'r hen famau gyut íyddai cael tôn ar y mesur; ac yr oedd h.yny, lawer pryd, yn fwy nag a allent ei gyflawni. Ac nid ychydig o ddyfeisgarwch a arferid gan ambell un 0 honynt i ddwyn y dôn a'r pennill i ateb eu gilydd o rau hyd. Òs byddai y dôn yn rhy hir, gadewid allan rai o'r seiuiau, neu ynte rhwymid amryw o honynt wrth eu gilydd ar yr un sill; ond os rhy fyr a fyddai, o'r uchr arall, gosodent ychydig seiniau i 'fewn gyda'r rhwyddineb inwy- af- Jìrydiau ereitl, rhoddid darn o uu dôn at ddarn o un arall yn y modd mwyaf doniol. Clyw- som yr un dôn yn cael ei chauu ar bump o wa- hanol fesurau; ac nid anfynych y clywsom y dechreuwr yn trawsgyweirio—yn hytrach yn to&wS'doneiddio—trwy dair neu 'bedair o wahan- 01 donau o ddechreu pennill i'w ddiwedd, Hawdd fyddai ysgrifenu traethawd maith a Ued ddifyr ar drwstaneiddiwch, ynghyd a pharodrwydd meddwl, yr hen bobl yn y mater hwn. On'd y mae yr helbulon hyny wedi eu rhestru bellach yn mysg y pethau a fu; ac nid oes arnom aw- ydd am eu gweled yn dychwelyd. Ar yr un pryd, y mae genym 'barch dwfn'a gwirioneddol ì'n henafiaid; oblegid os carpiog ac afluniaidd oedd y corph, yr oedd yn eu caniadaeth, lawer pryd, yspryd tra rhagorol; ac y mae eisiau mwy o 'hyny yn ein caniadaeth grefyddol y dyddiau hyn. 3.—Dethol tôn a fyddo yn gydweddol â nod- wedd y farddoniaeth. T mae eisiau sylw neill- duol ein cerddorion crefyddol at y pwnc hwn. Er cael tonau da, dylid ystyried mai nid pob tôn dda, er ei bod ar y mesur, a wna y tro ar bob math o eiriau. Nid oes eto fls o amser er pan iglywsom yr hen dôu gref, ardderchog, " Edin- burgh," (Llyfr Tonau Cynulleidfaol, "Rhif. 16é) yn cael ei chanu ar y geiriau pwysig a difrifol—- "Cofia, f enaid, cyn it' dreulio, &e." Y Sabbath olaf oll ni a glywsom y dôn dyner, hiraethus, " Bangor," yn cael ei chanu ar y geiriau cysurus— " Yr Iawn a dalwyd ar y groes, &c." Engraifft arall a'n tarawodd yn hynod o chwith- ig oedd y dôn dyner, flrain, " Boston," (Llyfr Tonau Cynulleidfaol, Ehif. 25) gyda boll nerth y llais, ar y geiriau— " Mae rhyw ddirgelwch llawer mwy, &c." Pryd na oddef y dôn hono ond ei chanu yn y duìl mwyaf tyuer a thawel ag sydd yn ddichon- adwy. Goreu oll pa leiaf o sŵn a wneir wrth ei chanu, pe na byddai ond sibrwd, ond iddo fod yn glywadwy. 4.—Gofalu am ddechreu y dôn mewn cyweir- nod ac arddull priodol. Mynych y clywsom hen donau da yn cael eu dinystrio trwy ea dechreu dôu, neu ddwy, ac weithiau dair ton, yn rhy uchel. Yn ddiweddar iawn ni a glywsom yr hen dôn anwyl ac ardderchog " Bethel," (Llyfr Ton- au Cynuìleidfaol,*Rhif. 216) yn cael ei lloíruddio yn y modd hwn. Yn lle G, yr hon sydd lawn 'ddigon uchel, os nad yn rhy uchel i rai cynull- eidfaoedd, dechreuwyd hi yn B, ddwy don gyf- lawn yn uwch nag y gellid ei chanu. Teimlodd