Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

70 HANESION. synwyrol gan bob dytl sydd yn gofalu ain ei wlad, gwnawn yuichwilîad yn y lle cyntaf, a ydyw yr arian a dreulir eisioes yu cael eu defnyddio yn iawn? Ymof- ynwn a ydyw ein harfau dinystriol yn cael eu gwneyd yn y niodd goreu; a allai ein llongau forio neu beidio: gofal- wn na chai ein llongnu a adeiledir eu tori yn eu haner, i'r dyben i w hwyhau fel y gwneir, <\c attaliwn gyfnewidiadau ereill ynddynt sydd yn un mor wrthun. Gofalwn i'r llongau a wneir i gael eu hadeiiíidu yn y fath fodd, ac yr atebant y dyben mewn golwg, fel na chymerai y treulion anferth yr eir iddo wrth eu cyf- newid le yn barhaus." Ond rhaid terfyuu,gwnawn hyny trwy gyfeiri> at sylw a wnaed gan Mr. Cobden, yn un o'i areithiau, sef nad ydyw y llyw- odraeth yn ofni ymosodiad oddiwrth Ffrainc, onide gweithredent yn debyg fel y mae Bright yn darlunio, a chyrchent adref ein llongau rhyfel sydd yn awr yn Malta, yn lle gadael y rhan oreu o'r llynges i fwynhau eu hunain ddeuddeg cant o filltiroedd oddicartref; ac mai amcan yr oll a ddywedir yw, rhoi eyfle i wastraff llywodraethol, a lleoedd da i aelodau ieuengaf teuluoedd yr Aristo- cracy i boceda arian y wlad. Priodas yr Ymerawdwr. Cymerodd hyn le y Sadwrn a'r Sul di- weddaf yn lonawr. Gweinyddwyd y rhan wladyddol yn un o haîasau breiniol Paris gan y swyddogion gwlddol ddydd Sadwrn, a'r rhan grefyddol yn yr eglwys Notre Dame gnn archesgob Paris ddydd Sul. Ei wraig sydd foneddiges o Yspaen o'r enw Montigo, neu Countess Teba. Y mae o waed Gwyddelig o du ei mham. Merch oedd i un Mr. Kirkpatrick, yr hwn fu Alfaer (Consul) ainser yn ol yn Mal- aga Ei thad oedd fab ieuengaf i bendef- ig o Yspaen. Cyn y gallai briodi yr oedd yn rhaid gwneuthur ymchwiliad i achau Miss Kirkpatrick, a chafwyd fod ei hyn- afiad wedi eu hurddasu gan Alecsanderü, brenin Yscotland. Mewncanlyniadcan- iatâodd brenin Yspaen y briodas. Merch i'r ddau hyn yw yr Ymerodres. Bu hi a'i chwiorydd amser yn ol mewn ysgol ger llaw Bristol, a rhoddir y darluniad ìnwyaf cymeradwyol o honi o ran ei pher- son a thymher ei meddwl. Y SENEDD. Cyfarfyddodd yr aelodau yn nghyd nos lau, Chwefror lOfed. Hysbyaodd Ar- glwydd J.Russell, Dy y Cyffredin, am fes- urau a fwriadau y gweinyddwyr eu dwyn ger bron y ty; o ba rai y caulynol yw y rliai mwyaf eu pwys. Mesurau i wlad- eiddio y meddiannau ofteiriadol (Clergy Iieserves) yn Canada; mesur i ddifodi an- alluedd (disubilaties) yr Iuddewon; di- wygiadau yn y prif ysgolion (unwersi- ties,) ac addysg Lloegra Scotland: new- idiad aUtudiaeth i'r trefedi:.raethau am gosbedi-íaeth ereiU gwelled'g; a rhyw fes- urau perthynol i achosion ariauol, cyf- reithiol, ac etholawl. Nid yw y mesur diwygiadol seneddol i ddyfod ymîaen hyd yr eisteddiad nesaf. Ni wuaed fawr ond parotoadau wedi hyny hyd nos Fawrth canlynol, pryd y dygodd Mr. F. Peel y mesur i adael i 'r meddianau offeiriadol yn Canada i gael ei benderfynu gan Senedd gartrefol y lle fel y barnentoreu, a chawd cenad i'w ddwyn a'i ddarilen yn y ty. Nid oes genym fawr i'w nodi am weith- rediadau ty yr Arglwyddi, ond fod Iarll Derby, yr hen brif weinidog yn pender- fynu rhoi pob rhwystr a all yn erbyn larll Aberdeen. Ond ei ddirmygu â dis- tawrwydd y mae yn cael am ei drafterth. jBartoijoffa. Tachwedd y 26'ain, 1852, bu farw.Elisa- beth Thomas, gweddw y diweddar Row- land Thomas, Stone Cutter, Caerynarfon, yn 63 ml. oed. Gadawodd ein hanwyl chwaer chwech o blant i alaru o'i cholli ; oud cyn eu gadael, cafodd yr hyfrydwch o'u gweled oll wedi cael y fraint o gofio eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuengtyd, oddieithr dau. Hyderwn y bydd i'w gweddiau taerion ar ran y dd.iu hyny i gael eu hateb, pan y byddo hi yn pydra yn y dyffryn. Yr oedd Elisabeth Thomas yn ferch i gefnder yr enwog a'r doniol John Williams, New York, America, ac yn fam i John Thomas, dyr. ieuanc go- beithiol, yr hwn sydd wedi dechreu arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn ein plith. E. T. Rhuthyn, Rhagfyr 18fed, 1852, bu fcirw Mr. Evan Owen (Allen), yn 47 mlwydd oed; dydd lau canlynol, rhodd- wyd ei weddillion marwol i orphwys yn mynwent addoldy y Bedyddwyr. Gwein- yddodd Mr. H. Jones ar yr achlysur. Gwron a roed mewn gweryd—i huno, Am liyny mae tristyd ; Cofìwn daw dydd y cyfyd, Atien o'i fedd i ail fyd. Ped» Evasí. Yn Nhremynydd, ger Tyddewi, Dyfed, Ionawr 4ydd, yn 17 mlwydd a 6 mis oed, y bu farw y chwaer ieuanc, Miss Allet Perkins, wyres H. Bowen Yswain, o'r lle uchod; gan adael rhioni a lliaws a ber- thynasau, (yn nghyda'i thaid, yr hwn a'i magodd,) a chylch lliosog o gyfeillion mewn byd ac eglwys i alaru ar ei hol. Dydd Sadwrn canlynol i'w marwolaeth,