Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. MEHEFIN, 1854. TRAETHAWD AR GYMERIAD YR-APOSTOL PAUL. <8an 3. iSbane. fLIanfylItn. Ganwyd ef oddeutu dwy flynedd ar ol genedigaeth ein Hiachawdwr, yn Tar- sus, dinas enwog yn Cilicia, yr hon a wnaethai Augustus yn ddinas freiniol, o herwydd ei ffyddlondeb i deulu Cesar, yn amser gwrthryfel Cassias. Vr oedd ŷn hanu o genedl Israel, yn Hebrewr o'r Hebreaid, o lwyth Beniamin, heb un Proselyt yn perthyn i'w achau. Saul y gelwid ef hyd nes y dychwelwyd Ser- gues Paulus at y grefydd Gristionogol; Wedi hyny, nidoes genytn son am dano dan yr enw Saul, ond bob amser Paul, yr hyn sydd yn peri i ni feddwl fod y gwr anrhydeddus hwnw wedi ei anrhyd- eddu á'i gyfenw ei httn; neu efallai mai Saul oedd ei enw fel Iuddew, a Phaul fel Rhufeinwr yn meddu ar ddinasfraint Rhufain. Yr oedd yr Iuddewon yn neillduol o ofaltts i ddwyn eu plant i fyny mewn rhyw gelfyddyd, o herwydd ystyrient fod peidio dysgu celfyddyd iddyntyn ddim amgen na'u dysgu i lad- fata. Ni bu rhieni yr apostol Paul yn fyr o amlygu eu gofal am dano yn y peth hyn; canys addysgwyd ef gan- ddynt yn y gelfyddyd o wneuthur peb- yll. Heblaw hyn, mae yn debyg iddynt ei hyfforddi yn holl ddysgeidiaeth y Groegiaid, a'i anfon i Ierusalem, lle caf- odd ei ddwyn i fyny wrth draed Gamal- iel, Doctor enwog yn y gyfraith. O ran ei grefydd, yr oedd yn bleidiwr gwresog i'r Phariseaid, ac yn dwyn sel dros Dduw ei dadau. Y sel ddallbleidiol hon a'i gyrodd i fod mor erledigaethus tuag at y Cristionogion. Yr oedd yn cyduno ac yn cadw diliad y rhai a ferthyrent Ste- phan. Wedi merthyrdod Stephan, cyf- ododd erlid mawr ar y Cristionogion yri lerusalem, ac yn mhlith yr erlidwyr yr oedd Paul yn un o'r rhai mwyaf crèulon a melldigedig; nid oedd yn ddigon gan- ddo ef eu herlid yn Ierusalem, eithr Îmlidiodd hwynt hyd ddinasoedd ereill % efyd, gafi eu dal, eu cosbi, a'u cymhell ì gablu Dnw a chyfryw oedd ei awydd ŵ'i ddymuniad i faeddu a dinystrio yr eglwysydd, fel y deisyfodd lythyrau gan yr Archoffeiriaid i fyned i Damascus i ddal a rhwymo y Cristionogion a aethant yno i lechu rhag yr erlid, a'u dwyn yn rhwym i Ierusalem i'w cosbi; a thra yn ymdaith ar y neges hon O.C.65,, yn agos ì Damascus, yn ddisymwth llewyrchodd goleuni o'r nef o'i arngylch, ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd, " Saul, Saul, Paham yr wyt ti yn fy erlid i?*' Ynteu a atebodd, " Pwy wyt ti, Arglwydd?" Dywedodd y Uai* dracbefn, " Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid : caled y w i ti wingo jrn er- byn y synibylau." Yntau mewn dychryn a ddywedodd, " Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur?" Dywedwyd wr- tho " Am fyned i'r ddinas, lle y dywedid wrtho pa beth oedd raid iddo ei wneuth- ur." " Wedi iddo gyfodi oddiar y ddaear, ac agoryd ei lygaid, nis gallai weled neb: ac felly, tywyswyd ef erbyn ei law i Damascus; a bu yno dridiau heb weled, bwyta, nac yfed." Ymddangosodd yr Arglwydd mewn gweledigaeth i ryw ddysgybl yn Damascus, a'i enw At-.anias, yn peri iddo f'yned i'r heol a elwid Un- iawn, ac i geisio Saul'yn nhý ludas; ac wedi iddo fyned yno, a dodi ei ddwylaw arno, syrthiodd oddiwrth ei lyg.iid ef megys cen, ac efe a gaí'odd ei olwg fel o'r blaen, ac wedi hyny efe afedi/diiiwyd. Ar yr un amser hefyd y cynnysgaethwyd ef â'r swydd oruchel o fod yn apostol. Wedi i ni fras-grybwyll ei haces fel yna, fel i rwyddhau ein fíbrdd, ni a ddy wedwn ychydig am ei gymeriad tra yn apostoî; o hefwydd tybiwn nas gellir estyn y tes- tyn rhoddedig ddiin yn ëangach na hyny. Cymeriad yw y nodweddiad perthynol i unrhyw wrthddrych. Gelwir ef weith- iau yn " air." Geilw y Beibl ef yn " air." (loan iii. 12.) "Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Mae pob creadur rhesymol yn feddiannol ar gymeriad, beth bynag am greaduriaid ereill. Nid priodol dweyd am neb eu bod yn ddyn neu ddynes digym- eriad, canys mae pawb yn feddiánnol ar gymeriad, ond nid yr unrhyw gymer- iad—mae y naill yn ddrwg a'r Ilall yn dda. Yn nhatur a graddau y peth y mae yr holl wahaniaeth. Peth gwerthfawr lawn ydywbodyn feddiannol ar gymer- 16