Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEAL. MAWRTH, 1857. CARTREF AC YSGOLDY_BECHGYN Y CENADON. " Pwy bynag a dderbynio y bachgenyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i."—Iesu Grist. Nid oes odid i Gymro, efallai, yn gwy- bod am y sefydliad rhagorol yma, ac o neiwydd hyny nid yw erioed wedi cael y pleser o dderbyn un o'r bechgjyn yn enw Iesu, drwy fwrw ei geiniog ì'r dry- sorfa. Dyma ddarlun o'r adeilad ag s}'dd yn awr ar waith, sylfaen yr hwn a osodwyd gan Iarll Shaftesbury, Tach- wedd 27ain, 1856. Byddai yn dra dydd- H_Pl *'r Cymry gael meddiant o ryw PJ|feysrwydd am ddechreuad y sefydl- 'wl yma, yr hwn sydd, nid yn unig yn ysgol dda i'r plant, Ile y derbyniant aadysg bur a gwasanaethgar, ond yn gartref iddynt hefyd. Y plant hyny nad oes ganddynt yn y wtad hon yr unrhyw gyfaill i'w derbyn, ac i ofalu am danynt yn ystod y gwyliau, a gâ_nt aros yn ddidraul yn y tŷ, a gwneir eu gwyl- ìau mor gyssurus iddynt ag y byddo amgylchiadau yn caniatâu; mewn gair, y mae y lle, dros yr amser ag y byddont ynddo, yn gartrrf mewn gwirionedd iddynt. Dechreuwyd y sefydliad yn 1842, a chyfarfu â llawer o rwystrau am y deng mlynedd cyntaf, ond cyrhaeddodd i'w sefydlogrwydd presennol er's pedair