Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GBEAL MEHEFIN, 1857. GEMAU DUWINYDDOL.-YR .YSGRYTHYRAÜ. LLYTHYR III. 1. Y mae y Beibl yn mynegu i ni yr hyn oll a wyddom am Dduw fel Tad, Mab, ac Ysbryd ülân : yr hyn a wyddom am y nef fel lle olawenydd, ac am uffern fel líe o boenau. Y cyfryw yw hysbys- rwydd y Beibl. 2. Y Beibl yw yr unig lyfr sydd yn dweyd am y dechreu a'r diwedd—yr uniglyfr sydd yn ein hysbysu ni am ein creadigaeth a'n prynedigaeth. Nid oes un llyfr arall yn air Duw. Y cyfryw yw awdurdod y Beibl. 3. Y mae y Beibl yn cynhyrfn ynom gáredigrwydd, sêl, santeiddrwydd, a dedwyddwch. Y mae yn amddiffyn pob peth sydd yn rhinweddol a da, ac yn collfarnu pob peth sydd yn bechadurus mewn meddwl, gair, a gweithred. Y cyfryw yw ysbryd y Beibl.—Old Hum- PHKEY. 4. Y mae y Beibl yn drysor mor ar- dderchog, fel y gall plentyn mewn un awr ddysgu mwy o wybodaeth am Dduw yn y ddalen gyntaf o'r llyfr santajẁt hwn, nag a ddysgodd holl athronwyry bydhebddo mewn'pedair mil o flynydd- au.—Thos. Scott. 5. Byddai mor resymol meddwl i blentyu pum' mlwydd oed fod yn awdwr teml Solomon, a meddwl i ddynion an- ysbrydoledig fod yn awdwyr y Beibl.— Dr. Spring. 6. Ymae gan Dduw ddau lyfr, y gre- adigaeth a'r Beìbl: yn y Beibl y mae yn traethu am danö ei hun, ac yn y llall y mae yn dangos ei hun. 7. Y Beibl, medd un awdwr yw Duw mewn argraff: yn y Beibl y mae Duw wedi ymddangos mewn iaith; fel y mae Crist wedi ymddangos mewn cnaiod. Fel y mae yr haul yn llawn o oleuni, felly y mae y Beibl yn llawn o Dduw. 8. Darfu i Dduw o'r dèchreuad roddi allan wybodaeth o'i ewyìlys ar lawer gwaith; hyny yw, yn amrywiol ranau a graddau : eto, yr oçdd pob oes a chyfnod yn cael digon o oleuni i'w cyfarwyddo J'n yr holl ufydd-dod a ofynid iddynt, ac 1 w hadeiladu yn hyny. Meddent ddi- gon o wybodaeth i'w galluogi i aberthu »newn ffydd,fel y gwnaeth Abel; i rodio gyda Duw, fel y gwr.aeth Enoch ; ac i cidysgu eu teuluoedd yn ofn yr Ar- glwydd,'fel y gwnaeth Abraham. Ni ddifethwyd y byd erioed o ddiffyg gwy- bodaeth ddigonol am Dduw.—Dr.Owen. 9. Y mae y ffaith ein bod wedi derbyn dadguddiad oddiwrth Dduw yn brawf anilwg nas gallem wybod pob peth sydd yn eisieu arnom heb ei gael. Pe buasem ni yn gallu gwneuthur hebddo, ymae yn ddiau na buasem yn ei gael. Y mae yn dyfod atom fel rhai anwybodus meẁn anghen arweinydd,acyn cynnygein har- wain yn ffordd y gwirionedd. 10. Gan mai yr Ysgrythyrau yw y moddion mawr i oleuo dynion a'u gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, y mae yn rhaid fod y rhai sydd yn cadw dynion yn ddyeithr iddynt, gan eu han- og o dan unrhyw esgus i beidio darllen y Beibl, yn defnyddio y moddion mwyaf effeithiol i gadw dynion yn nheyrnas y tywyllwch, ac yn meddiant Satan. Mor atgas yw ymddygiad eglwys Rhufain yn y mater hwn ! 11. Gellir dywedyd am lawer o bethau, " gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbl; " ond gellir dywedyd am y Beibí, "gwirionedd y gwirioneddau, gwirionedd yw y cwbl."—Arrowsmith. 12. Y mae y Beibl yn llythyr mawr wedi ei anfon o'r nef i'r ddaear; weäi ei gyfansoddi gan yr Ysbryd Glân ; wedi ei y'sgrifenu gan ddynion santaidd Duw; wedi ei selìo â gvraed yr Emmanuel; ac wedi ei yyfarwyddo at bechaduriaid y ddaear yn gyffredinol. 13. Astudiwch yr Ysgrythyrau sant- aidd, yn enwedig y Testament Newydd ; Duw yw ei awdwr; iachawdwriaeth yw ei ddyben ; a gwirionedd digymysg yw ei ddefnydd—Locke. 14. Gogoniant yr Ysgiythyrau ydyw „mai hwy yw ý moddion mawr, â'r unig foddion allanol, i ddangos gogoniant Crist i ni: gwneuthur dadguddiad goleù o Grist, fel gwrthddrych ffydd, cariad, ao ufydd-dod y saint, yw un o brifragor- iaethau y Testament Newydd.—Dr, Owen. 15. Fel nas gall yr athronydd ddim 16