Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

#N Y GEEAL. RHAGFŸr" 1857. 0,ẃ" •• EMMA WYNNE/'NEU Y WYRYF DWYLLEDIG. (PARHAD O TUDAL. 245.) Ryw bryd tua chanol yr haf, yr oedd Emma yn cael ei dysgwyl adrefiroddi tro, gan fod yr ysgol yn cael ei thori, a mawr oedd y parotoadau yn y Coed poeth gogyfer â'i dyfodiad. Bu yno lanhau a gwyngalchu, a threfnu am am- ryw ddyddiau, cyn y pryd yr oeddid yn ei dysgwyl, ac anfonwyd y gwas gyda cherbydan Mr. Lewis, y Fron, i'w chyf- arfod i G—. Yr oedd son am ei dyfodiad yn ngeneuau y rhan fwyaf ol chymmyd- ogion, a llawer yn ceisio dyfalu y gwa- haniaeth oedd blwyddyn o amser wedi ei wneyd arni. Daeth adref ar nos Wener, ac yr wyf yn cofio hyny yn dda, gan mai y noson hòno y bu farw Mr. Baxter, o'r Llys Hall. Aeth lliaws o'i hen gyfeillion i edrych am dani ddydd Sadwrn, a daeth gyda'i thad a'i mam i'r eglwys bore y Sul canlynol, ac i'r capel ucha' yn yr hwyr; ac yr wyf yn dra sicr ei bod wedi tynu mwy o sylw yn yr eglwys a'r capel nag a dynwyd gar. y person na'r pregethwr; canys chwi ddyl- ech gofio, syr, meddai Siôn Jones, pan y gwelodd fi yn gwenu, fod myned i Gaer y pryd hwnw ychydig yn fwy pwysig nag ydyw yn awr. Cawsom ei chwnini lii a'i mam i dê y prydnawn hwnw, ac yr oedd ei gwedd yn brydferth, ei gwisg yn drwsiadus, ei moes yn foneddigaidd, a'i holl ymddygiadau yn gyfryw ag a hawlient iddi le uchel yn meddyliau ei chyfeillion a'i chydnabod. Yn ystod yr ychydig amser y bu Emma gartref y pryd hwnw, yr oedd yn gwneyd cryn gynhwrf yn mysg llanciau a bechiryn ieuainc yr ardaloedd ; tybiodd y rhan fwyaf o honynt eu bod wedi syrthio mewn cariad â hi; dywedid fod James, mab y Wern, wedi hanner colli arno ei hun am dani; ac yr oedd mab y Llech- wedd du, yn fawr ei ymgais i sicrhau ei serch lle bynag y caffai gyfleusdra, ac yr wyf yn meddwl y gallwn enwi dwsin yn ychwaneg fuont yn rhoddi "cynnyg" arni. Ond yr oedd Mr. Wilüams, y Ficarage, wedi magu dyn ieuanc, mao fel y dywedid i chwaer iddo, enw yr hwn oedd Evan Price, acyroedd amryw o'r rhai cralfaf mewn dirgelion o'r fath yn haeru yn gadarn fod Price â'i lygad ar Emma Wynne, a sicrhaent yn mhell- ach nad oedd hithau yn hollol ddall i'r amryw ragoriaethau y dywedid ei fod yntau yn feddiannol arnynt. Nid wyf yn gwybod rhyw lawer am deimladau Evan Price a hithau tuag at eu gilydd; bnd yr wyf yn sicr fod un yn byw yn yr ardaí hon y pryd hwnw oedd wedi medd- wl y buasai Emma yn syrthio yn ysglyf- aeth rwydd i'w drachwant ffiaidd. Rhaid i chwi ddeall fod gwaith inŵn lled add- awol yn cael ei ddwyn yn mlaen y pryd hwnw tua dwy fiiltir uwchlaw y pentref hwn, mewn lle a elwir Cwmhugul; gallai fod yno rhwng pob math, tua chant o bobl yn gweithio, ac yr oedd arnynt is- oruchwyliwr o'r enw Alfred MacGregor, Albanwr o genedl, ond yr oedd ei rieni yn byw yn Nghymru er cyn geni Alfred, ac yr oedd ef yn cael ei ystyried yn ys- golhaig rhagorol, ac yn ddigon hylithr ar y Gymraeg. Dygwyddodd iddo fod yn yr eglwys y Sul cyntaf ar ol dyfodiad Emma Wynne adref, a chan y byddai arferol o ddal llawn cymmaint o sylw ar wynebau y gynnulleidfa, ag a fyddai ar yr hyn oedd yn cael ei ddarllen a'i dra- ddodi yn ei glywedigaeth, mae yn ym- ddangos i'w olygon ddisgyn yn lled fuan ar ruddiau hawddgar y dirionaf Emma; cadwynwyd ei fryd gan ei ffurf ddifai a phrydweddol. Gwnaeth Alfred ryw ymofynion yn ei chylch wrth ddyfod o'r llan, galwodd yma cyn myned adref, a chan fod Emma, fel y dywedais, yn dyfod yma i dê y Sul hwnw, ceisiodd Alfred genyf ei ìntroducio iddi, ac wedî cael ei chaniatâd hi, gwnaethum felly ; ac aeth gyda hi i'r capel ucha', ac i'w danfon adref y noson lîòno. Galwodd amryw weithiau yr wythnos ganlynol yn y Coed poeth, ac ymddengys fod y ìhieni a'r ferch yn dra chroesawgar iddo. Y dydd Iau canlynol, yr oedd ffair yn nhref D—, a phwy a welem tua chanol dydd yn myned drwy y pentref mewn cerbydan, ond Alfred MacGregor ac Emma Wynne. Nid oedd Alfred.,yn cael y g?iir goreu am barch i'r rhywog- aeth hawddgàr; yr wyf yn meddwl oddi- wrth siarad "a gíywais ganddo, ei fod ýa ei hystyried yn debyg i flodau; heddyw yn ymddangos yu hardd, ond yfory \n caeí eu taflu ymaith i wywo. D^ẅedid fod cryn " daro" ar Erama yn J^Öajr y diwrnod hwnw, a gwnaeth amrÿẃgsn- 34