Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEÁL. MEDI, 1865. y bedyddwyr: EU B0D0LAETH YN ANGHENRHEIDRWYDD PRESENNOL, YN ARGYHOEDDIAD CYDWYBODOL, YN GYNNRYCHIOLIAD AC YN AMDDIFFYNIAD O WIRIONEDDAU YSBRYDOL PWYSIG.* <fêan Mr. 3njru&. Dadaü a brodyr,— Yr ydwyf gyâa gradd o anfoddlonrwydd yn derbyn gwab.oädiad pwyllgor yr Undeb i lywyddu yn ngbyfarfodydd yr Undeb am y ílwyddyn. Y mae y swydd yn gyfryw ag y gall unrhyw ddyn ei thehnlo yn anrhydedd ei llenwi, ond dyga yr anrhydedd i'w ganlyn gyfrifoldeb pwysig. Ar ein hundeb y gorphwys llawer o'n defnyddioldeb fel corph, ae yr wyf yn dra phryderus ar fod yr un ysbryd ag a nodweddai gyfarfodydd Birmingham, yn parhau ac yn dyfnhau. Rhoddwch i mi eich eydymdeimlad, a chydunwch â mi yn y weddi am bresennoldeb neillduol ein Meistr; fel y byddo ein cyfarfodydd yn gymmeradwy ganddo ef, ac yn tueddbenu <er Ues ei eglwys—lles yr un pryd y gwirionedd a chariad. Yn mhlith pethau cyfrifol y swydd, nid y lleiaf yw dewis pwnc i'ch hannerch chwi oddi arno. Yn ddiweddar yr ydym wedi ein gosod fel enwad yn y sefyllfa ryfedd o orfod dibrisio (depreciate) yr ordinhad a'n gwahaniaetha oddiwrth ein brodyr. Er yn dal bedydd mor bwysig fel ag i dderbyn ein henw oddi wrtho, eto gaiwyd arnom i ddweyd nad ywyn "effeithiol i iachawdwriaeth," nac yn "anghenrheidiol" iddi, nac hyd y nod yn "gyfranol" neu'n "arweiniol." Gall fod y gofyniadau wedi codi mewn rhai meddyliau. Wel, beth ydyw ? a phaham y gwnaethoch chwi ef yn saü eich gwahaniad, yn arwydd eich proffes? Y gofyniad hwn, yn nghyda'r sylwadau a gyf- lwynwyd i'n sylw yn Hydref diweddaf,—sylwadau yn ysbryd pa rai y cydsyniwn yn galonog—a awgryma y pwnc y dymunwyf ei ddadlu. Y Bedyddwyr: eu bodolaeth yn anghenrheidrtcydd presennol, yn argyhoeddiad cydwyb- odol, bob amser yn gynnrychioliad ac yn amddiffyniad o wirioneddau ysbrydol pwysig. I. Y mae gwahaniad y Bedyddwyr oddiwrth yr holl ddosbarthiaäau mawrion a fodolant yn y byd Cristionogol yn anghenrheìdrteydd.- fe eu ceuir allan nid yn gymmaint gan eu dewisiad eu hunain, a chan ddahadau a bwriadau egluredig y partiau hyny eu hunain. Ein brodyr màbandaenellwyr Cynnulleidfaol, gyda y rhai yn y mwyafrif o bethau y mae genym y cydymdeimlad mwyaf, a ddiffynant fedydd babanod fel gweithred "trwy ba un y cyflwyna rhieni eu plant i Dduw." Dahant ei fod yn ddigonol "fod i'r dwfr gael ei gymhwyso drwy dywalltiad neu daenelliad at y person," ac nad ydyw yn anghenrheidiol "i'r person gael ei gymhwyso at y dwfr."f Bedydd gyda hwy felly yw cymhwysiad o ddwfr; ac yn ei berthynas â'r plentyn, golyga yn unig gyflwyniad o'r plentyn i Dduw gan ei rieni.J Yma, meddynt, y gwahaniaethant oddiwrth y Bedyddwyr, ac y bwriadant wahan- iaethu; ac y mae agos yr oll o weithredoedd eu capelau yn darparu fod jrr egwyddor- ion hyn i gael eu derbyn fel egwyddorion sefydlog yn yr eglwys, eu derbyn gan yr aelodau, a'u cymial gan y gweinidogion. Y Presbyterìaid a gauant allant y Bedyddwyr drwy eu dadganiad yn eu cyffes ffydd, fod bedydd un ai trochi, tywallt, neu daenellu,—y dylid ei weinyddu nid yn unig ar y rhai a broffesant ôỳdd yn Nghrist ac ufydd-dod iddo, ond hefyd i blant "un neu ddau riant crediniol."§ * Ystyriwn yt eglurder neillduol 8 rydd yraraeth hon i'n hegwyddorion gwahaniaethol, a'i chyfaddas- rwydd i gyflwr presenno) y pwnc mewn llaw yn ddigon o esgus dros ei dodi ger bron ein darllenwyr mewa diẁyg Gymreig.—Gol. t Egwyddorion gwahaniaethol Uywodraeth yr eglwys Gynnulleidfaoh X Dadganiad ffydd a threfn yr eglwysi Cynnulleidfaol. ÌCyflfes Westrainister, pen. xxviii. 3,4. ac l. 25