Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEAL. MAWRTH, 1866. BLAGUR MYFYEDOD. RHIF XXXI. " Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, ie, carcharorion y cadarn addygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â'th ymrysonydd, a rnyfi a achubaf dy feibion."—Esai. xlix. 25. ffiarr î? Parct). 23. ISíians, Hudles. Atebiad ydyw y testyn i ofyniad Seion. Cyfeiria yn llythyrenol at waredigaeth plant Israel o gaethiwed creulawn Babilon. Cymhwyswn ef yn bresennol at waredigaeth meibion dynion o afaelion Satan a phechod. Gwnawn bedwar o nodiadau. I. FoD PLANT DYNION WRTH NATURIAETH MEWN CAETHIWED. " Carch- arorion." Maent yn gaethion i Satan. Darlunir Satan fel tywysog, ei lywodraeth fel teyrnas, a'i ddeiliaid fel caethion. Cymmerodd drawsfeddiant o'r byd, daliodd ei breswylwyr yn ei fagl, a chedwir hwy ganddo "wrth ei ewyllys." Nid yw y byd ond neuadd helaeth yn meddiant y cryfarfog, Ue y ceidwvei garcharorion mewn heddwch. "Eithr os myfì trwy fys Duw," ebe'r Iesu, "ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammheu ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi." Gwna'r Iesu wrthgyferbynu y ddwy deyrnas â'u gilydd, sef teyrnas Satan a theyrnas Dduw ; a dywed yn benderfynol, os trwy fys Duw yr ydoedd efe yn bwrw allan gythreuliaid, yna fod teyrnas Dduw wedi dyfod yn lle teyrnas y diafol. Golygai hyn y ffaith mai teyrnas Satan oedd wedi bod yn mhlith dynion hyd yr amser hwnw. Maent yn gaethion i'w llygredd a'u hymarferiadau drwg. Eu chwantau pechadurus a'u hymarferiadau drwg a ffurfiant gadwyn o ddolenau grymus yn rhwymau pa un y cedwir hwynt mewn caethiwed. Yn yr ystyr hyn maent yn gaethion gwirfoddol, a thrwy hyny yn garcharorion cyfiawn o herwydd eu bod wedi rhoddi eu hunain i'w gormeswr, ac wedi clymu y llyffetheiriau â'u llaw eu hunain. Mae pob dyn a wna bechod yn was i bechod, neu yn briodol yn gaethwas i bechod. Hyn ydyw cyflwr moesol pawb o blant dynion wrth naturiaeth. II. Maent mewn caethiwed o'r fath waethaf. " Carcharorion y cadarn, anrhaith y creulawn." Maent o fewn gafaelion un cadain. Cadernid sydd air perthynasol, ac yn air a oblyga wendid. Mae un gwrthddrych yn gadarn mewn cymhariaeth i wrthddrych arall ag sydd yn wanach, ond yn wan mewn cymhariaeth i wrthddrych cryfach. Mae march yn gryf pan y cymharir ef â blaidd, ond yn wan pan y cymharir ef â llew. Mae dyn yn gadarn mewn cymhariaeth î oen, ond yn wan pan y cymharir ef âg angel. Ni wyddom beth ydyw nerth Satan mewn cyferbyniad i nerth bodau ereill na wyddom fawr am danynt mewn rhanau gwahanol o ymerodraeth Duw, ond gwyddom o'r goreu ei ^fod yn alluog, ac yn alluog iawn pan y cyferbynir ef â nerth ei garcharorion.