Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEAL. HYDREF, 1866. APEHAD AT GRISTIONOGION PRYDEINIG AR RAN CAPEL NEWYDD CENADOL YN HAMBURG. Agos i ugain mlynedd yn ol, ymwelais â'r wlad hon mewn trefn i gael cymhorth gan Gristíonogion Prydeinig i brynu lle addoli i'r eglwys dan fy ngofal. Y 600p. a gasglwyd ar y pryd yn Lloegr a Scotland, ni a'u cyflwynasom i dalu cyfrandaliad cyntaf y pryniad hwnw, yr hwn oedd yn cynnwys ystordy mawr, a chyfran o dir cyssylltíedig wrtho; ar yr hwn y gobeithiem y byddai i ni wed'yn gael ein galluogi i adeiladu capel sefydlog. Rhoddwyd y swm o 127p. ar y pryd gan eglwys Hamburg, a thalwyd y gweddill—tua 2,000p. er hyny, â thanysgrifiadau wythnosol yr aelodau a roddid yn rheolaidd drwy yr ugain mlynedd diweddaf, yn nghyda rhywfaint o gymhorth o'r America. Yr ystordy wedi ei gymhwyso i gynnal addoliad cyhoeddus, a agorwyd yn yr haf, 1847, ac a ddefnyddiwyd genym ni byth wedi hyny. Modd bynag, y mae y lle, yn ei agwedd bresennol, er's talm yn annigonol i ateb gofynion ein cynnulleidfaoedd sydd yn mawr gynnyddu; ac yn awr mae ein Harglwydd grasol wedi gwrando ein gweddiau, ac wedi coroni ein hymdrechion â'r dawn gogoneddus o gyflawn ryddid crefyddol, (wedi ei ganiatâu gan lais unedig y Senedd, ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1866,) fel yr ydym yn teimlo fod cymhelliad newydd, grymus, wedi codi i gario allan ein bwriad hir-ddysgwyliedig o adeiladu capel cyfleus a sylweddol ar y darn tír helaeth, cydiol â'r adeilad presennol. Mesur y capel newydd Cenadol oddi mewn fydd,—hyd, 96 troedfedd; Ued, 46 troed- fedd; ei uchder at grib y tô, 50 troedfedd. Cynnwysa eisteddle i 1,400 o bersonau, heb orielau (galleries) ar yr ochrau; a chynnwysa le i wneyd y cyfryw gydag ychwanegiad o 600 o eisteddleoedd. Ei ddullwedd (style) fydd y Gothic syml mewn priddfeini gwynion, oddi mewn ac oddi allan; heb blastr na lliw o un math, fel y 29