Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

226 BRASLUN. ydd; a Henry Gregory o'r Cwra, swydd Faeshyfaidd, yr hwn a ddyoddefodd ei ysbeilio yn llawen o'r hyn oll a feddai er rawyn ei grefydd, a buont feirw tua'r rlwyddyn 1700; Lewis Thomas o Aber- tawy, un arall a oroesodd yr ystorm, am yr hwn y dywedid ei fod " yn addfwyn i'el yr oen, yn Uafurus fel yr ỳch, ac yn eofn fel y llew," a orphenodd ei yrfa yn 1704; Griffith Howells o Rushacre, rhoddwr "Gardd gladdu Trefangor," yr hwn a ddaliodd ei dir trwy garcharau a dirwyon; a John Evans o'r Llwyndwr, adeiladydd capel Rhydwilym, yr hwn, yn lle myned i Rhydychain, a droisai at y Bedyddwyr yn 1673, ac a fu yn golofn i'r achos, a orphwysasant oddiwrth eu llafur tua 1705 ; Thomas Quarrel o Lan- trisant, Robert Morgan o Abertawy, a Thomas Parry o'r Gelli,—tri o ragorolion y ddaear, a aethant at eu gwobr tua'r rlwyddyn 1709. Ond er fod angeu yn tori adwyau llydain fel hyn yn y rhengau, ac America, fel arfer yn yr oesau hyny, yn llyncu amryw o'r goreuon; eto yr oedd yma gewri enwog wedi codi, y rhai yr oedd eu bwa yn gryf, a'u dylanwad yn fawr trwy Gymru. Nodwn Abel Morgan o'r Alltgoch, plwyf Llanwenog, swydd Aberteifì, yr hwn oedd weinidog yn Mlaenau Gwent yn nechreu y 18fed gan- rif, ac a gyfrifid yn un o ddynion mwyaf galluog ei oes. Ymadawodd i'r America yn 1711, ac ymsefydlodd yn Mhenypec, íle y gorphenodd ei oes lafurus a defn- yddiol yn 1722, yn 49 mlwydd oed. Cyn iddo ymadael â Chymru efe a gyfieithodd " Gyffe9 ffydd y Bedyddwyr," a " Chatecism y Gymmanfa," i'r Gymraeg; a gadawodd ar ei ol mewn llawysgrifen waith llafurus a elwir, " Cydgordiad o'r Ysgrythyrau santaidd," yr hwn a gy- hoeddwyd yn Philadelphia yn 1730. Dyma'r "Cydgordiad" cyntaf a gyhoedd- wyd yn Gymraeg. (Hanes y Bedyddwyr, tudal. 223—226.) Morgan Griffith o Hengoed, yr hwn oedd fugail ar fil o bobl yn Hengoed a'r Hendref, yn 1715. (Hist. Prot. Noncon. in Wales, p. 290.,) Ganwyd ef yn ardal Hwlffordd, yn 1669. Dygwyd ef at grefydd ac i'r weinidogaeth dan William Jones. Ymsefydlodd yn weinidog yn Hengoed, yn 1701. Yr oedd yn ddyn llafurus a phoblogaidd, ac enwog mewn duwioldeb. Bu farw yn 1738, yn 69 mlwydd oed, ac wedi bod ar y maes am 37 mlynedd. (Hanes y Bedyddwyr, tudal. 201—204.) Yr hawddgar a'r enwog Enoc Francis, gweinidog y Castellnewydd, am yr hwn y dywedir na phregethodd nemawr bre- geth erioed na byddai ei ddagrau ef a dagrau y gwrandawyr yn cydlifo. Gan- wyd ef yn Pantyllaethdy, Dyffryn Teifi, yn 1688.. Dechreuodd bregethu pan ond pedair ar bymtheg oed. Rhoddodd yr Arglwydd iddo ras a dawn anghyffredin» yr hyn a'i gwnaeth yn un o bregethwyf enwocaf ei oes. Tua'r fìwyddyn 1718» efe abriododd ferch dduwiol a rhinweddol teulu cyfrifol Blaen Rhymni, lle byddai canghen o eglwys Hengoed yn arfef addoli, ac aethant i fyw i Gapel Iago, get Llanybydder, swydd Gaerfyrddin; ac yfl 1730 symmudasant i Bencelli, ger f Castellnewydd, lle y terfynodd ei wraig ei gyrfa ar y 23ain o Awst, 1739, ac yntafl ei hun ar y 4ydd o Chwefror, 1740, gafl adael chwech o blant ar eu hol. Yr oedd ei chwe' phlentyn yn pwyso yn drwm af ei feddwl ef pan ar ei wely angeu; ond gofalodd "Tad yr amddifaid" yn rhyfedd am danynt. Tyfodd y chwech i fyny y» grefyddol. Bu un o'r tri mab farw yn 1749, yn 18 mlwydd oed. Priododd f ferch hynaf Stephen Davies, gweinidog ŷ Bedyddwyr yn Nghaerfyrddin. Daetfr Jonathan, ei fab hynaf, a Benjamin, ei fab ieuengaf, yn bregethwyr enwog- Jonathan Francis ydoedd gweinidog Pen- yfai, ac Enoc ei fab yntau ydoedd gwein- idog Exeter. Treuliodd Benjamin Francis ei oes yn Horsley, swydd Gaerloyw, lle f daeth yn un o enwogion y deyrnas, ac mae ei Emynau Seis'nig a Chymraeg wedi anfarwoli ei enw. Cymmerwn drem bellach ar ddechreuad y Bedyddwyr yn Ngogledd Cymru. Gwelsom eisioes fod Bedyddwyr yi» eglwys Wrecsam yn 1675, a bod u» Bedyddiwr, o'r enw Thomas Williams, yn henadur athrawol yn eglwys Llanar- mon a Llangybi, yn swydd Gaerynarfon» ar y pryd hwnw. Ymddengys fod eglwyf Wrecsam o'i dechreuad, sef o'r adeg y'i cynnullwyd gan Morgan Lloyd, yn gym- mysgedig o Annibynwyr a Bedyddwyr» (Hanes y Bedyddwyr, tud. 147.) Yf oedd Thomas Edwards, Ysw., o'r Rhual» ger y Wyddgrug, yr hwn oedd ŵr o ddysg, dawn, a duwioldeb, dan fedydd» ac yn aelod yn Wrecsam, yn amser Johfl Evans, (tad awdwr y pregethau enwog eX Christian Temper,) yr hwn a ddewiswyd yn weinidog yr eglwys yn 1668. Ysgrif- enodd Thomas Edwards dri o lyfrau, ac un o honynt, yr hwn oedd waith lled fawr» ar y ddadl rhwng Dr. Crisp a Dr. Daniel Williams. Efe a arferai gadw odfaon yfl ei balas, ac mewn lle pwrpasol a wnaethai efe ger llaw ei breswyl, y byddid arferol o fedyddio. Codwyd pregethwr enwog i'r Bedyddwyr yn Wrecsam yn y dyddiai* hyny, o'r enw Timothy Thomas; yr hwn oedd ŵyr i John Evans, y gweinidog; » dywedai Benjamin Keach am dano, "Un o'r pregethwyr goreu yn y deyrnas ydyw.'' Ni chafodd Wrecsam ond ychydig o'i lafur, gan iddo tua'r fiwyddyn 1696, ym- sefydlu yn Pershore. Ymddengys i'f Bedyddwyr gynnyddu mwy na'r Anni-