Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MAI, 1878. MAHOMET A'I GREFYDD. GAN y PARCH. J. DAVIES, BRYMBO. " Y mae ymddangosiad Mahomet, yn nghyda Uwyddiant a buddygoliaethau ei ganlynwyr, wedi dwyn i fewn gyfnod yn hanes Asia sydd yn annhraethol bwysicach na dymchweliad yr ymerod- raethRufeinig yn Ewrop."—Hallam. Y mae Mahomet y dyddiau hyn yn cael ei edmygu, ei barchu, a'i gydnabod fel prophwyd y Duw goruchaf, gan dros gan' miliwn o'r teulu dynol! Y mae hyn ar unwaith, heb son am ddim arall, yn ddigon i gyíFroi ein cywreinrwydd, a pheri i ni ofyn, Pwy yw y Mahomet hwns> pa bryd, a pha le yr oedd yn byw? a pheth yw ei grefydd? Nis gallwn lai na bod yn awyddus i wybod rhywbeth am ddechreuad a tharddiad crefydd sydd wedi llwyddo mor fawr, ymledaenu mor ëang a chyflym, sylfaen yr hon a osodwyd morgadarn—crefydd sydd wedi gwreiddio öior ddwfn yn meddyiiau cynnifer o blant dynion, ac wedi dylanwadu ar, ac ennill cymmaint o galonau i'w hanwylo. Wrth ystyried hyn, nid y w yn un achos o syn- dod ein bod am wybod rhywbeth am gymmeriad ac athrylith, egwyddorion a bywyd yr hwn a'i sylfaenodd. Ennillodd Mahometaniaeth fwy o dir, a dygodd fwy o dan ei dylanwad mewn pedwar ugain mlynedd, nag y darfu i'r ymerodraeth Rufeinig wneyd mewn wyth can' mlynedd. Nid oedd ymerodraeth Ithufain pan yn ei rhwysg penaf, a phan oedd wedi estyn ei llinyn mesur dros holl deyrnasoedd Ewrop, rhan fawr o Asia, a than o Affrica, ac hyd yr India, ddim toewn mesur i hyd a lled y tir a ennill- odd y grefydd Fahometanaidd. Canys Twrci yn Ewrop ei hunan o leiaf sydd naw cymmaint a Chymru a Lloegr, a Thwrci yn Asia sydd agos iawn gymmaint arall, ac yn y lleoedd hyn y mae Mahom- etaniaeth wedi bod yn llywodraethui neu 13 yn hytrach yn cam lywodraethu â gwialen haiarn. O ëangder Persia fawr drachefn, ac ymerodraeth y Mogul yn yr India hyd Arabia, sydd yn fil a thri chant o filltir- oedd o hyd, a deuddeg cant o led, a China, a lleoedd ereill, gellir rhifo y Mahomet- aniaid wrth y miliynau. Mae y goel grefydd hon wedi ennill cymmaint o ddaear gant o weithiau a thir Lloegr a Chymru. Pwy na ddiolchai fod ein llin- ynau wedi syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, ac nad ydym wedi ein geni a'n magu yn nghanol tywyllwch ac anwybod- aeth paganiaeth, Pabyddiaeth, na Ma- hometaniaeth. Bywyd a chymmeriad Mahomet. Ganwyd Mahomet yn Mecca yn Arabia, yn y flwyddyn 571, O.C. Yr oedd yr amser hwn yn un pwysig iawn. Yr eg- lwys Gristionogol mewn cyfiwr isel a diry wiedig—Arabia yn eilünaddolgar heb dresfh na llywodraeth, yn addfed i ryw chwyldroad, mewn sefyllfa ffafriol a man- teisiol i dderbyn crefydd newydd neu ífurf newydd o lywodraeth, mewn ystyr yn dysgwyl am reform—ymerodraeth fawr Persia'megys yn gwywo ac yn syrthio yn ddarnau mân—rhanau Gorllewinol ymer- odraeth Rhufain wedi eu hanrheithio gan y Gothiaid, y rhan Ddwyreiniol wedi ei gorfodi i dalu teyrnged i dy wysog Huns—■ 'ie, pan oedd tywyllwch moesol yn gordoi y gwledydd—cyfnod ag oedd yn ffafriol i gynlluniau ac uchelgais bydol. Yr amser hwn yr ymddangosodd Mahomet ar chwareufwrdd amser, ac yr effeithiodd un o'r cyfnewidiadau, un o'r chwildroadau