Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEÁL. RHAGFYR, 1879. BYN, NATUE, A'R BEIBL. GAN DEWI GLAN CLWYD, LLANELWY. Mah perthynas agos a phwysig rhwng dyn, nntur, a'r Beibl. Gellir dywedyd •iin díinynt, fel y dywedir ar fater arall, " V tri hyn yn un y maent yn cytuno." Nis gall y naill hebgor y llall. Y mae y cydgoriad a'r cydweddiad sydd rhyng- ddynt yn proíì i ni fod y tri yn gynnyrch Vr un Awdwr, neu yn blant yr un Tad, a Hwuw y Tad nefol. Nid oes gynneddf tnf wn dyn nad oes ganddi ei rhandir yn natur, na gwirionedd yn natur nad oes gynneddf i'w dderbyn mewn dyn. Y mae Uchelderau a dyfnderau yn natur er tynu allan alluoedd yr enaid, harddluniau i gyfarfod à phob gradd o deimladrwydd, * chyflawnder o amrywiaeth i gyfarfod â phob math o ddymuniad. Yr un modd îun y Beibl hefyd ; y mae dadguddiadau gogoneddus hwn yn cyfateb yn rhagorol i anghenion dyfnaf enaid dyn. Er mwyn dyn y gwnaed y greadigaeth, ac y rhodd- wyd y Beibl. Y maent wedi eu bwriadu a'u rhoddi fel dau brif athraw iddo. Nis gall dyn wella dim ar natur na'r Beibl, ond gallant hwy ddwyn yn mlaen well- ìant a chynnydd tragywyddol dyn. Cre- adur i'w ddysgyblu a'i ddysgu yw dyn, üefyllfa o ddysgyblaeth ydyw ei sefyllfa bresennol, a natur a'r Beibl ydyw dwy ffynnonell fawr ei addysgiadau. Fel hyn y mae y naill yn anhebgorol i'r llall, heb y naill byddai y llall yn ddiffygiol. Cre- ^digacth heb ddyn, llyfr heb un darllen- l'dd iddo fuasai; a thelyn heb un bys i chwareu arni. Dyn heb natur, fuasai llygaid heb ddim i edrych arno, clust heb Woriaeth iddi, llaw heb ddim i ymaflyd ÿnddo, a galiuoedd nerthoi heb waith lddynt. Ni fuasai y Beibl heb ddyn ond ÌÌJP fawr, yn cynnwys etifeddiacth anllygred- ig, ond heb etifedd i'w derbyn. Ond er hyn oll, fe wrthddadleuir gan rai y dyddiau hyn gydag awch rhyfeddol, fod natur a'r Beibl yn gwrthdaro ac yn annghydgordio â'u gilydd. Haerant fod yr iaith yn mha un y sieryd y Beibl am greadigaeth y byd, ac am berthynas y ddaear â'r cyrph nefol; megys yr haul yn codi ac yn machludo, &c, yn annghyd- safol â damcaniaeth y byd, fel y mae hi wedi ei sefydlu gan ymchwiliadau ath- ronawl y dyddiau presennol. Wrth gwrs, gwneir hyn gan wyddorwyr o duedd meddwi anffyddol. Mae y gwrthwyneb- iad hwn mor arwynebol fel nad y w braidd yn werth gwneyd sylw o hono. Mae y Beibl, tra yn proffesu bod yn Ddwyfol o ran ei darddiad, yn proffesu hefyd yr un mor bennodol, ei fod yn ddynol yn ei ddull o siarad. Y mae yn dyfod atom, fel ei Wrthddrych mawr, yn "nghyffelýb- iaeth dynion," ac yn defnyddio ein hiaith gyffredin o lefaru. Y mae dwy ffordd yn bod i gyfleu hanes gwrthddrychau, sef yn ol rheolau athroniaeth, ac mewn ffordd boblogaidd—fel y mae peth yn bod mewn gwirionedd, ac fel y mae yn ymddangos i ni. Y dull olaf hwn a fabwysiada y Beibl. Sieryd am greadigaeth y byd, am yr haul yn codi ac yn machludo, &c, mcwn iaith gyffredin, i gyfateb isyniadau cyffredin dyn am danynt. Nis gallasai wneyd yn wahanol heb chwildroi yn gyn- amserol bob gwyddor, a gwneyd ei hun yn ddadguddiad o wirionedd materol yn ogystal ag ysbrydol. Buasai cyflead o wirioneddau mewn arddull wyddorol, a thermau daearegol, yn hollol ddifudd i'r ^ythyr heb neb i'w ddarllen, ac ewyllys bobl gyffredin yn mysg yr Iuddewon 34