t GEEAL. AWST, 1880. OOFIANT Y PARCH. W. R. AMBROSE, TALYSARN. QAN Y PAEOH. A. WTLIJAMS, YSTRAD RHONDDA. HERWYDD amgylchiadau na t'yddai o un dyben eu holrhain yn bresennol, lluddiwyd yr ysgrifen- ydd i gyflawni ei addewid yn ^ghyfodiad y gofadail fechan hon ar fedd *in diweddar frawd Mr. Ambrose, hyd 5'n bresennol; ac er oedi a chael cyn- ^orthwy rhai cyfeillion* a feddent gryn *addau o adnabyddiaeth â'r gwrthddrych ì'n ei tìynyddoedd olaf, teirala fod prinder defny ddiau yn ei annghymhwyso i raddau *nawr i wneyd y cyfiawnder a garai âg *f. Cafodd yr ysgrifenydd yr anrhydedd 9 fod yn un o'i gymmydogion agosaf yn y weinidogaeth Fedyddiedig am ysbaid Ŵwe' blynedd. Gallesid tybied wrth hyn y buasai hyny yn gryn fantais iddo Ourfìo adnabyddiaeth bersonol âg ef, &c; <>nd gan fod tuag wyth milltir o ffordd Vn cyfryngu rhyngom, ac nad oedd y brawd yn ymweled â gwyliau yr enwad ÿn y sir ond pur anfynych, ni ddygwydd- Odd i ni ddyfod i gyffyrddiad â'n gilydd *hyw lawer o weithiau yn y cyfamser. Yr oedd yr ychydig adnabyddiaeth ber- ^onol a gefais o hono yn fy argyhoeddi ei îod yn gymmeriad rhy dda i syrthio i'r bedd yn ddisylw, ac o dan ddylanwad yr trgyhoeddiad hwn yr ydym yn ysgrifenu Vr ychydig linnellau hyn. Yn ol y traddodiad a gawsom, ym- ûdengys mai dyfodiaid i'r wlad hon oedd henafiaid ein brawd o du ei dad. O Sylch y flwyddyn 1715, daeth gŵr ieuanc o'r enw John Ambrose, Crydd wrth ei Mwedigaeth, drosodd o'r Iwerddon i sir *ôn, yr hwn, yn mhen peth amser, a ymunodd mewn priodas â gwyryf ieuanc * Ioan Eifion a Gurnoa Jones. 22 o gymmydogaeth Caergybi. Ganwyd iddynt fab o'r enw liobert, yr hwn a gariai yn mlaen yr un gelfyddyd a'i dad yn Mangor (Arfon). Yn ganlynol i'w ym- uniad priodasol, bu iddo yntau drachefn ryw nifer o feibion, dau o ba rai oedd Robert a John. Y cyntaf oedd tad gwrthddrych ein hysgrif, a'r olaf oedd tad y diweddar Barch. W. Ambrose, Fortmadoc. Daeth Robert Ambrose i fod yn bregethwr llafurus a chymmerad- wy gyda'r Bedyddwyr, a symmudodd pan nad oedd ond cymharol ieuanc o Fangor i Leyn, gan gymmeryd gofal gweinidog- aethol eglwysi Rhoshirwaen a Galltraeth, yn yr hwn gylch y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd W. R. Ambrose yn un o dri o blant. Ganwyd ef Ionawr 19eg, 1832, yn nhŷ capel Galltraeth, plwyf Bryncroes, Lleyn. Bu farw ei dad yn y flwyddyn 1833, pan nad oedd ef ond ychydig gyda blwydd ocd. Priododd ei fam yr ail waith gyda William Jones, dilledydd o'x gymmydogaeth uchod, yr hwn a ddygodd ei fab yn nghyfraith i fyny yn yr un alwedigaeth. Wedi dyfod yn alluog o hono i ymladd brwydr bywyd yn anni- bynol ar gymhorth ei dad mabwysiedig, penderfynodd ein gwrthddrych na chyf- yngai ei wasanaeth i gylch cartref, ond y mynai weled ychydig ar y byd, ymdroi mewn cymdeithas y tu allan i wlad Lleyn, ac ymgyfarwyddo â'r flàsiynau newydd- ion cyssylltiedig â'i alwedigaeth; ac i'r dybenion hyn, ac ereill, gadawodd ei ranbarth enedigol am Bangor, Lerpwl, Caerynarfon, Portmadoc, &c. Bu Mr. Ambrose yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Ann, merch Mr.