Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEAL. CHWEFROR, 1858. EMMAWYNNE/'NEU Y WYRYF DWYLLEDIG. (PARHAD O TUDAL. 4.) Bywbryd tua'r amser hwn daeth mah brawd i Hugh Wynne ar ymwelaid i'r Coed poeth ; yr oedd tad y gwr ieuanc yn byw yn Llundain, ac yn dwyn yn mlaen fasnach Iwyddiannus mewn defnyddiau dillad o bob math. Yr oedd y gwr ieuanc yn hûn o ychydig flwyddi na'i gyfnither, ac yr oedd yn gallu siarad Cymraeg rhagorol wrth ystyried fod ei rieni wedi symud i'r brif ddinas pan nad oedd ef ond llencyn tra ieuanc. Yr oedd ei rieni yn hynod o selog dros iaith a defion eu cenedl, a chan fod y tad yn llênor o gryn gyfrifiad, yr oedd yn hynod ymdrechgar i ddwyn ei fab i fyny mewn gwybodaeth o'r Gymraeg, ahelyntion ei choleddwyr. Felly yr oeddy gwr ieuatic wedi awyddu îlawer am dalu ymweliad a llenyrch ym- daith ei dadau, a buan y cyfeiriodd eì gamrau i breswylfod ei ewythr, ar ol iddo unwaith roddi ei droed ar wyrddiön dir- iogaethau hil yr hen Geltiaid dewrion. Tynwyd ei sylw yn fuan gan harddwch ei gyfnither landeg, ac ymddangosai yn dra awyddus i ennill ei serchiadau; rhod- ient gyda'u gilydd i ben Moel y gaer, ac ar hyd y llenyrch o amgylch y Coed poeth, Esgairfraith, a'r Lluestwen. 0« byddai Master Allen yn iny ned i üref D— bydd- ai Emma yn sicr braidd o fod yn myned î'wganlyn; ni ddeuai y naill na'r llall byth i'r Bont wrthynt eu hunain ; cyn- northwyai Allen ei gyfnither i ddyfod J dros bob camfa, agorai iddi bob llidiard, casglai iddi bob blodeuyn prydferth, a di- fyrai hi yn ei rhodfeydd â hanes rhyfedd- odau a golygfeydd y brif ddinas. Dech- reuodd David Hughes, wrth weled hyny, gael ei drallodi gan ýr "anghentìí j gwyrddlygaid," sisialai yr ardalwyr fod j mab y Glyn yn cael y " cawell;" ymoll- ' yngodd yntau i yfed, gan edliw i Emma l ei hanffyddlondeb, hithau a'i hamddi- ffynai ei hun, gan ddywedyd na wnaeth un peth ond oedd hawliau perthynas a | lletygarwch yn ofyn oddiar eì llaw, ac j na feddyliodd hi am edrych ar ei chefn- \ der mewn un goleuni amgen nag yr ed- I rychai arno y pryd hwnw. Nid oedd j David, pa fodd byr.ag, i gymmeryd ei | berswadio felly, yr oedd yr argraffiadau j ar ei feddwl yn rhy ddyfnion i eiriau Emma eu dileu, cadwodd yr ymddygiad | yn ei galon, dywedai ynddo ei hunan, " Melus yw dial;" meddyliodd fod y diystyrwch oedd Emma wedi ei daflu arno, trwy beidio siarad âgefunpryd- nawn yn nhref D—, yn haeddu ei gosbi, a phenderfynodd yn ei feddwl ar y dull i wneuthur hyny. Bu am gryn amser heb ymweled â'r Coed poeth yn ol ei arfer, ond dygwyddodd iddo daro ar Em- ma un dydd Sadwru, ar ymweliad yn yr Hafod genílaw tref D—; aethant gyda'u gilydd i'r dref, mynai David iddi ddyfod gydag ef i'r íý, ac er yr ymddangosai Émma ar y cyntaf yn anewyìlysgar i fyned, eto Uwyddodd tafod Ilyfii yr ym- osodwr i symmud ei gwrthwynebiad; siaradwyd ychydig am y dyeithrweh oedd wedi cymmeryd lle rhyngddynt, a chytunwyd i annghófio y cyfan, a'r cyrìi- mod a seliwyd â chusan uwch ben y cwpan gwin. Ond yr oedd David ar ei ddichel), ac nid oedd dim a foddlonai ddialgarwch ei fynwes, ond aberth o ddi-r weirdeb, yr hon y proífesai gariad ati fel at ei enaid ei hun. Arosasant yn y dref nes oedd yn lled hwyr, aethant adref gyda'u gilydd, galwasant yma wrth fyned heibio rhwng un ar ddeg a deuddeg o'r nos; caniatâodd Emma iddo fyned gyda hi i'r Coed poeth, cym- merodd David arno dywallt ei galon iddi; soniai am briodi, aphenderfynwyd rhai o'r parotoadau anghenrheidiol go- gyfer â hyny, a'r noson hòno dan add- ewidpriodas, Uwyddoddyr adyn ysgeler i wneyd gwyryf bru j'n butain iddo. Pan oeddar gychwyn adref y bore can'.ynol, troes Emma arno olygon Uawn o ddagr- au, a dywedodd, " Fy anwyl David, nid oes genyf yn awr ond ymddiried yn eich anrhydedd, maddeued y Goruchaf i mi os rhoes fy serch yn ormod arnoch, ond byddaf cyn pen tair wythnos eich priod cyfreithlawn, neu "Y Wyryf Dwylled- ig." Gwasgodd David hi ateifynwes, rboes ei wefus ar ei grudd welw, ac felly ymadawsant heb ddywedyd dim yn nihellach, ond " Bore da." Ni alwodd mab y Glyn yn y Coed poeth ar ol hyny am o gylch wyth neu naw diwrnod; synai Emma yn fawr at ei ddyeithrwch a'i absenoldeb ar y fath adeg, a sylwai ei mam ei bod yn ymddangos yn llawn mwy digalon nag arfer. Pau ddaeth y " Twyllwr Hudawl" yno y tro nesaf',