Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. MAWRTH, 1800. TRAETHAWD AE DDIENYDDIAD (CAPITAL PÜNISHMENT), èsa A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAJU, NEU NAD YDYW? ffîan g îäarcíj. ©. ìîobcrts, 13ctf)cl, îSassalca;. (Buddygol yn Eisteddfod Freiniol Iforaidd Aberdare, 1857J " There is much reason to believe that our public executions have had a direct and positive tendency to promote both murder and suicide."—Godwin : Eng. Pol. Inst. CYNNWYSIAD PENNOD I. Ymestyniad yr oes at welllant cymdeithasol.— Y<r argyhoeddiad cyffredinol fod cyfreithlau cosbol ein gwlad yn galw am sylw a diwygiàd.—Dienyddiad.—Hen syniadau yn ei gylch yn colli eu dylanwad arfedd- yliau y genedl.—Gogwyddiad amgylchiaduu presennol yn profi fod ei ddiddymiad, yn y deyrnas hon, yn agos.—Ỳ brifwrthddadl a ddygir yn erbyn ei ddiddymiad yn sylfaenedig ar y dybiaeth o'i anghenrheid- rwydd moesol, yn nghyda'r cadarnhad Ysgrythyrol o hono.—Dyledswydd y wasg a'r areithfa i lefaru yn eglur, ao i wasgaru syniadau cywir gyda golwg arno.—Amcan y Traethawd presennoí. SYLWADAÜ RHAGARWEINIOL. Perthyna i bob oes, i raddau mwy neu lai, ei phrif nodwedd ag sydd yn ei gwahaniaethu oddiwrth oesoedd ereill. Un o brif deithi yr oes bresennol yw ei gogwyddiad diwygiadol—ei hymestyn- iad at welliannau ymarferol yn nghyflwr a chyfansoddiad cymdeithas. Mae Crist- ìonogaeth yn cynnwys, nid yn unig elfenau hywyd ysbrydol, ond hefyd el- fenau dyrchafiad a dedwyddwch cym- deithasol a gwladwriaethol. Cynnyrch Cristionogaeth, yn neillduol yn ei dad- leniad Protestanaidd, yw yr hyn a elwir yn wareiddiad diweddar (modern cwil- ization). Ond er cymmaint o les y mae Cristionogaeth wedi ei effeithio ar gyflwr cymdeithasol y byd, nid yw ei helfenau gwelliannol eto yn agos wedi eu cyflawn ddadorchuddio; nid cynt y gweithir hwynt allan yn gyflwyr, nag y dechreua teyrnasiad y milflwyddiant yn ei holl ogoniant gwíadol yn gystal a chrefyddol. Mae tair prif eîfen yn han- fodol i wir gynnydd cymdeithasol;— meddyìddrycn o welliant; dymuniad i'w sylweddoli; a detholiad o foddion addas er ei gyrhaedd. Pan fyddo y tair elfen yma yn cydweithio mewn cyssondeb mewn meddyliau unigol a thrwy holl * Dywedai y beirniad am y Traethawd hwn, fod ei ymresymiadau yn nerthol ac argyhoeddiadol, a bod ei iaith a'i ddullwedd yn rymus ac yn swynol. ddosbarthiadau cymdeithas, er effeithio yn raddol gyfnewidiad llesol, y canlyn- iad fydd cynnydd cymdeithasol, neu yr hyn a elwir yn progress of civilization. Gallwn ddweyd yn ddibetrus fod yr elfenau hyn i'w canfod yn fwy eglur, ac yn gweithio eu ffordd yn fwy grymus, yn yr oes bresennol nag mewu un oes flaen- orol. Mae y byd y dydd heddyw, nid yn unig yn "ocheneidio," ond mewn ymdrech ingol am gyrhaedd rhyw gyflwr sydd yn well. Mae y ffaith o hyn yn fwy amlwg yn y deyrnas hon, efallai, na nemawr o wledydd ereill Ewrop, llawer o ba rai a gedwir yn ymddangosiadol mewn diysgogrwydd a marweidd-dra angeuol o herwydd trais-lywodraeth y gorthrymydd. Bydd gan yr hanesydd dyfodol ryw beth yn amgen i'w gofnodi am yr oes bresennol yn Mhrydain, na thraha penadurol, myntumiad hawl ddwyf'ol breninoedd, gormail hunanol a diwrthwyneb y bendefigiant, a haerllug- rwydd digywilydd y deyrn-eglwys— bydd ganddo i gofrestru ymdrechion egniol y genedl, mewn cyssylltiad â darddeddfiad y senedd, er symmud dryg- au a gwella cyflwr cymdeithas; symmud beichiau y gweithiwr, a lleddfu sefyllfa y tlawd; sefydlu mesurau er meithrin a diogelu iechyd y boblogaeth, a g.wasgaru manteision addysg yn mysg y lliaws; diddymu hen gyfreithiau barbttraidd a