Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jn YR ATHRAW. ' Penaf peth y w doethineb, cais ddoethineb, ac â'th holl gyfoeth cais ddeall." MAWRTH, 1853. IIE AIPDM©& ÍPAW& GAN ANXIOUS Y mae genym i'w ddangos yn mhellach, fod Paul yn ei weinidogaeth a'i ysgrifeniadau, wedi bod, ac yn bod o dan yr holl welliannau a gymerodd le, ac sydd yn cymeryd lle, ac a gymer le yn Ewrop a'r byd oll. Cael y byd at brawfynag ei olygiadau ef, mewn crefydd a gwladyddiaeth, a'i gwna yn fangre tangnefedd a dedwyddwch. 1. Y mae ei philosophi ddwyfyddol, wedi myned oddi tan holl philosophyddiaeth Groeg a Rhufain ; ac wedi achub Ewrop oddiwrth lygredigaeth eulunaddoliaeth. Yn ei amser ef, yr oedd y byd wedi gwirioni drwy philosophyddiaeth yr athrawon Cenedlig, " Yn noethineb Duw nid adnabu y byd drwy ddoethineb (y philosophyddion) mo Dduw." Ond fe welodd Duw yn dda, drwy fFolineb pregethu Crist wedi ei groeshoelio, gadw y rhai sydd yn credu. Yn y philosophydd- iaeth ddwyfyddol hon, mae gogoniant Duw yn wyneb íesu Grist yn tywynu, yn ogoniant teilwng o Dduw, mewn cyf- iawnder, santeiddrwydd, gras, a gwirionedd. Yma mae y Duw a wnaeth y byd a phob peth sydd ynddo, yn cael ei ar- ddangos yn mherffeithiadau ysbrydol ei hanfod, a gogoniant ei gymenad : y cyfry w oedd gweinidogaeth Paul, fel yr aeth teml y dduwies Ûiana, y ddelw a ddaeth oddiwrth lupiter i warth ; i'e, Iupiter ei hunan, a'i holl gymdeithion o is-dduw- iau a ddidduwiwyd yn Ewrop, ac yn mhob man lle bu Paul, ac yr â ei ysgrifeniadau.