Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE ATHRAW. ' Penaf peth y w doethineb, cais ddoethineb, ac â'th holl gyfoeth cais ddeall." MAI, 1853. GAN E. ROBERTS. GwNAETHöMrai sylwadau cyffredinol ar ddefnyddioldeb y Pellebyr dro yn ol. Ceisiwn ei ddarlunio y tro hwn. Y gofynind cyntaf sydd yn galw am ein sylw yw, Pa beth yw Trydaniaeth (Electricily) ? oblegyd heb wybod rhywbeth am hwn, annichonadwy yw ffurfìo un drychfeddwl am y Pellebyr Trydanol. Fel llawer peth arall, haws gofyn hyn na'i ateb. Haws ydyw gofyn pa beth yw dyn,na'i ateb, ac nis gellir ychwaith ei ateb yn uniongyrchol heb ddweyd fel yr hen ẃr hwnw, yr hwn pan ofynid iddo beth oedd dyn, a atebai, " Wel, ond dyn ydy o debyg." Yr unig ateb arall a ellir roddi i'r gofyniad hwn yw, dweyd y priodoleddau a ber- thyn i ddyn. Pe gofynid pa beth yw tân, dichon na ellir rhoi ateb uniongyrchol, ond gellir dweyd ei fod yn cynhyrchu gwres a goleuni, ac yn cyfnewid agwedd y defnyddiau a losga, &c. Felly i'r goiyniad, Pa beth yw Trydaniaeth, nis gallwn roddi atebiad uniongyrchol, ond gellir dweyd rhyw beth am ei briodoleddau. Ymgeisiwn at hyny, gan hyderu y gwna y darllenydd ei oreu tuag at amgyffred y mater. Ymddengys fod bodoliaeth Trydaniaeth yn wybedus er yn foreu, er mai yn ddiweddar v daeth ei ddefnyddioldeb i'r amlwg. Y Groegiaid Hygad- lym ac ymchwilgar, mae yn ymddangos, a'i canfu gyntaf. Dywedir iddynt hwy yn ddamweiniol ganfod rhywbeth tua chwe' chan' mlynedd cyn Crist a farnent hwy yn meddu bywyd, ond yn anweledig. Y modd y darganfyddasant ef oedd trwy rwbio ambr, yr hwn air yn Groeg yw electron, o'r nwn y mae y gair Saes'neg electricity wedi tarddu. Gloddyr (fossil) haner-tryloyw tebyg i ystor ydyw ambr. Cynhyrchir Trydaniaeth trwy rwbio sylweddau ereill yn gystaí ag ambr.