Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. EBRILL, 1859. RHIF XXIV. FARHAD 0 TUDAL 70. Wele ni o'r diwedd wedi myned trwy Agwedd Gweithredol y Ferf reolaidd yn ei holl Foddau a'i Ham- serau. Awn yn mlaen yn awr at YR AGWEDD GODDEFOL. Prin y ge^lir dywedyd fod Ffurfiau Syml yr Agwedd Goddefol yn bersonol, oblegyd nid oes dim yn ffurf yr Amserau yn dynodi yn mha berson y maent. Atebir, ac atebwyd, a ddywedir pa un bynag ai myfi, ai tydi, efe, neu hi, a atebir neu a atebwyd ; hyny yw, nid oes dim yn y Ferf ei hunan i ddynodi ei pherson; ond ihaid arfer llhagenwau gyda hi, os mynir dynodi ei pherson. Ond y mae i'r Agwedd Goddefol fel y Gweithredol Amserau Cyfansawdd, y rhai ydynt ber- sonol mor bell ag y mae y cynnorthwyaid a arferir yn- ddynt felly. FFURF ANNHERFYNOL. (a) Enwol—I'w ateb, i gael ei ateb. (b) Ansoddol—Amser Anmhennodol=yn cael ei ateb. ---------Gorphenol=:weài ei ateb ; wedi cael ei ateb. FFURF DERFYNOL.-MODD MYNEGOL. ÁMSER PRESENNOL. 1. Anmherffaith. Unigol. Lliosog. JPerson 1. Yr wyf yn cael fy ateb............ Yr ydym yn cael ein hateb. 2. Yr wýt yn cael dy ateb ......... Yr ydych yn cael eich ateb. 3. Y mae yn cael ei ateb ............ Y maent yn caeleuhateb.