Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. AWST, 1859. 02LA5ÄaiAÎ)l©o»»(BOTaîBa OTWTO3), RHIF XXVII. M O D D A I R (Adoerb.) (PARHAD O TUDAL. 198.) Awgrymwyd yn barod fod amryw fathau o Foddeir- iau. Gwasanaethed y brawddegau a ganlyn i egluro hyn;—Mae y dwfr yn rhedeg yn yyfiym yma yn awr. Ceir yma dri moddair; yn gyflym, yr hwn a ddynoda y modd y rheda y dwfr; yma, yr hwn a ddynoda y lle y rheda y dwí'r; yn awr, yr hwn a ddynoda yr amser y rheda y dwfr. Nid yw y dwfr yn rhedeg yn gyflym yma yn awr; nid yw y dwfr yn rhedeg yma yn awr. Sylwer ar y gwahaniaeth sydd rhwng y ddwy frawddeg hyn. Yn y flaenaf nid yw y negyddydd nid yn effeithio dim ar y Ferf rhedey, ond ar y moddair yn gyfiym; oblegyd nid gwadiad sydd ynddi fod y dwfr yn rhedeg, ond gwadiad fod y dwfr yn rhedeg yn yyflym. Ond y mae yr olaf yn cynnwys gwadiad íòd y dwfr yn rhedeg o gwbl. Y rheswm am hyn yw, mai terfynu ystyr y Moddair yn gyflym y mae y Moddair nacâol nid yn y flaenaf, ond terfynu ystyr y Ferf rhedeg y mae yn yr olaf. Eto;—Nid dwfr croeyw iawn yw yr hwn sydd yn rhedeg yn gyfìym yma. Yma nid yw y moddair iawn yn terfynu ystyr y Ferf rhedeg, na'r moddair yn gyflym, ond yr Ansoddair croeyw. Rhenir moddeiriau yn ddosbarthiadau yn ol eu swydd neu eu hystyron. 1. Moddeiriau Rhifyddol. Gan fod rhifau yn rhan- edig i brif-rifau a rhifau trefniadol, y mae y ddau ran- iad hyn yn perthyn i Foddeiriau Rhifyddol. Prif-rifol; — Unwaith, dwywaiih, dengwaith, canwaith, untro, deu-