Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. TACHWEDD, 1859. ItHIF XXX. § 41. TEITHI CYSSYLLTAIR. Yu ydys yn barod wedi gweled y gellir ffurfio brawddeg o Enw a Berf yn unig, megys ;—Cerddodd Dafydd. Gwelwyd hefyd y gellir ychwanegu amryw eiriau at frawddeg syml, er mwyn cyfleu y syniad yn fwy goleu. Ychwanegir Moddair er mwyn terfynu neu helaethu ystyr y Ferf;—Cerddodd Dafydd yn araf; neu os mynir dangos perthynas enw i'r Ferf neu i enw arall, arferir Arddodiad;—Cerddodd Dafydd i Gaer- dydd. Ond wrth liysbysu ein meddyliau, y mae weith- iau yn anghenrheidiol cyssylltu brawddegau yn nghyd. Gwneir hyn trwy gymhorth rhanymadrodd a elwir yn Gyssylltair, megys ;—Cerddodd Dafydd a marchogodd William, neu, cerddodd Dafydd, ond marchogodd Wil- liam. Ymudengys Cyssyllteiriau weithiau fel pe byddent yn cyssylltu geiriau yn nghyd ; ond pan y mae hyn yn cymmeryd lle, hawdd yw dangos ei fod yn codi oddiar y duedd sydd ynom i lefaru yn fyr, ac fod yr un faint o gyssylltiad rhwng pób un o'r enwau a gyssylltir fel hyn yn ngbyda'r haered neu y Ferf, a rhwng pob un o'r Berfau a gyssylltir trwy yr un moddion a'r enw. Er engraifft, gwnelai yr ymadroddion,—Dafydd a William a gerddasant, Dafydd a redodd ac a syrthiodd, pe y llefarid yn líawn,—Dafydd a gerddodd a WilHam a gerddodd, Dafydd a redodd a Dafydd a syrthiodd. Gan