Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. MAI, 1860. RHIF XXXVI. § 49 DEFNYDD A SEFYLLFA Y FANNOD. 1. Arferir y Fannod pan y byddis am osod allan berson neu wrthddrych mewn modd pendant, a'i wahan- iaethu oddiwrth bob un arall. Dynoda Enw heb Fan- nod syniad cyíFredinol; megys, dyn, hyny yw, unrhyw ddyn heb nodi pwy. Ond dynoda Enw gyda'r Fannod syniad pendant a neillduol; .megys, y dyn, hyny yw, y dyn dan sylw ar wahan oddiwrth bob dyn arall. 2. Anfynych yr arferir j Fannod gydag Enwau Pri- odol, ond arferir hi gyda phob Enw Cyffredin os byddis am nodi pwy neu pa beth a fydd dan sylw mewn modd pennodol. Er hyny arferir hi gyda'r Enw Iesu fynychaf, a chyda rhai Enwáu Priodol gwledydd, trefydd, &c.;— Yr America, yr Aipht, yr Iwerddon, yr India, yr Al- maen, y Bala. 3. Arferiry FannodgydarhaigeíriauhebfodynEnwau. Pan gymmer hyn le, gellir cymmeryd y Fannodryn ar- wydd íbd y gair a'i dilyna yn cael ei arfer mewn ystyr Enwol, neu fod rhyw Enw yn ddealledig mewn cyssyllt- Jad âg ef. (a) Arferir hi yn fynych gydag Ansoddeiriau, ac {b) weithiau gyda'r Ferf yn ei ffurf Annherfynol. • «) Nid felly y bydd yr annuwiplion; yr annuwiol a ddy- Wed yn ei galon; yr annuwiolion ni safant yn y fam; y byw * wyddant y byd'dant feirw; y cyfiawn a fydd byw trwy (b) " Yn medydd fy Arglwydd mi welaf, Ogoniant gwir grefydd y groes; Y claddu, y codi 'n Dduw cadarn, 'Nol darfod ei lafur a'i loee/'