Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

hi. IONAWR, 1865. Hopf Ddarllenwyr,— Blwyddyn newydd dda i chwi. Blwyddyn o lwyddiant, o gysur, ac o ddedwyddwch i chwi. Yr ydym am ddechreu y flwyddyn hon yn yr un man, ac yn agos yn yr un geiriau, a chyda yr un teimladau yn ein mynwes, yr un cynghorion yn ein genau, yr un dymuniadau yn ein catou, a'r un ceisiadau atoch chwi, ag oedd genym pan yn diweddu yr'hen flvvyddyn. Dyma yr Athraw yn dechreu blwyddyn newydd. Y mae erbyn hyn wedi cyrhaedd oedran gwr. Ganed ef yn 1827, fel y mae yn awr yn dechreu ei 38 mlwydd oed ; a chredwu ei fod yn ŵr mewn cryfder a nerth, mewn synwyr a doeth- ineb, ac nad yw ei gynghorion a'i gyfarwyddiadau wedi bod yn ofer a diles, ond yn hytrach o les a bendith i fìloedd yn ein gwlad. Y mae yr Athraw erbyn hyn, feddyliem, wedi ennill gwybodaeth a phrofiad, ac wedi profi ei hun yn gym- hwys i'w swydd fel Athraw, ac yn deilwng o ymddiried ieu- engtyd ein gwlad. Amcana yr Athraw at eiti gwneyd ytì fwy cyfarwydd â llyfr Duw, at agor ein deall yn yr Ysgrythyrau, ymdrecha i'n cael i fabwysiadu'r Beibl yn rheol ein bywyd, a'n cael i ymffrostio yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist. Amcana yr Athraw at ein gwneyd yn gymmydogion mwy heddychol a haeddbarch, yn gyfeillion mwy ffyddlàwn a mynwesol, yn blant mwy ufydd a gostyngiedig i'n rhieni, yn athrawon mwy Uafurus a defhyddiol yn yr ysgol, yn aelodau mwy gwerthgar a duwiol yn yr eglwys; ein gwneyd yn gall yn ein cenedlaeth ac yn ddoeth i iaGhawdwriaeth. Ystyria yr Athraw mai peth o bwys mawr yw addysgu yn iawn y tô ieuanc sydd yn codi. Y rhai sydd blant yn awr fyddant ein pobl yn y man, deiliaid ein hysgolion fydd ael- odau ein heglwysi yn union. Y mae eisieu dadblygu iddynt egwyddorion pur y Testament Newydd. Diolcha yr Athraw yn gynhes ac o galon bur i'w Oheb- wyr, atn ysgrifau buddiol a phwrpasol; i'w Ddos-barthwyr, am ymdrech a ffyddlondeb ; i'w Dderbynwyr, am daliadau Hawn ac amserol. Crefa yr 'Athraw ar bawb o'i gyfeillion wtieyd eu goreu dtos ei gylcbrediad. Gellid ya rhwydd gyd^g ymdrech