Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CHWEFROR, 1865. AWffilI II f ÂMîAWo Se yllfa anrhydeddus, ac o ymddiried annhraethol bwys- igi yn nghwrs bywyd y rhyw fenywaidd ydyw, bod yn fam— yn fammaeth. Iddi hi y rhoddodd y Creawdwr, fel y llaw gyntaf, y trysor penaf i ofalu am dano, a'r ymddiriedaeth fwyaf pwysig a fedd y ddaear, sef dwyn plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ni fwriadodd Duw iddynt eu magu i neb arall; ac y mae yn y3tyriaeth o'r fwyaf difrifol i bob mammaeth, ei bod yn sicr o fod yn magu ei rhai anwyl i ddedwyddwch neu druenî tragywyddol, a'i fod wedi ymddiried iddi hi y rhan flaenaf o'u hyfForddiant yn mhen y fFordd y dytent rodio, " fel pan heneiddiont, nad ymadawont â hi." Pa fodd bynag am yr "ymadaw," y mae o bwys i'r fam ei bod hi wedi gwneyd ei rhan, trwy eu gosod ar yr iawn fFordd i gychwyn i ddedwyddwch, fel y byddo hi yn lân oddiwrth euogrwydd eu cyfeiliornad, ac fel y fjallo gyfranogi o'r dedwyddwch o fwynhau ffrwyth ei llafur yn nhymher dda, bywyd rhinweddol a chrefyddol ei piilant, pan mewn addfedrwydd oedran. Y mae y gofìd a ga rhieni oddiwrth eu plant yn ofid blin, fel y dywed Solomon, " Mab ffol a dristâ ei fam." Y mae yn.werth cymmeryd llawer o ofal a thrafferth i ochel y tristwch hwn. Mae yr hyfrydwch a'r dedwyddwch a fwynha rhieni oddi- wrth eu plant rhinweddol yn felus iawn, fel y dywed yr uu gŵr doeth, "Mab doeth a wna dad llawen;" ac fe dâl y llawenydd hwn yn dda am ymdreeh lawer. Anwyl famau, pa uti bynag ai proffesedig ai dibroffes, ond yn enwedig famau crefyddol, a gaiff yr ystyriaethau uchod eich cymhell yn effeithiol i ymofyn, " Fel y gofynodd gwraig Manoah gynt, " Pa fodd y triniwn ni y plentyn, ac y gwnawn iddo?" Dichon nad oes yr un sefyllfa yn nghwrs bywyd gwragedd yn fwy naturiol a boddhaol na bod yn famau; ond ofnus yw, mai Uai yw yr ymofyniad a'r gofal pa fodd i fod yn famau doeth, rhinweddol, a dedwydd? Yn y rhan amlaf, gwelir ein rhyw deg yn prysuro i'r sefyllfa heb feddwl am ei phwysigrwydd, na myfyrio nemawr ar y rhinweddau moesol a chrefyddol sydd yn anbebgorol anghenrheidiol mewn trefn i fod yn famau gwir rinweddol a bendithlawn i'w plant. Ar