Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^TJBÊ. ATHHA.W. EBRILL, 1865. M!(D®©§3I& IRSTlSffS NETJ ARWRBS Y FFYDD. NODIADAL' RHAGARWF.INIOL. Ein bwriad ydyw dodi ger bron ein darllenwyr o fis i fis, hanes yr arwres ryfedd bon ; pa fodd y cododd ammheuaeth yn ei meddwl, ei hymdrechion diroi i fyny i gael gafael yn y gwirionedd, ei phenderfyniad i dori trwy bob rhwystrau i dalu ufydd-dod i Iesu Grist. a'i ffyddlondeb i gario allan ei phende-rfyniad. Tegwch â'r darlîenydd yw ei hysbysu mai ffughane* mewn rhan a roddir; o leiaf mae y cymmeriadau a ddygir yn mlaen i raddau yn ffugiol; ond gellir cwrdd â'u cyftelyb mewn cyssylltiad â'r oll o'r bron o eglwysi gwledydd cred. Teflir llen ífugiaeth dros yr ymresymiad er mwyn tynu sylw; ond ni cheisir cuddio yr amcan sydd mewn golwg, yr hwn ydyw gosod ger bron y darllenydd mewn arddull boblogaidd, ddengar, a dealladwy, y gwahanol resymau a frithant lyfrau mabanfedyddwyr o du trochiad y credadyn ac efe yn unig yn y bedydd. Tegwch yw hysbysu yn mhellach mai cyfieithiad a roddir genym o waith a ysgrifenwyd gan Awdwr Americanaidd. Nid yw yr Awdwr wedi dodi ei enw, ac ni bydd i ninnau ei ddodi ychwaith, er na raid i neb gywilyddio o'r cynnyrchiad. Yn wir mae'r gwaith yn anrhydedd i'w Aẁdwr, ac wedi i ni ei ddarllen yn ystyriol, nid yw yn un rhyfeddod genym ganfod yn y Rhagdraeth i argraffiad Llundain,* i 14,000 o gopiau o hono gael eu gwerthu mewn tua chwe' mis, wedi iddo gael ei argrafí'u gyntaf yn America. Gyda hyn o sylw.ihagar- weiniol, yr ydym yn cyflwyno cyfieithiad o'r rhan gyntaf i s)'lw ein darllenwyr,gan addaw dilyn yn mlaen o fis i fis hyd nes byddo y gwaith ar ben. PEN. I.— AMMHEUON YN CAEL EU HAWGRYMU. " Mam, a fedyddiwyd fi eiioed ?" Y gofynwr ydoedd fachgen llygadglas, cain, deallu3, tua * Gellir cael y llyfr yn Saesonaeg gan y Cyhoeddwr, H. J. TTesìdder, 17, Aveîíaria Laue, Patemoster Kow, London, E.C.