Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif559. GORPHENAF, 1873. Pris lc. PREGETH PEDR YN NHY CORNELIUS. Act. x. 34-43. jYMA'r bregeth gyntaf a draddodwyd erioed i'r Cenedl- oedd fel Cenedloedd. Yr oedd llawer o'r Cenedloedd wedi clywed yr efengyl yn cael ei phregethu yn flaenorol i hyn, ond yn awr y pregethwyd hi yn bennodol iddynt hwy gyntaf oll. Pregeth iddynt hwy yn bwrpasol ac yn fwriadol ydyw. Traddodwyd y bregeth yn nhý gŵr Cenedlig, Cornelius, canwriad o'r fyddin a elwid yr Italaidd, yn Caesarea. Yr oedd Csesarea i'r Hhufeiniaid oeddynt yn byw yn Mhalestina, yr hyn oedd Ierusalem i'r Iuddewon—euprif ddinas, aceisteddle eu llywodraeth. Gwr rhinweddol, urddasol, a da ydoedd Cornelius; yr oedd yn un a dderbyniodd les neillduol drwy ei gyssylltiad âg addolwyr y gwir Dduw. Yr oedd ya euwog mewn elusenau a gweddiau. Y pregethwr ydoedd Pedr, apostol yr enwaediad. Gallesid meddwl mai Paul, apostol y Cenedloedd, fuasai y cyntaf i gael yr anrhydedd hwn, ond nid felly y bu. Rhoddwyd agoriadau teyrnasiad y nefoedd i ofal Pedr. P'am ? nis gwyddom ya iawn. Yr oedd ef yn ŵr ffraeth—genau yr apostolion ydoedd, a dichon ei fod yn fwy cyflym ei feddwl, yn gweled yn mhellach, ac yn deall Crist a natur ei deyrnasiad yn well na neb o'r apostolion ereill. Meddylier am yr ymddyddan rhwng Iesu a'i ddysgyblion yn Ngaîsarea Philippi yn nghylch barnau y bobl am dano ef, ac yn neillduol eu barn hwy am dano ef.