Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif568. EBRILL, 1874. Pris lc. HEN -FEDYDDFANAU YN GYMHORTH I TJNDEB CRISTIONOGOL. TJn yio eglwys y Duw byto ifod, ac un afydd. IYMA oedd un o amcanion doeth a grasol Tad y teulu \)j yn gwneyd ei Grist yn ben uwchlaw pob peth i'r eglwys. Gosododd Crist sylfaen yr undeb yn ei farw- olaeth. Am hyn hefyd y gweddiai Iesu da, pan ar adael y ddaear, " Y Tad santeiddiol, cadw hwynt trwỳ dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megys ninnau." (Ioan xvii. 11.) Gweddiai hefyd dros y rhai a gredai ynddo hyd ddiwedd y byd, trwy weinidogaeth ei Genadon cyntaf, " Fel y byddont oll yn un; megys yr wyt ti, y Tad, ynof íì, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i. A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynthwy; fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un." (adn. 21, 22.) Derbyniodd Crist hwy gan ei Dad i'w huno, bu farw drostynt i'w huno, galwodd hwynt o'r byd i'w huno, gweddiodd ar iddynt gael eu huno, a rhoddodd y gogoniant a dderbyniasai gan ei Dad iddynt er eu huno, a gwnaeth eu hundeb yn rhan o'r moddion i ddwyn y byd i gredu ynddo. Mae yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, a grasau yr Ysbiyd Glân,—flŷdd a chariad yn amcanu i'w htmo. Jí mae yr apostolion a dderbyniasant Ysbryd Crist yn annog y saint i fod yn un, gan ddatgan fod eu hundeb yn hanfodol i rodiad addag i'r alwedigaeth y galwyd hwy iddi. (Eph. iv. 1.) Ao