Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhip571. GORPHENAF, 1874. Pris lc. DYSGYBL IEUANC DUWIOL. Sf\^?'R yâyra am gyflwyno ger bron darllenwyr hoff yr tíÊJ/ì Athraw ychydig o hanes y dysgybl ieuanc uchod, gan •^^ hyderu y bydd o fendith i'r rhai ieuainc hyny sydd yn ymdrechu dilyn Iesu Grist yn moreu eu hoes fel yntau. Enw y brawd ieuanc oedd Ishmael Bellis, a mab ydoedd i Thomas ac Elizabeth Bellis, Pant y Gof, Helygen, gerllaw Treffynnon. Ganwyd ef Ebrill lófed, 1860, a bu farw yn yr Iesu, Ionawr lleg, 1874. Gwelir oddiwrth hyn mai pedair blwydd ar ddeg oedd ei oedran pan fu farw, a chafodd neith a gras gan Dduw i broffesu Iesu Grist pan yn un ar ddeg oed; bu felly yn ddysgybl ac yn proffesu y Ceidwad grasol am dair blynedd cyn myned ato i fyw. Yr oedd ei ymarweddiad duwiol, a'i ymddyddanion crefyddol yn dangos ei fod yn ddysgybl ieuanc hynod o dduwiol, ac yn caru Iesu Gristyn fwy nag un gwrth- ddrych arall mewn bod. Nid oedd wedi ei fendithio â chorph naturiol cryf, eithr yn hytrach âg un lled wanaidd; ac o herwydd hyn, nid oedd ei gydnabod yn dysgwyl fod iddo oes faith yn y byd; ond ychydig feddyliai ei rieni y buasai yn eu gadael mor fuan; dysgwylient gael rhagor o'i gymdeithas ar y ddaear, canys yr oedd yn eu golwg fel canwyll eu llygaid. Oddeutu dwy flynedd yn ol cafodd anwyd neu oerfel lled drwm, ac effeith- iodd hwnw ar ei gyfansoddiad tyner i'r fath raddau, fel yr aeth i sefyllfa nad oedd gobaith am wellhad corph i Ishmael bach yn y byd hwn, er defnyddio'pob ymdrech er cyrhaedd hyny.