Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif573. MEDI, 1874. Pbis lc. MEDDWDOD, LLWYRYMWRTHODIAD, A HÜNANABERTHIAD. Jgŵ.N o'r pethau mwyaf niweidiol i'r ddynoliaeth, o ddîm y ìwìl gwyddom am dano ydyw meddwdod. Nid oes dim wedi gwneyd cymmaint o ddrwg i grefydd, cymmaint o rwygiadau, ac achosi cymmaint o alar yn eglwys Dduw a meddwdod, na dim wedi eífeithio mor niweidiol ar y byd yn mhob ystyr. Eto nid oes un pechod yn fwy pen uchel, ac mor anhawdd ei ddarostwng a'r pechod o feddwdod. Ond er mor anhawdd ydyw ei orchfygu, y mae un ffordd sicr i gael yr oruchafiaeth arno, sef trwy lwyrymwrthod â'r diodydd. sydd yn meddwi. Beth am y ddiod feddwol? Nid yw yn gymhwys i'w hyfed, 1. Am fod temtasiwn ynddL Y mae yr hyn a yfwyd wedi codi awydd am ragor o honi yn yr hwn a'i hyfodd; ond nid yw dwfr, llaeth, &c, yn gwneyd hyny. Pan yfir gwydriad o ddwfr neu laeth, bydd hyny yn ddigon genym at dori ein syched, ac nid yw yn codi awydd ynom am ychwaneg; ond pan yfir gwydriad o gwrw, pâr i ni sychedu ac ymawyddu am un arall, a pha fwyaf a geir, mwyaf i gyd fydd yr awydd am xagor. Nid ydyw yn ateb un dyben,. ond gwna ddyn yn fwy sychedig; huda ef i wario ei arian am dano, ac i dreulio eì amser i'w yfed; ond ni chlywsom son erioed am neb yn cae.1 ei hudo i golli ei amser i yfed dwfr. 2. Am fod ei hcffeithiau yn niweidiol, Y maeyn, difodi cyaut tymhorol dyn.. Gwna hyny^