Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhip 594. MEHEEIN, 1876. Pris lo. ATHRAWON, A'R GWAHANOL FATHATJ O HONYNT. Athbaw ydyw un a ddysga unrhyw ganghen o wybodaeth i arall, pa un bynag a fyddo, ai da ai drwg. Mae amryw o wahanol fatbau o athrawon. I. Llyfbau. Gwasgara llyfrau wybodaeth, a thrwy hyn addysgant ddynion; ond y prif athraw o'r math yma o athrawon ydy w y Beibl. Hwn y w y goreu a'r gwerthfawrocaf o bob llyfr. Mae y Beibl yn well ac yn werthfawrocach na llyfrau ereill o herwydd yr hwn a'i rhoddodd, sef Duw, yr hwn yw y mwyaf o bawb, "a'r hwn a fawrhaodd ei air goruwch ei enw oll." Felly, mae y Beibl yn ogyfuwch â Duw ei hunan; a cheir yn y Beibl feddwl ac ewyllys Duw. Y mae holl lyfrau addysgiadol ereill wedi eu hysgrifenu gan ddynion, ac amryw gan ddynion pur ddrwg; ond am y llyfr hwn, ysgrifenwyd ef o dan "Ddwyfol ysbrydoliaeth," gan "ddynion santaidd Duw," yn cael eu cyfarwyddo gan ei Ysbryd ef. Gan hyny, dylai pawb yn mhob amgylchiad, gymmeryd eu haddysgu gan yr athraw yma,—ei astudio ef yn benaf, a chânt ynddo drysorau anniflanedig, perlau wedi eu rhoddi gan Dduw. Gwna y gair Dwyfol ddangos a'n haddysgu pa fodd i gael bywyd tragywyddol, a myned i'r nefoedd at Dduw i fyw am byth. II. Natur. Y mae "natur" hefyd yn athraw mawr, ae addysga ni