Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif 603. MAWRTII, 1877. Pris lc. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y >ARCH. J. RUFU8 WILLIAMS. MAE yr anwyl Rufus wedi ei rifo yn mhlith y marwolion. Ganwyd ef Maiôed, 1833; felly nid oedd wedi cyrhaedd ei 44 mlwydd oed pan fu farw. Er ei fod yn ymddangos yn ddyn cryf, nid oedd ei iechyd wedi bod yn dda er's llawer o flynyddau. Bu yn lled wael er's dwy flynedd ynol; ond gwellhaodd yn lled dda ar ol hyny, fel y meddyliai ei gyfeillion ei fod allan o berygl. Er hyny tua thri neu bedwar mis yn ol dechreuodd waelu eilwaith, a chynnyddodd ei ddolur, neu ei ddoluriau yn hytrach, gyda'r fath rym fel y treuliwyd pob ymdrech meddygol, ac y bu farw am hanner awr wedi tri o'r gloch boreu Llun, Chwefror 12fed, 1877. Daeth cannoedd lawer i'w anngladd y dydd Iau canlynol, ac yn eu plith yr oedd mwy na* 60 o weinidogion perthynol i'r Bedyddwyr, a rhyw ddeg yn perthyn i enwadau ereill. Gwyddom y bydd llawer o ddarllenwyr yr Athraw, yn gystal a miloedd ereill yn Neheu a Gogledd Cymru, yn teimlo yrt ddwys oblegyd ymadawiad y gweinidog llafurus hwn i Iesu Grist. Par hyn o anghenrheidrwydd gyfnewidiad yn nygiad yn mlaen yr Athraw. Hyderwn y byddwn wedi gallu gwneuthur ein trefniadau mewn pryd i'w hysbysu yn Athbaw Ebrill.