Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. " Hefyd, bod yrenaidheb wybodaeth nid yw dda."—Diar. xix. 2. IONAWR, 1858. RHIF. X. § 6. TEITHI ANSODDAIR. Wrth draethu ar natur enw, dywedwyd "fod ansodd- air yn cyfleu yr amgyfFrediad o briodoledd, hyny yw, o rywbeth a ystyrir fel ansawdd neu gynneddf mewn person neu wrthddrych." Defnydd ansoddair yw neill- duoli neu ddangos ansawdd enw; ac am hyny gellir ei alw yn air a ychwanegir at enw, i ddynodi rhyw ansawdd sydd yn gwahaniaethu un person neu wrth- ddrych oddiwrth bob person neu wrthddrych arall a elwir ar yr un enw ; megys, tý coch, gwraig gariadlawn, achos arianol, yr hen wr, yr ugeinfed catrawd ; lle y mae y ty, y wraig, yr achos, y gwr, a'r catrawd, yn eael •u gwahaniaethu oddiwrth bob ty, gwraig, achos, gwr, a •hatrawd ereill trwy yr ansoddeiriau coch, cariadlawn, arianol, hen, ac ugeinfed. Er mwyn deall natur ansodd- air yn mhellach, gallem sylwi y gellir haeru yr ansoddair am enw, ond ni ellir haeru dira am yr ansoddair; neu mewn geiriau ereill, mai enw yw deiliad pob haeriad, ac mai haereb (jpredieote) yw yr ansoddair. Yn y frawdd-