Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. AWST, 1858. RHIF. XVII. § 24.—RERFAU TERFYNOL {FINITE VERBS). Galwyd y Ffurfiau o'r Ferf a elwir y Modd An- nherfynol a'r Rhangymmeriad yn Ferf Annherfynol, neu Ffurfiau Annherfynol y Ferf; daw y fíurfiau ereill o dan sylw yn y ddosran hon. Mor bell ag y mae a fyno â dangos bodolaeth, gweithrediad, a goddefiad, y mae y Ferf Derfynol yr un peth a'r Ferf Annherfynol. Ond yn ychwariegol at hyny y mae i'r Ferf Derfynol amryw- iaethau i ddýnodi Rhif a Pherson, Amserau a Moddau; y rhai hyn a wneir yn gyíFredin trwy ychwanegu am- rywiol derfyniadau neu ol-ddodion at wreiddyn y Ferf, neu, fel y dywed Grammadegwyr Germanaidd, at y bonyn (stemwori). Y mae peth anmhriodoldeb mewn galw yr hyn a gyfeirir ato yn wreiddyn, oblegyd gall ystem y Ferf, hyny yw, y rhan hwnw o honi nad yw ÿn agored i ogwyddiad, beidio bod yn air gwreiddiol. Y mae cyfateb, ymofyn, fyc, yn eiriau cyfansawdd ac nid gwreiddiol; eto, nid ydynt yn myned dan un math o amrywiad yn nghyfymrediad (conjugatiorì) y Ferf, ond ychwanegir terfyniadau atynt;—cyfateb-a, cyfateb-odd, cyfateb-ai; ymofyn-a/, ymofyn-ats, ymofyn-it>n, ymof- yn-aswn. Gan hyny, yr ydym, er mwyn gochel cam- gymmeriad, yn mabwysiadu y gair estronol ystem am yr hyn a elwir yn gyffredin yn wreiddyn y Ferf, hyny yw,