Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. RHAGFYR, 1858. ©MMMM)l©o=*!g,WIRl§ MITOI, § 30.—RHIF A PHERSONAU Y FERF. Oddiar y íFaith fod y Ferf yn dynodi bodoli, gweith- redu, neu oddef, eyfyd yr anghenrheidrwydd am Ber- sonau i'r Ferf; oblegyd rhaid fod i'r priodoleddau hyn ryw ddeiliad; hyny yw, ryw un neu beth yn bodoli, gweithredu, a goddef; a rhaid, hefyd, mai yr annerchwr, neu yr annerchedig, neu rywun gwahanol i'r ddau, yw y deiliad. Y mae, gan hyny, dri pherson i'r Ferf', fel y mae i Ragenwau Personol; y rhai a elwir y cyntaf, os yr annerchwr fydd y deiliad; yr ail, os yr annerchedig; a'r trydydd, os rhywun arall. Gall fod y deiliad yn unigol neu íiosog; hyny y w, gall fod ychwaneg nag un yn annerch, yn cael ei annerch, neu yn destyn yr an- nerchiad. Dichon mai yr hysbysiad yw,—fy mod i neu ni, neu»dy fod ii, neu chwi, neu ei fod ef, neu hwy, yn bod- oli,' yn gweithredu, neu yn goddef. Gwelir, gan hyny, fod dau rif yn perthyn i'r Ferf, yr unigol a'r Uiosog, a thri pherson yn y rhif unigol ac yn y rhif liosog. Nid oes yn mhob iaith amrywiadau gegwyddiadol i osod allan y personau a'r rhifau. Mae y Saesonaeg yn dra diffygiol yn hyn. Ni fedd un amrywiad yn yr Amser Presennol, oddigerth yn y Ferf to be, ond am yr áil a'r trydydd person \xnìgo\=àovest, loves; (lovesyàà yn y person cyntaf unigol, a'r tri lliosog) ac yn yr Am- ser Gorphenol, ni fedd un amrywiad ond yn yr ail ber-